News http://wlga.cymru/news http://www.rssboard.org/rss-specification mojoPortal Blog Module cy-GB 120 no Datganiad gan grŵp arweinwyr CLlLC am y sefyllfa yn Wcráin  

Mae pawb ar draws llywodraeth leol Cymru wedi eu dychryn o weld y dinistr sy’n datblygu yn Wcráin. Heddiw, cyfarfu Arweinwyr Grwpiau CLlLC i drafod yr argyfwng dyngarol cynyddol yn y wlad. Dros y penwythnos ysgrifennodd Arweinydd CLlLC, Andrew Morgan at y Prif Weinidog, Boris Johnson am y gwrthdaro, a heddiw mae wedi ailadrodd yr alwad ar Lywodraeth y DU i roi mwy o eglurder a gweithredu ar frys wrth ymateb i argyfwng y ffoaduriaid.

Cadarnhaodd yr arweinwyr fod Llywodraeth Leol yng Nghymru yn barod i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin ac yn gwneud paratoadau. Yn eu llythyr at y Prif Weinidog, galwodd yr holl Arweinwyr a'r Llywydd am ddileu'r cynllun fisa cyfyngol a biwrocrataidd presennol er mwyn galluogi'r bobl hynny sy'n ceisio dianc rhag y rhyfel yn Wcráin i ddod i Gymru a dod o hyd i le diogel cyn gynted â phosibl. Mae'r arweinwyr wedi gofyn am gyfarfod brys gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i drafod y mater.

Mae angen mwy o fanylion am y llwybrau i'r DU ar frys hefyd er mwyn i ni allu gwneud cynnydd o ran cefnogi ffoaduriaid i gyrraedd y DU, y mwyafrif ohonynt yn fenywod, plant a phobl eraill sy'n agored i niwed. 

Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan: Wcráin - Gwybodaeth a Chymorth - CLILC

A gwefan Llywodraeth Cymru: Wcráin: cefnogaeth i bobl a effeithir | LLYW.CYMRU

]]>
http://wlga.cymru/statement-by-wlga-group-leaders-about-the-crisis-in-ukraine- http://wlga.cymru/statement-by-wlga-group-leaders-about-the-crisis-in-ukraine- http://wlga.cymru/statement-by-wlga-group-leaders-about-the-crisis-in-ukraine- Tue, 08 Mar 2022 13:15:00 GMT
Ymateb CLlLC i'r ymosodiadau ar Wcrain Yn ymateb i'r ymosodiadau brawychus ar yr Wcrain, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Mae pawb ar draws llywodraeth leol yng Nghymru wedi eu brawychu o weld y digwyddiadau erchyll sydd ar droed yn yr Wcrain."

"Nid oes cais i ailsefydlu wedi ei dderbyn hyd yn hyn gan Lywodraeth y DU.

"Mae cynghorau yn brofiadol o ran helpu i ailsefydlu pobl o wledydd sydd wedi eu heffeithio gan ryfeloedd, a byddant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu i gefnogi ymdrechion o'r fath."

 

]]>
http://wlga.cymru/wlga-responds-to-ukraine-invasion http://wlga.cymru/wlga-responds-to-ukraine-invasion http://wlga.cymru/wlga-responds-to-ukraine-invasion Thu, 03 Mar 2022 13:16:00 GMT
Llwyddiant i Bartneriaeth Strategol Mewnfudo Cymru Cydnabyddwyd Partneriaeth Strategol Mewnfudo Cymru yng Ngwobrau Heddlu Dyfed Powys 2021 am eu gwaith yn cydlynu’r ymateb i gartrefu ceiswyr lloches mewn baracs y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhenalun, Sir Benfro.

Bu’r Bartneriaeth, sy’n cael ei chynnal gan CLlLC, yn arwain ar yr ymateb aml-asiantaeth i gydlynu cefnogaeth ar gyfer y ceiswyr lloches oedd yn aros ar y safle a ddefnyddiwyd gan y Swyddfa Gartref fel lloches dros dro rhwng Medi 2020 a Mai 2021.

Canolbwynt llawer o’r gwaith oedd sicrhau bod gan y bobl oedd wedi eu cartrefu ar y safle fynediad i’r holl wasanaethau oedd eu hangen - gan gynnwys  iechyd, cefnogaeth o’r sector wirfoddol a chyngor cyfreithiol – a sicrhau bod y cyngor lleol a’r holl bartneriaid yn gallu ymateb i’r materion oedd ynghlwm ag agoriad y safle. Bu sefydlu’r safle a gwneud yn siŵr fod ceiswyr lloches wedi eu cefnogi’n llawn, ynghyd a sicrhau cydymffurfiaeth a rheoliadau Covid-19 a chydlyniant cymunedol yn heriau sylweddol ac yn flaenoriaeth allweddol i waith y Bartneriaeth, a chydnabyddwyd ei rôl ganolog gan Heddlu Dyfed Powys gyda’r wobr yn cael ei chyflwyno gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Cadeirydd Partneriaeth Strategol Mewnfudo Cymru:

“Bu’r dasg hon yn eithriadol o anodd, a rwy’n falch fod ymdrechion y tîm wedi cael eu cydnabod fel hyn.

“Ers i’r Swyddfa Gartref gyhoeddi eu bwriad i ddefnyddio’r safle ym Mhenalun i gartrefu ceiswyr lloches, roedd yn rhaid goresgyn llu o heriau ar fyrder i allu croesawu pobl oedd wedi profi trawma annirnadwy. Yn greiddiol i gydlynu’r trefniadau yma oedd ymdrechion Partneriaeth Strategol Mewnfudo Cymru.

“Rwy’n falch fod y tîm, ar ran yr holl bartneriaid, hefyd wedi rhannu awgrymiadau am welliannau, a rydyn ni’n deall y bydd rhain yn cael eu gwreiddio i waith y Swyddfa Gartref yn y dyfodol wrth sefydlu safleoedd o’r fath.”

“Mae’r wobr hon yn dyst i bŵer gwybodaeth leol, empathi a dyfalbarhad, a hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid a ymrwymodd i weithio a’i gilydd i gwrdd â’r her yma.”

DIWEDD 

]]>
http://wlga.cymru/award-success-for-the-wales-strategic-migration-partnership http://wlga.cymru/award-success-for-the-wales-strategic-migration-partnership http://wlga.cymru/award-success-for-the-wales-strategic-migration-partnership Fri, 19 Nov 2021 16:10:00 GMT
Cynghorau yn ymrwymo i chwarae eu rhan yn yr ymdrechion i ailsefydlu ffoaduriaid Affganistan Mae llywodraeth leol yng Nghymru wedi ei arswydo i dystio’r digwyddiadau yn Affganistan ac wedi adnewyddu’r addewid i gefnogi Llywodraeth y DU i ail-leoli staff wedi’i cyflogi’n lleol o’r rhanbarth.

Cyfarfu arweinwyr ar frys gyda Gweinidogion wythnos diwethaf, gyda deialog yn dilyn ymysg swyddogion a thrafodaethau o fewn cynghorau. Mae cynghorau yn barod i dderbyn ffoaduriaid fel rhan o’r rhaglen a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog.

Bydd pob cyngor yn chwarae rhan yn darparu llety a lloches i’r rhai hynny sy’n gallu gadael y wlad. Mae pob awdurdod yn asesu eu gallu yn barhaus i gartrefu a darparu’r gefnogaeth holistig sydd ei angen i gwrdd a’u anghenion.

 

Dywedodd Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf):

“Ni all unrhyw un amau y golygfeydd brawychus yr ydyn ni’n eu tystio mewn adroddiadau dyddiol o Affganistan. Mae holl gynghorau Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth posib yn yr ymdrechion parhaus i roi lloches i’r bobl sy’n ffoi o’r wlad yn ofni am eu bywydau.

“Bydd pob cyngor yn parhau i asesu eu gallu i gartrefu a chwrdd â holl anghenion y rhai sy’n chwilio am loches tra’n parhau i gwrdd ag anghenion a phwyseddau lleol. Caiff hyn ei wneud mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol – gan gynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru, y trydydd sector, iechyd a tai – i sicrhau bod yr holl ffoaduriaid sy’n cael eu hailgartrefu yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol a phriodol.

“Fel Cenedl Noddfa, mae gan gymunedai ledled Cymru hanes hir a balch o groesawu’r rhai sydd angen noddfa ddiogel. Rwy’n hyderus y bydd y pobl yma’n cael eu croesawu gyda’r un caredigrwydd a haelioni wrth iddyn nhw edrych i ailadeiladu eu bywydau yn dilyn trawma annirnadwy.”

 

-DIWEDD-

]]>
http://wlga.cymru/councils-committed-to-play-their-part-in-afghan-resettlement-efforts http://wlga.cymru/councils-committed-to-play-their-part-in-afghan-resettlement-efforts http://wlga.cymru/councils-committed-to-play-their-part-in-afghan-resettlement-efforts Mon, 23 Aug 2021 14:06:00 GMT