100 mlynedd ers pleidlais i rai menywod, ond cynnydd yn dal ei angen

Dydd Mawrth, 06 Chwefror 2018

Mae WLGA yn dathlu canrif ers Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 a roddodd y bleidlais i rai menywod yn y Deyrnas Unedig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mary Sherwood (Abertawe), Cyd Lefarydd WLGA dros Gydraddoldeb, Diwygio Llesiant a Gwrth-Dlodi:

“Mae’n bwysig ein bod ni yn dathlu y diwrnod yma ac yn cofio ymdrechion y swffragwyr blaengar a wnaeth helpu i newid trywydd ein hanes ni. Bu i fenywod dylanwadol ac ysbrydoledig o Gymru, megis y Fonesig Rhondda o Lanwern, Winifred Coombe Tennant o Gastell Nedd ac Emily Phipps o Abertawe, gyfrannu tuag at fudiad y swffragwyr a wnaeth helpu i ddod a chydraddoldeb democrataidd i’n gwlad.”

“Tra’r ydyn ni wedi gweld llawer o gynnydd, rydyn ni’n dal heb gyflawni gwir gydraddoldeb yn ein democratiaeth, ein gwleidyddiaeth ac ein cymdeithas; mae dadleuon diweddar megis sgandal gyflog y BBC, rôl menywod mewn digwyddiadau chwaraeon, a’r honiadau ysgytwol o aflonyddu a cham-drin rhywiol mewn gwleidyddiaeth i gyd yn dangos pa mor bell yr ydyn ni’n dal angen ei deithio i hybu cydraddoldeb yn ein cymdeithas.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Cyd Lefarydd WLGA dros Gydraddoldeb, Diwygio Llesiant a Gwrth-Dlodi:

“Mae’n wych mai menyw sydd yn arwain WLGA am y tro cyntaf ond dim ond 4 arweinydd a 6 dirprwy arweinydd, ar draws 22 o awdurdodau lleol Cymru, sy’n fenywod. Dim ond 28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, ac ar yr un cyfradd o gynnydd, byddai’n cymryd canrif arall i gyrraedd cynrychiolaeth gyfartal yn ein siambrau cyngor.”

“Mae WLGA felly wedi ymrwymo i hybu mwy o amrywiaeth ymysg yr holl grwpiau tan-gynrychioledig, a byddwn yn gweithio gyda chynghorau a phartneriaid i hybu mwy o gyfranogiad ac ymgysylltu mewn democratiaeth leol.”

“Mae ystod o weithgareddau a mentrau yn cael eu cynllunio i gydfynd â Diwrnod Rhyngwladol Menywod ar 8fed o Fawrth a bydd rhaglen ‘Amrywiaeth yn ein Democratiaeth’ yn parhau tan yr etholiadau lleol nesaf yn 2022.”

 

Caiff y canmlwyddiant o fenywod yn cael y bleidlais ei nodi yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gyda Datganiad gan Arweinydd y Tŷ y prynhawn yma a chyfres o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ledled y DU trwy gydol y flwyddyn. Mae cyfraniad a bywydau 100 o swffragwyr blaengar, gan gynnwys nifer o fenywod o Gymru, yn cael eu dathlu mewn prosiect sydd yn cael ei gydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol y Menywod, a gefnogir gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA).

 

Rhoddodd Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 y bleidlais i fenywod dros 30 oed, ond bu’n rhaid aros 10 mlynedd arall hyd nes i fenywod gael cydraddoldeb democrataidd â dynion, trwy gyflwyno Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (Masnachfraint Gyfartal) 1928.

 

Amcangyfrifir gan y Gymdeithas Fawcett, ar y cyfradd presennol o gynnydd mewn etholiadau, bydd 82 mlynedd arall tan y bydd cynrychiolaeth gyfartal yn cael ei gyflawni mewn llywodraeth leol yng Nghymru.

 

 

Gwybodaeth pellach

 

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30