News http://wlga.cymru/news http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 120 no "Dangoswch nad oes lle mewn cymdeithas i drais yn erbyn menywod" Dylai sgyrsiau ynglŷn ag atebolrwydd am drais yn erbyn menywod ganolbwyntio ar ymddygiad y cyflawnwyr yn lle ymddygiad y dioddefwyr yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wrth i'r byd gofio Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod.

Heddiw [Dydd Iau 25 Tachwedd] yw Diwrnod y Rhuban Gwyn hefyd, sy'n dechrau 16 diwrnod o weithredu gyda'r nod o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod. Mae hynny'n cynnwys gofyn i ddynion a bechgyn herio ymddygiad camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau, eu cydweithwyr a'u cymunedau.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

"Rwy am anfon neges glir nad oes cyfrifoldeb ar fenywod i newid eu hymddygiad, y rhai sy'n cam-drin ddylai newid eu hymddygiad. Mae trais gan ddynion ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi effeithio ar fywydau menywod mewn modd cyson ac eang ers rhy hir o lawer.

"Nod Diwrnod y Rhuban Gwyn a'r 16 diwrnod o weithredu yw grymuso dynion a bechgyn i herio ymddygiadau amhriodol, pan fo'n ddiogel i wneud hynny, a chynnig cymorth. Mae angen gweithredu ar y ddwy ochr er mwyn mynd i'r afael â thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod; rhaid i ni gefnogi goroeswyr a dwyn cyflawnwyr i gyfrif, ond rhaid i ni hefyd sicrhau newid gwirioneddol mewn ymddygiad.

"Dim ond drwy wneud hynny y gallwn ni sicrhau diwylliant o gydraddoldeb a pharch mewn gwirionedd - rhywbeth y mae angen i bob un ohonon ni ei feithrin er mwyn gwneud yn siŵr bod modd i bob unigolyn fyw heb ofn."

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), Llywydd CLlLC:

"Mae pob math o drais yn erbyn menywod yn parhau'n bla erchyll yn ein cymunedau. Mae'n ffaith syfrdanol bod dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos gan bartner neu gyn-bartner, a bod 10,000 o fenywod yn cael eu cam-drin yn rhywiol bob wythnos yng Nghymru a Lloegr. Rhaid i bob un ohonon ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i roi terfyn ar yr ymddygiadau ffiaidd hyn. Mae'r sector llywodraeth leol wedi ymrwymo'n llwyr i weithio tuag at wireddu'r uchelgais hwn."

 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Gydraddoldeb:

"Bob blwyddyn, mae Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod yn rhoi cyfle i bob un ohonon ni ystyried y ffordd yr ydyn ni'n ymddwyn. Does dim esgus yn y byd dros gyfiawnhau unrhyw drais neu gamdriniaeth o'r fath. Rwy'n annog pawb ym mhob un o'n cymunedau i ddangos eu cefnogaeth drwy dyngu Llw y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni trais yn erbyn menywod, na gwneud esgus am drais gan ddynion yn erbyn menywod, na chadw'n ddistaw amdano. Gallwn ni sefyll gyda'n gilydd a chodi'n llais, i ddangos nad oes lle yn ein cymdeithas i ymddygiadau ffiaidd o'r fath."

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi'r Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2020 i 2021 heddiw. Bwriedir hefyd lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y ffordd y gall Cymru gryfhau ei Strategaeth Genedlaethol ar gyfer y pum mlynedd nesaf ar 7ed Rhagfyr 2021.

Bydd hyn yn canolbwyntio ar drais yn erbyn menywod ar ein strydoedd ac yn y gweithle yn ogystal â'r cartref, er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

]]>
http://wlga.cymru/show-that-there-is-no-place-in-society-for-violence-against-women http://wlga.cymru/show-that-there-is-no-place-in-society-for-violence-against-women http://wlga.cymru/show-that-there-is-no-place-in-society-for-violence-against-women Thu, 25 Nov 2021 12:52:00 GMT
Cynghorau Cymru wedi ymrwymo i Gymru Wrth Hiliol Mae CLlLC a phob un o gynghorau Cymru wedi arwyddo addewid #DimHiliaethCymru cyn cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru gan Lywodraeth Cymru ac i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Gwahaniaethu ar Sail Hil.

 

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Cyd Lefarydd CLlLC dros Gydraddoldebau, Diwygio Budd-daliadau a Gwrth-Dlodi:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n cymunedau i wneud Cymru yn wlad wrth-hiliol. Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i’w groesawu ac yn herio ein cyrff cyhoeddus a’r gymdeithas ehangach i wneud mwy. Bydd yn mynnu arweiniad, yn mynnu gweithredu ac yn mynnu newid. Rydyn ni wedi ymrwymo i ymateb yn bositif i’r ymgynghoriad hwn i sicrhau ein bod ni’n mynd i’r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb yng Nghymru.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Mary Sherwood (Abertawe), Cyd Lefarydd CLlLC dros Gydraddoldebau, Diwygio Budd-daliadau a Gwrth-Dlodi:

“Rwy’n falch fod cynghorau Cymru wedi arwyddo addewid Dim Hiliaeth Cymru, yn sefyll yn erbyn hiliaeth ac yn ymrwymo i hyrwyddo gweithleoedd a chymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal. Fe wnaeth Cyngor CLlLC hefyd yn ddiweddar ymrwymo i gynllun gweithredu “Amrywiaeth mewn Democratiaeth” uchelgeisiol sydd â’r nôd i hybu’r amrywiaeth o ymgeiswyr a chynghorwyr yn yr etholiadau lleol fis Mai nesaf. Mae cynghorau hefyd wedi gweithio tuag at leihau anghydraddoldebau ond mae’r Cynllun Gweithredu yn dangos ein bod angen gweithredu ar y cyd gyda’n gilydd gan fod hiliaeth yn parhau i fod yn ein cymdeithas ac anghydraddoldeb yn parhau i effeithio’n wael ar fywydau pobl Dduon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.”

 

-DIWEDD-

 

Am fwy o wybodaeth:

Mae’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei siapio gan bobl sydd â phrofiad bob dydd o hiliaeth ac wedi ei lunio trwy ymgysylltu gyda chymunedau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a rhanddeiliaid allweddol eraill.

 

Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael yma: https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cydraddoldeb-hiliol-cymru-wrth-hiliol        

]]>
http://wlga.cymru/wales-councils-committed-to-an-anti-racist-wales http://wlga.cymru/wales-councils-committed-to-an-anti-racist-wales http://wlga.cymru/wales-councils-committed-to-an-anti-racist-wales Wed, 24 Mar 2021 19:45:00 GMT
Adnoddau cefnogi plant sy’n ffoaduriaid ar gyfer athrawon ac ysgolion nawr ar gael ar-lein Mae pecyn sydd wedi ei gynllunio yn arbennig ar gyfer athrawon ac ysgolion i gefnogi anghenion plant sy’n ffoaduriaid wedi eu ailcartrefu yng Nghymru, nawr ar gael i’w gychu ar-lein.

Wedi’i leoli ar borth addysg ar-lein Hwb, bwriad y pecyn yw i gefnogi athrawon a staff wrth addysgu plant sy’n ffoaduriaid yng Nghymru.

Y gobaith yw y bydd helpu ysgolion i wella dealltwriaeth o anghenion unigryw plant sy’n ffoaduriaid yn gwneud y newid i’w bywydau newydd yng Nghymru ychydig yn haws.

Cafodd y prosiect ei gomisiynu gan Bartneriaeth Mewnfudo Strategol CLlLC, a’r gwaith ei ymgymryd gan Wasanaethau Lleiafrifoedd Ethnig Gwent (GEMS).

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Llefarydd CLlLC dros Gydraddoldebau:

“Mae’n anodd dychmygu’r poen a’r ansicrwydd a brofir yn enwedig gan blant wrth iddyn nhw adael eu mamwlad i gael eu ailgartrefu miloedd o filltiroedd i ffwrdd a chychwyn o’r newydd. Ond wrth ehangu ein dealltwriaeth o’u amgylchiadau a’u anghenion, gallwn ni helpu i wneud y newid hynny ychydig yn haws i’r plant yma.”

“Bydd y pecyn yma yn adnodd gwerthfawr i athrawon a staff ysgol i droi ato er mwyn sicrhau bod y plant yma’n cael yr un cyfle i ffynnu â phob plentyn arall yng Nghymru.”

Gall athrawon a staff ysgol gael mynediad at y pecyn adnoddau yma ar: https://hwb.gov.wales

-DIWEDD-


Nodyn i Olygyddion:

Mae Pecyn Ymgyfarwyddo Diwyllianol hefyd ar gael ar wefan CLlLC: http://wlga.cymru/resources-to-support-syrian-refugees-in-wales

Cysylltiad ar gyfer ymholiadau:

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Phartneriaeth Strategol Mewnfudo WLGA ar: 02920 468658

]]>
http://wlga.cymru/refugees-support-packs-for-teachers-and-schools-now-available-online http://wlga.cymru/refugees-support-packs-for-teachers-and-schools-now-available-online http://wlga.cymru/refugees-support-packs-for-teachers-and-schools-now-available-online Wed, 20 Jun 2018 09:52:00 GMT
Llywodraeth leol yn #GweithioDrosGynnydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod Caiff Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ei nodi heddiw gyda llu o weithgareddau ar draws Cymru i ddathlu cyfraniad menywod ac i weithio dros gynnydd ar gynrychiolaeth gyfartal.

Bydd cyfarfodydd rhwydweithiau menywod, trafodaethau ac arddangosfeydd gan fenywod ysbrydoledig ar draws nifer o gynghorau yn cael eu cynnal, gan gynnwys trafodaeth ym Mhrifysgol Abertawe gyda panel traws-bleidiol yn cynnwys y Cynghorydd Mary Sherwood, Cyd Lefarydd WLGA dros Gydraddoldebau, ac Aelodau Cynulliad i drafod cyfraniad menywod a sut i gyflawni cynnydd ar gynrychiolaeth gyfartal.

Ymysg gweithgareddau eraill yn digwydd yn lleol mae:

Neuadd y Ddinas Caerdydd a Sgwâr y Castell Abertawe yn cael eu goleuo yn borffor i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn hybu ac yn darparu menywod ifanc rhwng 11-20 gyda’r cyfle i ‘gysgodi’ rhai o’i menywod ysbrydoledig mewn amryw lefydd a swyddi am y dydd.

Digwyddiad yn Ysgol Casgwent, Sir Fynwy i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, yn cynnwys cyngor a hanesion ystod eang o fenywod sydd wedi dod yn lwyddiannus ac yn arwain y ffordd mewn diwydiannau sy’n cael eu hystyried wedi’u dominyddu gan ddynion.

Fodd bynnag, mae WLGA yn glir bod yn rhaid gwneud mwy i weithio am gynnydd er mwyn hybu mwy o fenywod i gymeryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

Dywedodd y Cynghorydd Mary Sherwood (Abertawe), Cyd Lefarydd WLGA dros Gydraddoldeb, Diwygio Llesiant a Gwrth-Dlodi:

"Mae’n bwysig ein bod ni yn dathlu cyflawniadau a chyfraniad menywod i fywyd cyhoeddus, ynghyd ag ymdrechion y swffragwyr blaengar a wnaeth helpu i newid trywydd ein hanes ni. Fe wnaethon ni yn ddiweddar nodi canrif ers i rai menywod gael y bleidlais wedi i fenywod dylanwadol ac ysbrydoledig o Gymru, megis y Fonesig Rhondda o Lanwern, Winifred Coombe Tennant o Gastell Nedd ac Emily Phipps o Abertawe, gyfrannu tuag at fudiad y swffragwyr a wnaeth helpu i ddod a chydraddoldeb democrataidd i’n gwlad."

"Tra’r ydyn ni wedi gweld llawer o gynnydd, rydyn ni’n dal heb gyflawni gwir gydraddoldeb yn ein democratiaeth, ein gwleidyddiaeth ac ein cymdeithas; mae dadleuon diweddar megis sgandal cyflog y BBC, rôl marched mewn digwyddiadau chwaraeon a’r honiadau ysgytwol o aflonyddu a cham-drin rhywiol mewn gwleidyddiaeth i gyd yn dangos pa mor bell yr ydyn ni’n dal angen teithio i hybu cydraddoldeb yn ein cymdeithas."

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Cyd Lefarydd WLGA dros Gydraddoldeb, Diwygio Llesiant a Gwrth-Dlodi:

"Mae’n wych mai menyw sydd yn arwain WLGA am y tro cyntaf ond dim ond 4 arweinydd, 6 dirprwy arweinydd a 5 prif weithredwr ar draws 22 o awdurdodau lleol Cymru, sy’n fenywod. Dim ond 28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, ac ar yr un cyfradd o gynnydd, byddai’n cymryd canrif arall i gyrraedd cynrychiolaeth gyfartal yn ein siambrau cyngor."

"Mae WLGA felly wedi ymrwymo i hybu mwy o amrywiaeth ymysg yr holl grwpiau tan-gynrychioledig, a byddwn yn gweithio gyda chynghorau a phartneriaid i hybu mwy o gyfranogiad ac ymgysylltu mewn democratiaeth leol."

"Ynghyd a’r dathliadau a gweithgareddau sy’n cymeryd lle ymhob cornel o’r wlad heddiw, bydd rhaglen gydlynol ‘Amrywiaeth yn ein Democratiaeth’ yn parhau tan yr etholiadau lleol nesaf yn 2022. Mae WLGA yn cefnogi ymgyrch arweinyddiaeth Chwarae Teg, ac mae menywod amlwg mewn llywodraeth leol wedi cynnig i gefnogi Rhaglen Fentora Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod."

Amcangyfrifir gan y Gymdeithas Fawcett, ar y cyfradd presennol o gynnydd mewn etholiadau, bydd 82 mlynedd arall tan y bydd cynrychiolaeth gyfartal yn cael ei gyflawni mewn llywodraeth leol yng Nghymru.

]]>
http://wlga.cymru/local-government-to-push-for-progress-on-international-women’s-day http://wlga.cymru/local-government-to-push-for-progress-on-international-women’s-day http://wlga.cymru/local-government-to-push-for-progress-on-international-women’s-day Thu, 08 Mar 2018 15:32:00 GMT