News http://wlga.cymru/news http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 120 no Lleihau allyriadau carbon o dai yn “gam pwysig” i fynd i’r afael â thlodi tanwydd Yn ymateb i gyhoeddi adroddiad annibynnol gan y Grŵp Cynghorol ar Ddatgarboneiddio Cartrefi, dywedodd llefarydd CLlLC dros Dai, y Cynghorydd Andrea Lewis (Abertawe):

 

“Mae’r adroddiad yma heddiw yn gyfraniad gwerthfawr i’n hymdrechion ar y cyd i sicrhau bod tai yng Nghymru yn fwy ynni effeithiol. Does gan lywodraeth leol na landlordiaid cymdeithasol unrhyw amheuaeth o raddfa’r sialens, yn enwedig o ystyried bod y stoc o dai cyfredol yng Nghymru ymysg y lleiaf effeithiol yn Ewrop, a byddwn yn edrych ymlaen i weithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio sut y gallwn ni oresgyn y goblygiadau o ran adnoddau.”

 

“Fel landlordiaid cymdeithasol, mae awdurdodau lleol wedi blaenoriaethu effeithlonrwydd ynni fel rhan o’u gwaith yn adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy am y tro cyntaf mewn degawdau. Bydd gwneud ein stoc tai presennol yn fwy ynni effeithlon yn gam pwysig arall er mwyn torri allyriadau ac i ddod yn fwy cyfrifol o ran yr amgylchedd.”

 

“I awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, bydd ddatgarboneiddio ein stoc tai cyfredol yn hollbwysig i sicrhau bod Cymru yn llwyddo i gyrraedd targedau amgylcheddol uchelgeisiol. Ond yn bwysicach, bydd y gwaith yn cynhyrchu buddion gwirioneddol i drigolion drwy wella effeithlonrwydd tanwydd a mynd i’r afael â thlodi tanwydd.”

 

 

-DIWEDD-

 

 

Nodiadau i Olygyddion

 

]]>
http://wlga.cymru/reducing-carbon-emissions-from-homes-an-important-step-to-tackle-fuel-poverty http://wlga.cymru/reducing-carbon-emissions-from-homes-an-important-step-to-tackle-fuel-poverty http://wlga.cymru/reducing-carbon-emissions-from-homes-an-important-step-to-tackle-fuel-poverty Thu, 18 Jul 2019 11:41:00 GMT
CLlLC yn rhannu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu mwy o dai fforddiadwy Mae CLlLC wedi croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad Annibynnol i’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy, a wnaeth adrodd ym Mai 2019.

 

Yn ymateb i ddatganiad y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, Julie James AC, dywedodd y Cynghorydd Andrea Lewis (Abertawe), Llefarydd CLlLC dros Dai:

“Mae cynghorau yn rhannu uchelgais y Llywodraeth i gynyddu’n sylweddol y cyflenwad o dai fforddiadwy ar draws Cymru; mae’r cynlluniau uchelgeisiol a darpariaeth lwyddiannus o dai cyngor newydd gan nifer o awdurdodau lleol yn arddangos yr ymrwymiad hynny.”

“Bydd rhoi mynediad i awdurdodau i gyllid grantiau Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf i gefnogi darpariaeth rhaglenni hyfyw yn helpu i allu adeiladu mwy o gartrefi ar raddfa fwy ac yn fwy cyflym. Rydyn ni’n croesawu’r ffaith y bydd cyhoeddiad ar bolisi rent yn cael ei wneud cyn egwyl yr haf, ac mae’n addawol y bod yn ymddangos y bydd y polisi yn cynnig sicrwydd am y bum mlynedd nesaf.”

“Mae awdurdodau lleol yn edrych ymlaen i weithio gyda Llywodraeth Cymru, LCCau a rhanddeiliaid eraill wrth gynllunio’n fanwl a gweithredu’r newidiadau i drefniadau grant presennol ac i gymryd ymlaen argymhellion eraill yr adolygiad.”

“Bydd awdurdodau cynllunio lleol yn sicrhau bod y mentrau newydd yma yn cael eu hadlewyrchu yn y rownd nesaf o Gynlluniau Datblygu Lleol sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.”

 

-DIWEDD-

 

 

]]>
http://wlga.cymru/wlga-shares-welsh-government-commitment-to-build-more-affordable-houses- http://wlga.cymru/wlga-shares-welsh-government-commitment-to-build-more-affordable-houses- http://wlga.cymru/wlga-shares-welsh-government-commitment-to-build-more-affordable-houses- Wed, 10 Jul 2019 11:19:00 GMT