News http://wlga.cymru/news http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 120 no CLlLC yn rhybuddio am effaith ar gymunedau oherwydd diffyg buddsoddiad yng Nghyllideb y Gwanwyn Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi galw heddiw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei dyraniadau cyllidebol i fynd i’r afael ag anghenion dybryd cymunedau ledled Cymru, gan fynegi braw ynghylch y diffyg cyllid ar gyfer gwariant cyhoeddus neu fuddsoddiad. 

Gan adleisio galwadau tebyg gan Lywodraeth Cymru, mae CLlLC yn haeru y dylai’r Canghellor ganolbwyntio’n bennaf ar flaenoriaethu buddsoddiadau mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Cyllid CLlLC:

“Rydym yn bryderus iawn am oblygiadau Cyllideb y Gwanwyn i gymunedau ledled Cymru. 

“Mae’r Canghellor yn sôn am wariant gwastraffus, ond y gwir amdani yw bod cynghorau ar eu gliniau diolch i’w Lywodraeth, gyda gwariant dewisol yn cael ei dorri hyd at 40% ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant. Mae'r gwasanaethau cyhoeddus lleol a ddarperir gan gynghorau yn profi pwysau ariannol digynsail ac mae cynghorau'n ystyried pob llwybr posibl i fantoli cyllidebau. Er y gallant ymdopi yn y tymor byr, mae pryder difrifol ynghylch goroesiad gwasanaethau lleol hanfodol. Mae disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni mwy gyda llai o gyllid, felly ni ellir gorbwysleisio’r straen ar gynghorau. 

“Bydd diffyg buddsoddiad mewn llywodraeth leol ond yn cynhyrchu canlyniadau gwaeth i gymunedau a bydd yn effeithio ar allu cynghorau i ariannu ysgolion a gofal cymdeithasol, adeiladu tai cymdeithasol a buddsoddi yn y newid i sero net. 

“Diolch i’r Gyllideb hon, bydd cymunedau Cymru yn profi cynnydd yn y Dreth Gyngor ond gallant ddisgwyl gweld llai am eu harian. Gallai hyn gael effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd, a chymunedau ledled Cymru gan fod hyn yn ychwanegu at y pwysau a deimlwyd eisoes oherwydd yr argyfwng costau byw a chyfraddau chwyddiant uchel. Mae'r gwasanaethau sy'n sail i wead cymdeithas dan straen. 

“Mae angen ariannu’r GIG a gofal cymdeithasol ar sail gyfartal gan eu bod yn rhan o’r un system a bod ganddynt bwysau tebyg. Er gwaethaf y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer y GIG, mae gofal cymdeithasol yn parhau i gael ei danariannu a’i ddiystyru’n ddifrifol, gan waethygu’r pwysau presennol ar awdurdodau lleol yn ogystal â chynyddu’r baich ar y gwasanaeth iechyd.” 

]]>
http://wlga.cymru/wlga-warns-of-impact-on-communities-due-to-lack-of-investment-in-spring-budget- http://wlga.cymru/wlga-warns-of-impact-on-communities-due-to-lack-of-investment-in-spring-budget- http://wlga.cymru/wlga-warns-of-impact-on-communities-due-to-lack-of-investment-in-spring-budget- Wed, 06 Mar 2024 13:43:00 GMT
Llywodraeth leol yn croesawu £25 miliwn, ond angen am gyllid cynaliadwy hir-dymor Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) heddiw wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru o £25m yn ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2024-25. Ond mae CLlLC yn rhybuddio nad yw dal yn unman agos i fod yn ddigon i gwrdd â’r bwlch cyllidol o £432m sy’n cael ei wynebu gan lywodraeth leol.

Y mis diwethaf, cyhoeddodd Lywodraeth y DU y byddai’r setliad llywodraeth leol yn Lloegr yn cael ei gynyddu £600m, yn bennaf i ymateb i bwyseddau gofal cymdeithasol, gan arwain at ddyraniad cyllid canlyniadol o thua £25m i Gymru.

Bydd y cyllid yn helpu i gefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol, ysgolion, ac i gefnogi cynghorau i fynd i’r afael â phwyseddau o fewn cymunedau lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

“Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw o £25m ychwanegol i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Gweinidog am wrando i’r achos a waned gan CLlLC ac awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau lleol sydd dan bwysau aruthrol, gan gynnwys cefnogi’r rhai mwyaf bregus trwy ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.

“Ond mae graddfa’r pwyseddau’n golygu fod llywodraeth leol yn parhau i wynebu bwlch o £432m, gan olygu y bydd yn rhaid cymryd penderfyniadau anodd gan gynnwys codi lefelau’r Dreth Gyngor ac o ran darparu gwasanaethau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

“Rwy’n falch i glywed cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw am gyllid ychwanegol i gefnogi gwasanaethau hollbwysig megis gofal cymdeithasol, y gweithlu ac ysgolion. Bydd deialog CLlLC yn parhau gyda Llywodraeth Cymru, ac fe fyddwn ni’n troi ein gorwelion tuag at Gyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU am gefnogaeth gynaliadwy i helpu ymhellach i leddfu’r pwyseddau cyllidebol sy’n cael eu profi gan gwasanaethau lleol hanfodol.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Grwp Plaid Cymru:

“Dwi’n ddiolchgar i’r Gweinidog am ei hymgysylltu adeiladol gyda llywodraeth leol. Tra bod unrhyw gyllid i’w groesawu, mae’n glir na fydd y dyraniad yma’n cyffwrdd ochrau’r tyllau du cegrwth yng nghyllidebau ein gwasanaethau lleol. Mae gan gynghorau ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno cyllidebau cytbwys. Gan ystyried lefelau chwyddiant eithriadol, costau cynyddol, a mwy a mwy o alw ar ein gwasanaethau, mae’r orchwyl honno’n brysur fod yn amhosib.

“Siomedig yw gweld na fydd mwy o gyllid yn cael ei ddarparu i ariannu’r cynnydd mewn cyflogau athrawon. Golyga hyn y bydd disgwyl i lywodraeth leol i dalu am gost polisi Llywodraeth Cymru allan o goffrau bregus ein cynghorau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Grwp Annibynnol CLlLC

“Ers cychwyn y cynni ariannol, mae cynghorau wedi colli dros £1bn o’u cyllidebau. Dyna golli £1bn o wasanaethau beunyddiol allweddol megis gofal cymdeithasol, ysgolion, datblygu economaidd, a gwasanaethau amgylcheddol i enwi ond rhai. Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud fawr ddim i gwrdd â’r bylchau cyllidebol enfawr yn ein cyllidebau.

“Mae’n glir bod angen ar fyrder am ymrwymiad gan lywodraethau Cymru a’r DU am gyllid cynaliadwy, hir-dymor i helpu i amddiffyn gwasanaethau ein cynghorau sy’n cefnogi ac yn gwella bywydau cymaint o bobl yn ein cymunedau.”  

]]>
http://wlga.cymru/25-million-welcomed-by-local-government-but-sustainable-long-term-funding-needed http://wlga.cymru/25-million-welcomed-by-local-government-but-sustainable-long-term-funding-needed http://wlga.cymru/25-million-welcomed-by-local-government-but-sustainable-long-term-funding-needed Wed, 07 Feb 2024 21:21:00 GMT
“Hollbwysig” bod arian canlyniadol yn cael ei ddarparu i gynghorau Cymru yn llawn Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU am gyllid ychwanegol i gynghorau yn Lloegr, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

 

“Mae’r cyhoeddiad heddiw y bydd cynghorau yn Lloegr yn derbyn £600m yn ychwanegol yn profi ni ellir mwyach anwybyddu’r argyfwng ariannu llywodraeth leol. Rydyn ni’n croesawu’r ffaith y bydd y rhan fwyaf o’r cyllid yma yn cael ei dargedu at ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol allweddol i’r rhai mwyaf bregus”

 

“Mae’n hollbwysig nawr fod yr arian canlyniadol sy’n deillio o’r cyhoeddiad heddiw yn cael ei basio ymlaen yn llawn i gynghorau Cymru i helpu ein gwasanaethau gofal cymdeithasol ac i gyllido ein ysgolion.”

 

DIWEDD -

]]>
http://wlga.cymru/“vital”-that-consequential-funding-is-delivered-to-welsh-councils-in-full http://wlga.cymru/“vital”-that-consequential-funding-is-delivered-to-welsh-councils-in-full http://wlga.cymru/“vital”-that-consequential-funding-is-delivered-to-welsh-councils-in-full Wed, 24 Jan 2024 14:17:00 GMT
Ymateb CLlLC i’r setliad llywodraeth leol Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

“Roeddem ni’n gwybod y byddai hwn yn setliad heriol, ac yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru wrth geisio amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen i raddau. Ond llwm yw’r rhagolwg i wasanaethau lleol o hyd sydd yn cael eu heffeithio’n ddifrifol gan gostau cynyddol. Er bod chwyddiant yn arafu, mae’n dal i olygu ein bod ni i gyd yn cael llai am ein harian nawr nag yn y gorffennol, ac mae hyn yn wir i gynghorau hefyd. Roedd cyfle gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r bwlch cyllidol yma yn Natganiad yr Hydref, ond fe wnaethon nhw ddewis peidio ei gymryd. Golyga’r ffaith na chafwyd arian ychwanegol i ysgolion a gofal cymdeithasol na fydd arian canlyniadol yn llifo i Gymru. Bydd yn rhaid cymryd penderfyniadau anodd i sicrhau bod cynghorau yn cwrdd â’u dyletswydd cyfreithiol i osod cyllidebau cytbwys.”

“Rydym ni wedi croesawu perthynas glós, adeiladol gyda’r Gweinidog a’i chydweithwyr. Byddwn yn edrych ymlaen i gydweithio’n agos â hi a gweddill Llywodraeth Cymru i lywio trwy’r amseroedd cythryblus ar gyfer ein gwasanaethau lleol hanfodol ac i reoli’r effeithiau posibl ar ein cymunedau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru:

“Gellir gweld yn glir, mewn cynnydd mewn galw am wasanaethau fel gofal cymdeithasol i oedolion, gwasanaethau plant, a thai, fod angen gwasanaethau lleol yn fwy nag erioed mewn argyfwng Costau Byw sydd yn effeithio’n wael ar ein cymunedau. Ond, er ein bod ni’n gwerthfawrogi’r amgylchiadau anodd i Lywodraeth Cymru, ni fydd y setliad yma’n gwneud llawer i leddfu’r pwysau ar wasanaethau. Mae’n siomedig nad oes cyllid ychwanegol wedi ei glustnodi i ariannu’r cynnydd mewn cyflogau i athrawon, sydd yn golygu y bydd disgwyl i gynghorau i gwrdd â’r gost o ymrwymiad ariannol sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Cymru ei hun.”

“Ers cychwyn y cynni ariannol, mae dros £1bn wedi ei golli o goffrau llywodraeth lleol. Mae cynghorau wedi gweithio’n ddygn i ganfod arbedion effeithlonrwydd a lleihau costau, ond mae’r arbedion rhwydd hynny wedi hen fynd. Does dim posib i lywodraeth leol barhau i wneud toriadau cyllidebol sylweddol heb effeithiau difrifol ar hyfywedd ein gwasanaethau ni.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC:

“Ers tro, mae cynghorau wedi rhybuddio am y pwyseddau aruthrol sy’n eu wynebu wedi cyn gymaint o flynyddoedd o doriadau. Yn anffodus, dyw’r setliad heddiw ddim yn darparu digon o gyllid i gwrdd â phwyseddau costau a galw eithriadol fydd yn cyflwyno heriau difrifol y flwyddyn nesaf o ran gosod cyllidebau cytbwys, yn ôl y gofyniad cyfreithiol. Tra ei bod hi’n ymddangos bod 3.1% o hwb mewn cyllid craidd, mae toriadau dwfn i grantiau – a gyda dim arian ychwanegol i gwrdd â’r cynnydd mewn cyflog athrawon – yn golygu y bydd cynghorau mewn gwirionedd yn derbyn llawer yn llai na hyn.

“Dyw defnyddio arian ‘diwrnod glawog’ wrth gefn ddim yn ateb cynaliadwy i lenwi bylchau cyllidebol cynyddol a fydd yn dod i’r amlwg bfwyddyn ar ôl blwyddyn. Yr unig ateb i gwrdd â chostau a galw cynyddol ydi i lwyr gydnabod a chwrdd â’r pwyseddau cyllidebol i lywodraeth leol.”

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Diprrwy Lywydd CLlLC (Democratiaid Rhyddfrydol):

“Mae trigolion, busnesau, a chymunedau ymhob rhan o Gymru yn dibynnu ar wasanaethau bara menyn sy’n cael ei darparu gan gynghorau. O ofal cymdeithasol i ddatblygu economaidd. Tai i ysgolion, mae’r rhain yn gonglfeini sy’n chwarae rhan allweddol yn ein bywydau pob dydd. Ond mae’r effaith o chwyddiant 10%, yr angen canlyniadol i gynyddu cyflogau staff i gwrdd â’r argyfwng costau byw, a chynnydd aruthrol mewn galw ar ofal cymdeithasol, wedi cyfuno i greu storm berffaith i gyllid ein cynghorau.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cynghorau wedi chwarae rôl hanfodol yn darparu ar uchelgeisiau llywodraethau DU a Chymru. Bydd hyn yn llawer yn anoddach i’w gyflawni os nad oes rhagor o gyllid ar gael i ni.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

“Tra bod cyllid craidd wedi cael ei gynnal, mae cyllid grantiau eraill wedi disgyn mewn termau real. Dros y cyfnod ymgynghori, byddwn yn gweithio efo Llywodraeth Cymru ar y mater hwn a materion eraill yng nghyswllt cyflogau a phensiynau i athrawon, a chostau gofal cymdeithasol.

“Mae cynghorau yn wynebu diffyg cyllidol o £432m hyd yn oed wedi cynnydd mewn trethi cyngor a byddwn i gyd yn wynebu penderfyniadau tu hwnt o anodd. Yn ogystal â’r ddeialog barhaus gyda Llywodraeth Cymru, bydd yn rhaid i ni hefyd ymgysylltu â’n cymunedau ynglyn â’r penderfyniadau anodd sydd ar y gorwel.”

 

DIWEDD –

 

NODIADAU I OLYGYDDION

 

  1. Cyhoeddwyd setliad llywodraeth leol heddiw gan Lywodraeth Cymru. Gellir darllen datganiad y Gweinidog yma.
  2. Ynghlwm mae dogfen sy’n amlinellu ymhellach y pwyseddau sy’n wynebu gwasanethau lleol, a graddfa’r sefyllfa sydd ohoni.
]]>
http://wlga.cymru/wlga-responds-to-the-local-government-settlement http://wlga.cymru/wlga-responds-to-the-local-government-settlement http://wlga.cymru/wlga-responds-to-the-local-government-settlement Wed, 20 Dec 2023 14:36:00 GMT
Ymateb CLlLC i Gyhoeddiad Cyllid Llywodraeth Cymru Heddiw Nid yw’r rhain yn benderfyniadau hawdd, a byddem yn cefnogi’r Gweinidog i ddiogelu cyllid craidd llywodraeth leol yn 2023-24. Rydym hefyd yn cefnogi’r egwyddorion sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymhwyso i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, swyddi a’r rhai mwyaf agored i niwed. Fel CLlLC ysgrifennasom at y Trysorlys yn ôl yn yr haf yn dadlau’r achos dros gyllid ychwanegol yng Nghymru ac am fwy o hyblygrwydd yn y ffordd y caiff Cymru ei hariannu.

 

Rydym yn parhau i bryderu am y rhaglenni na fyddant yn mynd rhagddynt a'r effaith ar gyllidebau'r flwyddyn nesaf. Mae cyllidebau llywodraeth leol yn wynebu pwysau y flwyddyn nesaf o £720m, sef tua 10% o'n gwariant net. Ni fydd y cyllid sydd ar gael yn cwmpasu’r cyfan ac rydym yn wynebu bwlch ariannu sylweddol. Byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i wasanaethau lleol.

 

DIWEDD –

]]>
http://wlga.cymru/wlgas-response-to-today’s-welsh-government-finance-announcement http://wlga.cymru/wlgas-response-to-today’s-welsh-government-finance-announcement http://wlga.cymru/wlgas-response-to-today’s-welsh-government-finance-announcement Tue, 17 Oct 2023 11:16:00 GMT
CThEF yn annog contractwyr i beidio â chael eu twyllo gan arbed treth Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog contractwyr mewn ystod eang o swyddi ar draws llywodraeth leol i beidio â dioddef cam ar law hyrwyddwyr diegwyddor cynlluniau arbed treth.

Arbed treth yw pan fo pobl yn plygu rheolau’r system dreth i geisio talu llai o dreth nag y dylent. Ond, gall y rhai sy’n ymuno â chynlluniau arbed treth orfod talu’r dreth sy’n ddyledus yn y lle cyntaf – yn ogystal â llog a chosbau o bosibl. Mae hynny ar ben y ffioedd y maent eisoes wedi’u talu i ymuno â’r cynllun.

Mae CThEF am atal pobl rhag cael eu denu gan gynlluniau o’r fath, yn ogystal â’u helpu i adael cynlluniau arbed treth os ydynt yn credu eu bod wedi’u dal mewn un. Mae CThEF yn gweithio gydag amrediad eang o sefydliadau er mwyn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen arnynt, i addysgu’r contractwyr sy’n gweithio iddynt am y risgiau o ddefnyddio cynlluniau arbed treth.

Mae pawb yn gyfrifol o dan gyfraith y DU am dalu’r swm cywir o dreth. Mae hyn yn dal i fod yn berthnasol pan fo’r contractwr wedi penodi rhywun arall i ddelio â’i faterion treth neu wedi cael cyngor gwael – yr unigolyn sy’n gyfrifol yn y pen draw ac sy’n wynebu’r risg. 

Gall aelodau o’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) sy’n ymwneud â recriwtio gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro helpu’r gweithwyr hyn i ddeall y risgiau a’r canlyniadau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio cynlluniau arbed treth. Bydd yr wybodaeth yn yr erthygl hon yn helpu gweithwyr i sylwi ar yr arwyddion o arbed treth.

 

Dyma rai pethau i weithwyr fod yn wyliadwrus ohonynt:

  • Unrhyw gynllun sy’n caniatáu i chi gadw mwy o’ch incwm nag y byddech yn ei ddisgwyl, gydag ychydig neu ddim didyniadau o gwbl ar gyfer Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG)
  • Dywedir bod rhai o’r taliadau a gewch, neu bob un ohonynt, yn “anhrethadwy”. Gellid disgrifio’r rhain fel benthyciadau, blwydd-daliadau, bonysau neu gyfranddaliadau. Nid yw’r taliadau hyn yn wahanol i incwm arferol, ac mae angen i chi dalu Treth Incwm a CYG arnynt o hyd
  • Cynlluniau y dywedir wrthych eu bod yn ddiogel ac yn cydymffurfio neu wedi’u cymeradwyo gan CThEF. Nid yw hyn yn wir – nid yw CThEF byth yn cymeradwyo cynlluniau arbed treth
  • Dim ond rhan o gyfanswm y taliadau a gewch y gellir ei threthu fel incwm. Os ydych yn gyflogedig, swm sy’n cyfateb i’r isafswm cyflog cenedlaethol yw hyn fel arfer
  • Cael cynnig dewis rhwng cynllun cyflog safonol neu gynllun cyflog “uwch”. Mae’r fersiwn uwch yn debygol o fod yn gynllun arbed treth
  • Cael cais i lofnodi mwy nag un contract neu gytundeb
  • Contract cyflogaeth neu gytundeb nad yw’n nodi sut y telir eich incwm, nac yn rhoi dadansoddiad i chi o’ch holl ddidyniadau
  • Cael cynnig ‘bonws arian parod’ os byddwch yn argymell y cynllun i ffrind

 

Mae CThEF yn annog contractwyr, gweithwyr asiantaeth neu’r rhai sy’n gweithio drwy gwmni ambarél i wirio sut maent yn cael eu talu i wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu dal wrthi. Gallant ddefnyddio’r gwiriwr risg rhyngweithiol i wirio a allai arbed treth fod yn rhan o’u contract presennol.

 

Dywedodd Mary Aiston, Cyfarwyddwr Gwrth-Arbed CThEF: “Does dim angen i chi fod yn arbenigwr treth i sylwi ar gynllun arbed treth. Os byddwch chi’n cael cynnig cyflog clir uwch am ad-drefnu sut mae’n eich cyrraedd, er enghraifft fel benthyciad nad yw’n ad-daladwy neu fel taliad ymddiriedolaeth, mae bron yn sicr yn gynllun arbed treth, felly peidiwch â chymryd rhan.

“Rydym yma i helpu ac os ydych chi’n credu eich bod wedi ymuno â’r fath gynllun, mae’n hanfodol eich bod yn ei adael cyn gynted ag y gallwch. Y cynharaf y byddwch yn ei adael, y cyntaf y gallwch dalu’r dreth sydd arnoch a lleihau’ch risg o gael biliau treth uwch.”

 

Ers mis Ebrill 2022, mae CThEF wedi defnyddio pwerau newydd i enwi hyrwyddwyr cynlluniau arbed treth yn gyhoeddus er mwyn helpu cwsmeriaid i gadw’n glir o’r cynlluniau y maent yn eu hyrwyddo nawr ac unrhyw rai y gallent eu hyrwyddo yn y dyfodol.

Erbyn diwedd mis Chwefror 2023, mae cyfanswm o 26 o hyrwyddwyr, sy’n ymwneud â hyrwyddo cynlluniau arbed treth, wedi cael eu henwi. Nid yw’r rhestr gyhoeddedig yn rhestr gyflawn o’r holl gynlluniau arbed treth sy’n cael eu marchnata ar hyn o bryd, nac ychwaith yn rhestr gyflawn o’r holl hyrwyddwyr, galluogwyr a chyflenwyr. Os na ddangosir cynllun arbed treth ar y rhestr, nid yw hyn yn golygu bod y cynllun yn gweithio na’i fod wedi’i gymeradwyo gan CThEF mewn unrhyw ffordd. Nid yw CThEF yn cymeradwyo cynlluniau arbed treth i’w defnyddio.

Mae cyfres ‘Spotlight’ CThEF, a gyhoeddir ar GOV.UK, yn rhoi gwybodaeth am gynlluniau arbed treth y mae CThEF yn credu eu bod yn cael eu defnyddio i osgoi talu treth sy’n ddyledus.

Mae ‘Spotlight 60’ a gyhoeddwyd ym mis Awst 2022 yn rhybuddio’n benodol am gwmnïau ambarél nad ydynt yn cydymffurfio, a beth i fod yn wyliadwrus ohono.

I gael rhagor o wybodaeth a yr ymgyrch ‘Arbed Treth – Peidiwch â Chael eich Dal Wrthi’, ewch i’r dudalen hon.

Os daw aelodau o’r LGA yn ymwybodol o gynllun arbed treth, neu o asiantaeth neu gwmni ambarél nad yw’n dilyn y rheolau treth, dylent gymryd camau i adrodd hyn wrth CThEF.

]]>
http://wlga.cymru/hmrc-urges-contractors-not-to-get-caught-out-by-tax-avoidance http://wlga.cymru/hmrc-urges-contractors-not-to-get-caught-out-by-tax-avoidance http://wlga.cymru/hmrc-urges-contractors-not-to-get-caught-out-by-tax-avoidance Mon, 10 Apr 2023 14:32:00 GMT
Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynghorau gyda’r setliad, ond penderfyniadau anodd yn parhau, dywed CLlLC Mae CLlLC wedi croesawu setliad cyllidebol y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth Cymru ond yn rhybuddio y bydd penderfyniadau anodd yn dal i fod angen eu gwneud o ganlyniad i amgylchiadau economaidd heriol.

Bydd cynghorau yn derbyn cynnydd cyfartalog mewn cyllid o 7.9% gan Lywodraeth Cymru, sydd tua £400m.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Ein gwasanaethau lleol yw conglfeini ein cymunedau, gyda cynifer yn dibynnu arnyn nhw bob dydd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Gweinidog am wrando ar ein hachos dros fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, ysgol, a gwasanaethau allweddol eraill gan gynghorau. Rhagorwyd ar ein disgwyliadau o gyllid o’r arian canlyniadol. Ond llwm yw’r rhagolygon economaidd o hyd sy’n golygu y bydd yn rhaid i gynghorau wneud penderfyniadau anodd i gwrdd a bylchau cyllidebol cynyddol oherwydd biliau ynni, chwyddiant a chostau cyflogau. Ychydig dros hanner y pwyseddau’r flwyddyn ariannol nesaf sy’n cael eu cyfarch gan y setliad hwn. Edrychwn ymlaen i barhau gyda’r ymgysylltu adeiladol gyda Llywodraeth Cymru fel ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd i ddarparu i Gymru gyfan.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard (Wrecsam), Arweinydd Grwp Annibynnol CLlLC:

“Croesawaf yr ymrwymiad sydd wedi ei ddangos gan Lywodraeth Cymru heddiw i’n gwasanaethau lleol. Rydyn ni wedi ymgysylltu mewn deialog clós gyda’r Gweinidog i amlinellu’r heriau difrifol sy’n ein wynebu, ac mae hynny wedi cael ei werthfawrogi. Ar adeg pan fo trigolion yn gorfod dewis rhwng bwyta neu cadw’n glyd, rydyn ni eisiau parhau i fod yno i barhau cefnogaeth i’n cymunedau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi (Ynys Môn), Arweinydd Grwp Plaid Cymru CLlLC:

“Pob dydd o’r flwyddyn, gwneir gwaith arbennig gan ein cynghorau i wella bywydau pobol ac i gefnogi ein cymunedau. Ond dyw ddim yn gyfrinach bod gwasanaethau sy’n achubiaeth i gynifer, megis gofal cymdeithasol, gan bwysau dwys dros ben. Tra’r ydyn ni’n gorfod cwrdd â biliau ynni a phwyseddau chwyddiant sy’n cynyddu tu hwnt i bob rheswm, y canlyniad yw fod yr arian sydd gennym ni i wario ar wasanaethau hollbwysig yn sylweddol yn llai. Rydyn ni wrth gwrs yn gwerthfawrogi’n fawr y setliad yma gan Lywodraeth Cymru, ond mae’n bell o fod yn fwled arian i heriau cyllidebol neilltuol. Bydd yn rhaid i ni o hyd ymgynghori ein cymunedau ar benderfyniadau anodd dros ben i helpu i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn aros yn hyfyw i bawb sydd eu hangen nhw.”

-DIWEDD-

]]>
http://wlga.cymru/welsh-government-has-supported-councils-with-settlement-but-tough-decisions-remain http://wlga.cymru/welsh-government-has-supported-councils-with-settlement-but-tough-decisions-remain http://wlga.cymru/welsh-government-has-supported-councils-with-settlement-but-tough-decisions-remain Wed, 14 Dec 2022 11:35:00 GMT
“Gobeithio am weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau lleol yn parhau” Gan edrych ymlaen i’r setliad llywodraeth leol i’w gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fory, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

 

“Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi ei gwneud yn hollol glir y niwed sy’n cael ei wneud i gyllidebau cyngor oherwydd pwyseddau chwyddiant eithriadol a biliau ynni afresymol. Yn eu tro, mae’r effeithiau ar ein cymunedau a thrigolion yn debygol o fod yn ddwys.”

“Fel mae’n sefyll, mae gwasanaethau lleol yn wynebu twll du cyllidebol o £784m dim ond am y flwyddyn nesaf, sydd ond yn debygol o gynyddu fwyfwy mewn blynyddoedd i ddod.

“Wrth edrych tuag at setliad llywodraeth leol, rydyn ni’n gwerthfawrogi mai cyfyng yw pŵer ariannol Llywodraeth Cymru, a rydyn ni felly yn realistig am y posibilrwydd am ddatrysiad a fydd yn cwrdd â’r pwyseddau anferthol. Ond, fel sydd wedi ei arddangos mewn ymgysylltu clós a setliadau cyllidebol y gorffennol, rydyn ni hefyd yn gwybod am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’n gwasanaethau lleol hanfodol sy’n cyfrannu cyn gymaint i’n cymunedau, Rydyn ni’n gobeithio’n arw i weld ymrwymiad, er yn anhebyg i gwrdd a’r bylchau cyllidebol anferthol, a fydd yn adlewyrchu pwysigrwydd ein gwasanaethau lleol sy’n cael eu rhedeg gan gynghorau.”

DIWEDD -

]]>
http://wlga.cymru/hopeful-of-continuation-of-welsh-government’s-commitment-to-local-services http://wlga.cymru/hopeful-of-continuation-of-welsh-government’s-commitment-to-local-services http://wlga.cymru/hopeful-of-continuation-of-welsh-government’s-commitment-to-local-services Tue, 13 Dec 2022 22:00:00 GMT
Datganiad yr Hydref: “Dyfodol gwasanaethau lleol yn y fantol” “Mae dyfodol gwasanaethau pob dydd sy’n cael eu dibynnu arnyn nhw bob dydd yn y fantol, megis ysgolion, gofal cymdeithasol, gwasanaethau amgylcheddol, llyfrgelleodd, gwasanaethau ieuenctid a diogelu’r cyhoedd.

“Mae cynghorau yn delio gyda pwyseddau ar raddfa sydd erioed wedi ei weld o’r blaen. Caiff gwasanaethau hanfodol eu gwasgu i’r asgwrn gan chwyddiant, biliau ynni afresymol a chostau eraill.

“Wrth i’r galw ar wasanaethau gynyddu o ganlyniad i’r argyfwng Costau Byw, mae Datganiad yr Hydref yn rhoi cyfle i Lywodraeth y DU fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol fel bod cynghorau yn gallu helpu cymunedau trwy’r amseroedd anodd. Mae’r dewis amgen o ragor o gynni yn peryglu dyfodol y gwasanaethau hollbwysig yma.”

 

DIWEDD - 

]]>
http://wlga.cymru/autumn-statement-future-of-local-services-at-stake http://wlga.cymru/autumn-statement-future-of-local-services-at-stake http://wlga.cymru/autumn-statement-future-of-local-services-at-stake Thu, 17 Nov 2022 11:05:00 GMT
Llywodraeth leol yng Nghymru yn galw am sefydlogrwydd gan lywodraeth y DU Mae CLlLC heddiw wedi rhybuddio o’r niwed difrifol y mae’r cythrwfl yn y farchnad yn ei gael ar gyllidebau cynghorau Cymru, sydd eisoes wedi eu simsanu.

Ar ddydd Gwener 23 Medi, bu i gyllideb fechan y Canghellor achosi ansefydlogrwydd yn y marchnadoedd ariannol a dyledion, gan ychwanegu at y risg chwyddiant sy’n wynebu cyllidebau cynghorau.

Mewn cyfarfod o Fwrdd Gweithredol CLlLC, mynegwyd pryder gwirioneddol gan arweinwyr cyngor am yr effaith yma ar gyllidebau gwasanaethau cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Ers amser, rydyn ni wedi bod yn gwbl glir o’r storm ariannol sy’n wynebu llywodraeth leol. Mae biliau ynni, chwyddiant, galw ar wasanaethau, a chostau cyflog i gyd eisoes yn taro gwasanaethau lleol hanfodol yn galed. Gallai’r storm honno droi yn swnami os na fydd llywodraeth y DU yn gweithredu i ailsefydlu hyder yn y farchnad ac i atal chwyddiant rhag esgyn yn fythol uwch. Dim rhyw ddigwyddiad pell oedd cyllideb fechan y Canghellor, ond datganiad o fwriad gyda chanlyniadau nerthol go iawn i wasanaethau cyhoeddus ac, yn eu tro, ein cymunedau.”

“O ganlyniad i’r dewisiadau yma, mae gwasanaethau lleol mewn perygl difrifol. Mae pwyseddau chwyddiant, costau ynni a’r effaith ar fenthyg yn creu twll sylweddol yng nghyllidebau eleni gyda gwaeth i ddod y flwyddyn nesaf. Os nad oes cefnogaeth ar fyrder, bydd yn rhaid i gynghorau ystyried cwtogi gwasanaethau a cholli swyddi o ganlyniad. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i leihau’r effaith yma ac wedi cael trafodaethau gyda’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol am y pwyseddau. Ond wrth i Brif Weinidog y DU gwrdd â’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol (OBR) heddiw, rydyn ni’n gofyn i lywodraeth y DU gamu nôl ac i ystyried effeithiau eu polisïau ar y cyhoedd ac ar wasanaethau cyhoeddus.

“Rydyn ni hefyd gwir angen eglurder o ran effeithlonrwydd adrannol a chadarnhad o gyllid cynaliadwy yn dod o San Steffan i Gymru, fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu buddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol ar adeg mor dyngedfennol.”

 

DIWEDD-

]]>
http://wlga.cymru/welsh-local-government-calls-for-stability-from-uk-government http://wlga.cymru/welsh-local-government-calls-for-stability-from-uk-government http://wlga.cymru/welsh-local-government-calls-for-stability-from-uk-government Fri, 30 Sep 2022 15:28:00 GMT
Ymateb CLlLC i gyhoeddi Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni gan Lywodraeth y DU Yn ymateb i’r cynllun a gafodd ei gyhoeddi heddiw gan lywodraeth y DU, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

 

“Tra’r ydyn ni’n croesawu cynnwys cynghorau yn y gwarantiad chwe-mis prisiau ynni gan lywodraeth y DU, byddwn yn cymryd amser i edrych ar y manylion.

“Does dim posib gorbwysleisio graddfa’r her sy’n wynebu gwasanaethau lleol. Mae gwasanaethau yn wynebu cynnydd o hyd at 285% mewn costau ynni, sy’n golygu y bydd angen llawer mwy o gefnogaeth gan lywodraeth y DU i gwrdd â’r pwyseddau aruthrol. Ar wahan i filiau ynni, mae costau cyflogau a chwyddiant yn gorfodi cynghorau i ail-edrych ar gynlluniau gwariant dim ond i gwrdd â’u dyletswydd statudol i osod cyllidebau cytbwys.”

“Pob dydd, mae ein cymunedau yn edrych i gynghorau am gefnogaeth. Ond mae gwir angen mwy o adnoddau ar frys os ydyn ni am amddiffyn ein gwasanaethau lleol hanfodol. Rydym yn galw ar lywodraeth y DU i ddarparu mwy o gefnogaeth addas i helpu cynghorau i helpu cymunedau.”

]]>
http://wlga.cymru/wlga-response-to-uk-government-energy-bill-relief-scheme http://wlga.cymru/wlga-response-to-uk-government-energy-bill-relief-scheme http://wlga.cymru/wlga-response-to-uk-government-energy-bill-relief-scheme Wed, 21 Sep 2022 16:59:00 GMT
CLlLC yn galw ar y Prif Weinidog newydd i “helpu cynghorau i helpu cymunedau” Mae CLlLC wedi llongyfarch Liz Truss heddiw ar ei phenodiad yn Brif Weinidog newydd y DU, ond yn galw arni i ymyrryd yn syth yn yr argyfwng ariannol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

““Hoffwn longyfarch Liz Truss heddiw ar ddod yn Brif Weinidog newydd y DU. Wrth iddi ymgymryd â'r awennau, mae llywodraeth leol eisiau gweithio ochr yn ochr â'i gweinyddiaeth newydd a Llywodraeth Cymru i helpu ein cymunedau anghenus. Rhaid gweithredu ar fyrder heb oedi. Mae cartrefi, busnesau, a'n gwasanaethau lleol yn cael eu gwthio fel erioed o'r blaen. Bydd y Prif Weinidog newydd yn cael ei barnu ar ei gweithredoedd yn y dyddiau a'r wythnosau i ddod.

“Mae'n hollbwysig bod y cyllid angenrheidiol yn cael ei ddaparu ar unwaith o San Steffan i Gymru i warchod gwasanaethau lleol, busnesau, a chymunedau dros y misoedd anodd i ddod."

 

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard (Wrecsam), Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC:

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi cael perthynas dda gyda llywodraeth y DU a rydyn ni’n edrych ymlaen i weithio yn yr un modd yn y dyfodol. Ynghyd â Llywodraeth Cymru, rhaid i’r gwaith partneriaethol hwnnw barhau fel ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd trwy’r amseroedd anodd yma. Fel erioed, mae cynghorau yn parhau yn ddiarbed i gefnogi ein cymunedau. Ond mae yna feini tramgwydd cyllidebol aruthrol i’w goresgyn. Gofynnwn i’r Prif Weinidog newydd i helpu a chefnogi cymunedau ar draws Cymru trwy leihau’r pwysedd ar wasanaethau lleol hanfodol.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi (Ynys Môn), Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC:

“Tra fy mod i’n llongyfarch Liz Truss ar ddod yn Brif Weinidog newydd y DU, does dim modd gorbwysleisio graddfa’r her i wasanaethau cyhoeddus. Mae trigolion yn dibynnu ar wasanaethau hanfodol megis ysgolion a gofal cymdeithasol pob dydd, ac yn edrych i ni am atebion. Rydyn ni eisiau i’n cynghorau i barhau i fod yno i’n cymunedau i’w tywys a’u cefnogi nhw. Ond mae angen cefnogaeth ar fyrder gan San Steffan i helpu i gwrdd â phwyseddau cyllidebol aruthrol. Rhaid i’r Prif Weinidog newydd weithredu ar unwaith i helpu cynghorau i helpu cymunedau.”

-DIWEDD-

]]>
http://wlga.cymru/wlga-calls-on-new-prime-minister-to-help-councils-help-communities http://wlga.cymru/wlga-calls-on-new-prime-minister-to-help-councils-help-communities http://wlga.cymru/wlga-calls-on-new-prime-minister-to-help-councils-help-communities Tue, 06 Sep 2022 15:34:00 GMT
Angen gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael a chostau byw cynyddol Yn wyneb y tŵf enfawr mewn costau byw ac ynni, mae CLlLC yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau:

“Mae cynghorau yn gwneud popeth i gefnogi cymunedau lleol yng ngolwg yr heriau y bydd cyn gymaint o’n trigolion yn eu wynebu o ganlyniad i gostau byw cynyddol. Mae dros 90% o gartrefi cymwys bellach wedi derbyn eu taliad o £150 i helpu gyda biliau ynni. Ond mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar unwaith i leddfu effeithiau’r cynnydd arswydus mewn biliau ynni ar wasanaethau lleol, busnesau lleol, a chymunedau lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Dirprwy Arweinydd CLlLC a’r Llefarydd dros yr Economi:

“Bydd effeithiau’r argyfwng hwn yn cael eu teimlo gan ein hysgolion lleol, canolfannau cymunedol, cartrefi gofal a chymunedau ehangach. Rhaid i Lywodraeth y DU weithredu nawr i sicrhau bod ein plant, pobl hŷn a’n cymunedau yn ddiogel ac yn ddiddos y gaeaf a hwn a thu hwnt. Gall y sefyllfa yma chwyddo costau ynni ein gwasanaethau lleol i £100m eleni.

“Bydd ein busnesau lleol hefyd yn wynebu cynnydd enfawr mewn costau ynni gan eu gwneud nhw’n anghynaladwy ac anghystadleuol o gymharu a phartneriaid yn ngwledydd yr UE ble mae llywodraethau yn gweithredu i amddiffyn dinasyddion a busnesau o godiadau dirfawr ac anhylaw mewn biliau ynni. Mae’n hollbwysig bod Llywodraeth y DU yn gweithredu ar unwaith.”

-DIWEDD-

]]>
http://wlga.cymru/immediate-action-needed-to-combat-surging-costs-of-living http://wlga.cymru/immediate-action-needed-to-combat-surging-costs-of-living http://wlga.cymru/immediate-action-needed-to-combat-surging-costs-of-living Thu, 25 Aug 2022 10:38:00 GMT
Rhybudd gan CLlLC o “storm aeaf berffaith” ar y gorwel Mae CLlLC heddiw wedi ymateb i’r newyddion fod Ofgem yn mynd i godi’r cap ar brisiau ynni unwaith eto o £1,971 i £3,549.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Dirprwy Arweinydd CLlLC a Llefarydd dros yr Economi:

“I roi hyn yn ei gyd-destun, mae’r codiad yma’n gyfystyr i £400 y mis i filiau ynni cyfartalog cartrefi sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol, neu dros £120 yr wythnos i’r rhai hynny ar fesuryddion talu ymlaen llaw. Yn syml, ni all y rhan fwyaf o aelwydydd Cymru fforddio hyn.”

“Bydd hyn yn dinistrio’r rhwyd diogelwch budd-daliadau i lawer o deuluoedd gan eu gadael nhw yn methu talu eu biliau ac yn gorfod dewis rhwng bwydo’r mesurydd talu neu fwydo eu teuluoedd. Bydd yn golygu fod pobl yn methu prynu’r bwyd neu ddillad y mae nhw ei angen.”

“Mae llywodraeth leol yn paratoi cynlluniau i gynorthwyo trigolion ac i’w helpu nhw i baratoi am bwyseddau prisiau ynni a chostau byw ac yn barod i helpu llywodraethau Cymru a’r DU i gefnogi pobl y gaeaf hwn. Fodd bynnag, dim ond Llywodraeth y DU sydd â’r pwer ariannol i amddiffyn trigolion rhag yr effeithiau gwaethaf.”

“Bydd y glec i fusnesau ar draws Cymru yr un mor ddramatig a’r un fydd yn taro teuluoedd. Bydd codiadau ym mhrisiau ynni yn eu gwneud nhw’n llai cystadleuol ac yn llai cynaliadwy. Yn anorfod, bydd hyn yn golygu bydd rhai busnesau yn dod yn anhyfyw os nad oes help yn cael ei ddarparu ar unwaith. Mae busnesau yn wynebu’r storm aeaf berffaith o gynnydd mewn costau ynni, cyflogau a nwyddau, yn ogystal â lleihad sylweddol mewn galw. Gall hyn arwain at fusnesau’n methu, colli swyddi, yr economi’n methu ac yn achosi dirwasgiad ddwfn a niweidiol.”

“Rhaid i Lywodraeth y DU weithredu nawr heb oedi i amddiffyn teuluoedd a busnesau rhag y drychineb yma.”

-DIWEDD-

]]>
http://wlga.cymru/wlga-warns-of-looming-perfect-winter-storm- http://wlga.cymru/wlga-warns-of-looming-perfect-winter-storm- http://wlga.cymru/wlga-warns-of-looming-perfect-winter-storm- Thu, 25 Aug 2022 09:04:00 GMT
CLlLC yn croesawu Bonws Gofal Cymdeithasol Mae CLlLC wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod am ddarparu £96m i roi taliad ychwanegol o £1,000 i filoedd o weithwyr gofal cymdeithasol, sy'n cyd-fynd â chyflwyno'r cyflog byw go iawn,

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:

 

"Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol wedi bod yn anhygoel drwy gydol y cyfnod hwn ac felly rydym yn croesawu'r taliad ychwanegol sy'n cyfrannu at gydnabod yr ymdrech aruthrol, y cyfraniadau anfesuradwy a'r aberth y mae gweithwyr gofal cymdeithasol wedi'u gwneud mewn cyfnodau anodd iawn, gan gydnabod y gofal a'r gefnogaeth amhrisiadwy y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn eu darparu i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.

 

"Drwy gydol y pandemig mae'r system gofal cymdeithasol wedi bod dan straen aruthrol, ac yn parhau i fod dan straen enfawr. Mae CLlLC wedi bod yn galw ers tro am yr angen am gyllid ychwanegol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn gosod sail gynaliadwy, ac rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gwyddom fod heriau sylweddol o'n blaenau. Mae llywodraeth leol yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'r holl bartneriaid i sicrhau bod y system gofal cymdeithasol yn ddewis gyrfa deniadol i unigolion, lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu gwobrwyo'n briodol a bod ganddynt lwybr a datblygiad gyrfa o fewn sector gofal proffesiynol.”

 

-DIWEDD-

]]>
http://wlga.cymru/wlga-welcomes-social-care-bonus http://wlga.cymru/wlga-welcomes-social-care-bonus http://wlga.cymru/wlga-welcomes-social-care-bonus Mon, 14 Feb 2022 10:35:00 GMT
CLlLC yn galw ar Drysorlys Llywodraeth y DU i egluro fel mater o frys y "£175m o gyllid ychwanegol" ar gyfer teuluoedd Cymru sy’n ei chael hi’n anodd. CLlLC yn galw ar Drysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig i egluro fel mater o frys y "£175m o gyllid ychwanegol" ar gyfer teuluoedd Cymru sy’n ei chael hi’n anodd.

Mae CLlLC yn galw ar Drysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig i egluro fel mater o frys a fydd £175m ychwanegol a addawyd i Gymru yr wythnos diwethaf, oherwydd pecyn cymorth biliau ynni yn Lloegr, yn cael ei wireddu.

Cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak yr wythnos diwethaf y byddai Cymru'n derbyn £175m yn ychwanegol fel rhan o gynllun Ad-dalu'r Dreth Gyngor. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod rhywfaint o amheuaeth bellach a yw hyn yn arian ychwanegol.

  

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

"Mae costau byw cynyddol yn gwthio pobl i'r eithaf. Mae miloedd yn gorfod gwneud y dewis llwm rhwng gwresogi a bwyta, dim ond i oroesi.

"Er bod y Canghellor wedi cyhoeddi pecyn cymorth sydd â'r nod o helpu teuluoedd yn Lloegr, mae'n dal yn aneglur a fydd teuluoedd sy'n cael eu taro'n galed yng Nghymru yn cael unrhyw gymorth.

"Mae pobl ledled Cymru yn haeddu, ac yn aros, am sicrwydd. Pam y dylai teuluoedd sy'n gweithio'n galed yng Nghymru gael eu hamddifadu o'r gefnogaeth a addawyd gan Lywodraeth y DU i Loegr?

"Rydym wedi ysgrifennu at Drysorlys y DU yn gofyn am eglurder brys gan ofyn a fydd Cymru mewn gwirionedd yn gweld £175m yn ychwanegol gan fod arwyddion yn awgrymu nawr na fydd unrhyw ganlyniad Barnett oherwydd newidiadau eraill mewn gwariant adrannol yn Lloegr

"Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth unwaith y byddwn yn glir beth, os o gwbl, sydd ar gael."

 

DIWEDD -

]]>
http://wlga.cymru/wlga-calls-on-uk-treasury-to-urgently-clarify-extra-£175m-funding-for-hard-hit-welsh-families http://wlga.cymru/wlga-calls-on-uk-treasury-to-urgently-clarify-extra-£175m-funding-for-hard-hit-welsh-families http://wlga.cymru/wlga-calls-on-uk-treasury-to-urgently-clarify-extra-£175m-funding-for-hard-hit-welsh-families Wed, 09 Feb 2022 17:48:00 GMT
Annog busnesau sydd wedi eu heffeithio gan Omicron i wneud cais am gymorth ariannol Mae busnesau yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan ledaeniad cyflym Omicron, yn cael eu hannog i wneud cais i'w cyngor lleol am gymorth ariannol, os ydyn nhw’n gymwys i wneud hynny.

 

Mae dau grant yn cael eu gweinyddu gan gynghorau ar ran Llywodraeth Cymru.

 

Gall busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yng Nghymru gael eu hystyried am daliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol. Cafodd y gronfa ei hagor ar gyfer grant Ardrethi Annomestig ei hagor ar 13 Ionawr 2022. Bydd y gronfa ar agor tan ddydd Llun, 14 Chwefror 2022.

 

Mae’r gronfa hefyd yn cael ei weinyddu gan gynghorau lleol er mwyn cefnogi busnesau'r pedwar sector sydd wedi eu heffeithio. Gall y gronfa ddarparu £1,000 i fasnachwyr, gweithwyr llawrydd, a £2,000 i fusnesau cyflogedig cymwys sydd wedi eu heffeithio'n ariannol gan y cyfyngiadau i'r sectorau busnes maen nhw’n eu cyflenwi. Mae modd gwneud ceisiadau i'r gronfa ddewisol tan 14 Chwefror 2022.

 

Daw'r grant cymorth ariannol a busnes yn dilyn cyhoeddiad gan y Gweinidog Economi Vaughan Gething, y byddai £120 miliwn ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yng Nghymru, sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau diweddaraf, yn ogystal â'u cadwyni cyflenwi yng Nghymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, llefarydd Datblygu Economaidd, Mewnfuddsoddi ac Ynni CLlLC:

 

"Drwy gydol y pandemig, mae awdurdodau lleol wedi gweithio'n galed i gefnogi busnesau sydd wedi cael eu taro gan yr anawsterau mawr syn cael ei achosi gan y pandemig. Rydym yn croesawu’r pecyn diweddaraf o £120 miliwn gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn helpu i leddfu'r pwysau ar fusnesau Cymru.

 

"Rydym yn annog unrhyw fusnesau sy’n gymwys i ymweld â gwefan eu hawdurdod lleol i gael rhagor o fanylion, ac i wneud cais am gyllid cyn i geisiadau gau."

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y grantiau uchod, edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol am ragor o fanylion. Gall busnesau hefyd gael mynediad at gronfeydd yr Awdurdod Lleol drwy wefan Busnes Cymru COVID-19 Cymorth i Fusnes.

 

-DIWEDD-

 

Nodiadau i olygyddion:

]]>
http://wlga.cymru/eligible-businesses-impacted-by-omicron-urged-to-apply-for-financial-support http://wlga.cymru/eligible-businesses-impacted-by-omicron-urged-to-apply-for-financial-support http://wlga.cymru/eligible-businesses-impacted-by-omicron-urged-to-apply-for-financial-support Wed, 09 Feb 2022 12:10:00 GMT
Setliad gorau ers degawdau a hwb i gymunedau a gwasanaethau lleol, meddai CLlLC Mae llywodraeth leol wedi croesawu un o’r setliadau cyllidebol gorau ers cychwyn datganoli, gan gydnabod yr heriau sylweddol sy’n parhau i fod ar gyllidebau cyngor.

Bydd cynghorau yn gweld cynnydd o 9.4% ar gyfartaledd i’w refeniw craidd yn 2022-23, yn cynrychioli naid o £437m ers llynedd. Cyhoeddwyd hefyd ddyraniadau dangosol gan Lywodraeth Cymru am y ddwy flynedd nesaf, â’r gefnogaeth hynny’n cael ei groesawu gan gynghorau er mwyn cynllunio i’r dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Dyma setliad i’w groesawu’n gynnes a fydd yn hwb enfawr i’n cymunedau. Mae’n darparu buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol ac yn rhoi y sicrwydd pellach sydd ei angen ar gynghorau yn y cyfnod eithriadol sydd ohoni.

“Mae’r gefnogaeth ariannol i gynghorau gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hollbwysig i ymateb i’r argyfwng. Bydd setliad ar y raddfa yma yn helpu i roi gwasanaethau lleol ar droed mwy cadarn nag y mae nhw wedi bod ers tro. Mae’n benllanw misoedd o ddeialog adeiladol rhwng gweinidogion, arweinwyr a swyddogion llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru.

“Nid ffigyrau ar daenlenni yw buddsoddi mewn cynghorau. Mae’n fwy na hynny. Mae’n golygu buddsoddi yn ein cymunedau, ein pobl a’n gwasanaethau hollbwysig sy’n helpu i wella a newid bywydau, tra’n parhau i ymrafael â dwy her fyd-eang: y pandemig a newid hinsawdd.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid:

“Bydd y codiad hael mewn cyllid refeniw yn y cyhoeddiad heddiw yn helpu i ni ddarparu’n well ar draws ein holl wasanaethau, er bydd heriau sylweddol yn parhau i gyllidebau cyngor wrth i ni edrych . Rwy’n falch bod cyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn cychwyn ymateb i’n pryderon maith am dâl i ofalwyr ac yn cydnabod y rhai hynny sy’n darparu gwasanaethau cwbl gritigol ar gyfer y rhai bregus yn ein cymunedau. Mae’r canlyniad cadarnhaol yma yn adlewyrchu ein ymagwedd partneriaeth tuag at lywodraeth yng Nghymru a’n ymgysylltu rheolaidd â gweinidogion, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am gydnabod rôl hollbwysig cynghorau.”

“Bydd y cynnydd gwaelodol mewn cyllid yn ein helpu i gwrdd â’n pwyseddau chwyddiant sylfaenol ynghyd â’r pwyseddau ychwanegol o ganlyniad i Yswiriant Gwladol ond rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid i dalu’r cyflog byw go iawn i ofalwyr cofrestredig.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans (Sir Ddinbych), Arweinydd Grwp Annibynnol CLlLC:

“Dwi’n croesawu’r setliad a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru. Nid yn unig y mae’n cydnabod sut y mae ein gwasanaethau lleol hollbwysig yn chwarae rôl rheng flaen yn ymateb i’r pandemig, ond hefyd sut y mae nhw’n gwella bywydau yn ein cymunedau pob diwrnod o’r flwyddyn. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae cymunedau yn edrych i lywodraeth leol am arweiniad a chefnogaeth trwy’r amseroedd anodd iawn yma.”

“Bydd croeso gan lywodraeth leol hefyd i’r dyraniadau cyllidebol a gyhoeddwyd am y ddwy flynedd nesaf, a fydd yn rhoi llawer mwy o sicrwydd i gynllunio ymlaen.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole (Sir Gaerfyrddin), Arweinydd Grwp Plaid Cymru CLlLC:

“Rwy’n croesawu’n fawr y setliad gan Lywodraeth Cymru, sydd yn un o’r gorau i ni ei weld ers tro byd. Mae’n tystio i’r ddeialog reolaidd ac adeiladol i ni ei chael gyda gweinidogion ac Aelodau o’r Senedd yn ehangach, sydd yn sicr wedi cael ei werthfawrogi gan arweinwyr cyngor.

“Tra bod llawer yma i fanylu ymhellach, bydd y cyllid a gyhoeddwyd i gynghorau hefyd yn helpu i lansio rhai o’r polisïau beiddgar yn y Cytundeb Cydweithredu, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu ffyrdd o weithio i gyrraedd yr uchelgeisiau hynny.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard John (Sir Fynwy), Arweinydd Grwp Ceidwadol CLlLC:

“Dyma setliad sylweddol gan Lywodraeth Cymru sydd yn gywir yn cydnabod cyfraniad eithriadol ein gwasanaethau lleol. Rwy’n ddiolchgar i weinidogion am wrando arnom ni fel arweinwyr cyngor, ac am wneud y mwyaf o’r dyraniad hael a roddwyd i Drysorlys Cymru gan lywodraeth y DU. Mae’n dangos yr hyn all gael ei gyflawni dros ein cymunedau yng Nghymru ac ar draws y DU pan fo llywodraethau lleol, Cymru a’r DU yn gweithio a’i gilydd. Bydd y setliad yma’n ein helpu ni i wneud yn siwr bod gwasanaethau lleol hanfodol yn gallu parhau i gefnogi ein cymunedau pan mae nhw eu hangen.”

 

-DIWEDD-

 

Nodiadau i Olygyddion

Bydd setliad dros dro llywodraeth leol nawr yn destun cyfnod saith wythnos o ymgynghori, a fydd yn dod i ben ar 8 Chwefror 2022, cyn i Lywodraeth Cymru osod ei chyllideb derfynol.

]]>
http://wlga.cymru/best-settlement-in-decades-a-boost-for-communities-and-vital-local-services-says-wlga http://wlga.cymru/best-settlement-in-decades-a-boost-for-communities-and-vital-local-services-says-wlga http://wlga.cymru/best-settlement-in-decades-a-boost-for-communities-and-vital-local-services-says-wlga Tue, 21 Dec 2021 14:56:00 GMT
Cyllideb y Canghellor: Croesawu cyllid ychwanegol i Gymru Mae CLlLC wedi croesawu cyllid ychwanegol i Gymru a gyhoeddwyd yng nghylideb Llywodraeth y DU. Cyhoeddodd y Canghellor gynnydd blynyddol o £2.5bn i gyllideb Llywodraeth Cymru dros y dair mlynedd nesaf, fydd yn rhoi cyfle i weinidogion i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol hollbwysig megis gwasanaethau gofal cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:
“Tra’r ydyn ni yn cymryd amser i bori dros oblygiadau cyhoeddiadau’r Gyllideb, rwy’n croesawu’r £2.5bn o gyllid ychwanegol fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i roi hwb i wasanaethau cyngor lleol. Gwnaeth yr argyfwng COVID agor llu o llygaid i bŵer gwasanaethau cyngor megis gofal cymdeithasol a iechyd amgylcheddol yn ein cymunedau, a bydd y cyllid yma’n helpu i gydnabod eu cyfraniad aruthrol yn gwella bywydau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard John (Sir Fynwy), Llefarydd CLlLC dros Berthnasau Rhynglywodraethol a Chodi’r Gwastad:

“Dyma gyllideb feiddgar a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw sydd yn gweld Llywodraeth Cymru yn derbyn hwb iachus iawn o £2.5bn dros y dair mlynedd nesaf. Bydd hynny’n rhoi digon o gyfle i weinidogion fuddsoddi yng ngwasanaethau cyhoeddus hollbwysig Cymru gan gynnwys ein system gofal cymdeithasol sy’n gwegian dan bwysau, ac ein ysgolion. Yn y gyllideb hon, mae llywodraeth y DU unwaith eto wedi dangos ei hymrwymiad i bob cornel or Deyrnes Unedig, a rwy’n gobeithio’n arw y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd y cyfle nawr i ddangos ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn cymunedau lleol.”


“Yn ogystal â’r prif gyhoeddiad, roedd yr Adolygiad Gwariant hefyd yn cynnwys newyddion o geisiadau llwyddiannus gan gynghorau i’r gronfa Codi’r Gwastad. Bu deg o’r ceisiadau a ddaeth i law yn llwyddiannus ac, o ganlyniad, bydd cyfanswm o £121m nawr yn cael ei wario mewn chwe ardal awdurdod lleol. Nid oedd yr holl geisiadau a ddaeth i law yn llwyddiannus, a ni wnaeth pob cyngor geisio yn y rownd gyntaf. Ond fe fydd cyfleon eraill i ymgeisio mewn rowndiau i ddod. Daeth dim rhagor o fanylion gan y Canghellor am y Gronfa Ffyniant Gyffredin, sef y gronfa fydd yn olynu’r cyllid a fu gan yr Undeb Ewropeaidd.”

 

Y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Dirprwy Arweinydd CLlLC a Llefarydd dros Ddatblygu Economaidd, Buddsoddi Mewnol ac Ynni:
“Rwy’n croesawu’r cyllid ychwanegol sydd wedi ei gyhoeddi i Gymru. Ond rwy’n siomedig iawn fod sawl ardal, gan gynnwys fy awdurdod fy hun yn Abertawe, wedi derbyn dim cefnogaeth o’r gronfa Codi’r Gwastad. Bu llawer o gynghorau yn gweithio’n galed i dynnu ceisiadau ynghyd ond bydd cymunedau yn teimlo fel eu bod wedi eu hamddifadu heddiw. Er fod Cymru wedi derbyn tua 7% o’r cyllid codi’r gwastad a ddyranwyd ar draws y DU, mae’n bwysig nodi mai prosiectau mewn dim ond chwech o’r 22 ardal cyngor fydd yn derbyn cyllid.


“Rydyn ni’n dal i ymaros manylion am y Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd i fod i olynu cyllid yr UE. Mae ei ddirfawr angen os ydyn ni’n mynd i ddychwelyd i’r lefelau o gyllid datblygu economaidd oedd yn dod i Gymru o’r UE cyn Brexit. Roedden ni’n ofni na fydden ni’n gweld yr un lefelau o gyllid yn dod o Lundain ag yr oedd o Frwsel a, hyd yn hyn, mae hynny wedi cael ei brofi’n gywir.”


“Rwyf hefyd yn pryderu ein bod ni yn dal heb glywed am ganlyniadau o’r Gronfa Adfywio Cymunedol. Dyw hynny ddim yn argoeli’n dda gan bod rhain wedi cael eu gaddo nôl yng Ngorffennaf a rydyn ni nawr yn brysur ddod i fis Tachwedd. Rwy’n deall fod estyniad i 2022/23 o dan ystyriaeth, rwy’n gobeithio y gall cadarnhad ar y pwynt hynny, ac ar geisiadau llwyddiannus o’r gronfa, ddod cyn gynted a phosib. Mae pobl Cymru yn haeddu cael eu trin yn decach na mae nhw ar hyn o bryd.”

]]>
http://wlga.cymru/chancellor’s-budget-extra-money-for-wales-welcomed http://wlga.cymru/chancellor’s-budget-extra-money-for-wales-welcomed http://wlga.cymru/chancellor’s-budget-extra-money-for-wales-welcomed Wed, 27 Oct 2021 16:34:00 GMT
Data newydd yn dangos gwir faint problem y tomennydd glo wrth i'r Prif Weinidog apelio am gyllid newydd Mae data newydd sy'n dangos gwir faint problem tomennydd glo Cymru wedi'u cyhoeddi heddiw wrth i Brif Weinidog Cymru wneud apêl newydd i Lywodraeth y DU fuddsoddi i ddiogelu tomennydd glo a 'helpu cymunedau sydd eisoes wedi rhoi cymaint'.

Am y tro cyntaf erioed, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu rhoi dadansoddiad o'r 2,456 o’r tomennydd glo sydd yng Nghymru, a’u rhannu yn ôl categori risg ac awdurdod lleol.

Cyhoeddwyd y data newydd mewn datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn gynharach yn y mis lle cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru wedi casglu'r data a'u rhannu gydag awdurdodau lleol a Fforymau Cydnerthedd Lleol i’w helpu i baratoi at argyfyngau.

Mae'r data'n dangos mai Castell-nedd Port Talbot sydd â'r nifer fwyaf o safleoedd gyda 607 ond mai Rhondda Cynon Taf sydd â’r nifer fwyaf o rai risg uwch, sef 75.

Mae safleoedd risg uwch yn dod o dan gategorïau C a D ac felly â’r potensial i beri risg yn hytrach na bod bygythiad byw sydd ar fin digwydd – mae'n golygu bod angen cynnal archwiliadau’n amlach.

Cyhoeddwyd yr wybodaeth cyn cynnal yr Uwchgynhadledd ar Ddiogelwch Tomennydd Glo y prynhawn yma, sy'n cyfarfod am y pedwerydd tro. Trafodir gwaith y Tasglu Diogelwch Tomennydd Glo, gan gynnwys mapio data, gwaith cynnal a chadw ac archwilio.

Bydd cyllid ar gyfer adfer tomennydd glo yn y tymor hir hefyd yn cael ei drafod yn yr uwchgynhadledd. Amcangyfrifir y bydd y gwaith o addasu, sefydlogi ac adfer hen domennydd glo i ddelio â gwaddol y diwydiant glo cyn datganoli yn costio o leiaf £500m i £600m dros y degawd a hanner nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio'r angen bod buddsoddi’r rhan fwyaf o’r arian hwn yn y blynyddoedd nesaf, wrth i'r glaw ddwysáu a'r tymheredd gynyddu oherwydd y newid yn yr hinsawdd.

 

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:

Rydym yn cydnabod bod byw yng nghysgod tomen lo yn destun pryder i gymunedau ac rydym am sicrhau trigolion lleol bod llawer o waith yn cael ei wneud i’w gwneud yn ddiogel.

Mae trefn archwilio a chynnal a chadw ar waith, gydag archwiliadau gaeaf eisoes wedi cychwyn yn y tomennydd uwch eu risg. Rydym hefyd yn treialu technoleg i ddeall yn well symudiad y tir ar safleoedd risg uwch. Ond rydym yn gwybod y bydd y risgiau'n cynyddu wrth i’r hinsawdd newid ac mae’n hanfodol cael hyd i ateb tymor hir.

Mae’r safleoedd hyn yn dyddio o'r cyfnod cyn datganoli. Nid yw ein setliad ariannu yn cydnabod costau sylweddol, hirdymor adfer a thrwsio’r safleoedd. Mae’r Adolygiad Gwariant yfory yn gyfle i Lywodraeth y DU ddefnyddio ei phwerau ariannol i helpu cymunedau sydd wedi rhoi cymaint i Gymru a'r Deyrnas Unedig yn y blynyddoedd glofaol. Bydd pecyn buddsoddi i adfer y safleoedd hyn yn dangos sut y gall ein dwy lywodraeth gydweithio er lles y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

Mae gwaith yn cael ei gynnal yn rheolaidd i fonitro ac arolygu’r tomennydd glo i gadw llygad ar unrhyw risg o symudiad neu risg arall. Ond mae'r data hyn yn dangos bod angen buddsoddiad hirdymor sylweddol os ydyn ni am wneud yn siŵr bod gwaith atgyweirio angenrheidiol yn cael ei wneud – a hynny er mwyn inni sicrhau diogelwch y safleoedd hyn ledled Cymru.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cymryd y mater hwn o ddifrif a’u bod wedi sefydlu Tasglu Diogelwch Tomennydd Glo i fapio'r gwaith sydd ei angen ar y cyd. Fodd bynnag, er gwaethaf llythyr trawsbleidiol ar y cyd a gymeradwywyd gan bob un o'r 22 o arweinwyr y cynghorau yng Nghymru yn gofyn am gyllid gan Lywodraeth y DU, mae'n siomedig bod Llywodraeth y DU - er rhoi rhywfaint o gymorth ariannol ar y cychwyn - wedi gwrthod ymrwymo hyd yma i raglen ariannu barhaus. Bydd angen rhaglen ariannu sefydlog i ddelio â'r mater etifeddol hwn sy'n dyddio’n ôl i gyfnod cyn datganoli. Mae'r Adolygiad o Wariant yn rhoi cyfle i Lywodraeth y DU roi rhywfaint o sicrwydd y mae mawr ei angen ar gymunedau sy'n dal i fyw dan gysgod eu hetifeddiaeth ddiwydiannol. Drwy gydweithio â phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, ac o sicrhau buddsoddiad hirdymor, gallwn helpu i sicrhau ein bod yn diogelu'r safleoedd hyn rhag risgiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, gan atal trychinebau’r gorffennol rhag digwydd eto.

]]>
http://wlga.cymru/new-data-shows-true-scale-of-coal-tip-challenge-as-first-minister-makes-fresh-funding-call http://wlga.cymru/new-data-shows-true-scale-of-coal-tip-challenge-as-first-minister-makes-fresh-funding-call http://wlga.cymru/new-data-shows-true-scale-of-coal-tip-challenge-as-first-minister-makes-fresh-funding-call Mon, 25 Oct 2021 16:40:00 GMT