Cyllideb ‘bara menyn’, ond llywodraeth leol i gael y briwsion – unwaith eto

Dydd Mawrth, 09 Hydref 2018

Mae cyhoeddi’r setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol heddiw yn ganlyniad eithriadol o siomedig i gynghorau ar draws Cymru, gyda goblygiadau difrifol ar gyfer gwasanaethau lleol,

Yn benodol, mae cynghorau wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru ar y goblygiadau difrifol i gyllidebau ysgolion o ganlyniad i fethiant y setliad yma i gwrdd ac ystod anferth o bwyseddau demograffig, pensiynau a chyflog. Ar y lefel fwyaf optimistaidd, bydd hyn yn cyfrif am fwlch o £57m sydd yn cyfateb i golli 1,300 o swyddi athrawon neu 2,400 o swyddi cymorthyddion dosbarth, neu gyfuniad o’r ddau. Unwaith eto, mae’r naratif flinedig am gyllid ‘ychwanegol’ mewn datganiadau i’r wasg gan Lywodraeth Cymru angen cael ei drin yn amheugar. Yn syml iawn, dyw setliad heddiw ddim yn darparu digon o adnoddau i gyllido gwasanaethau lleol, yn enwedig o gymharu ag ardaloedd y mae Llywodraeth Cymru yn eu rheoli yn uniongyrchol, megis y GIG. Dyw bod yn gyntaf yn y ciw am ragor o adnoddau gan San Steffan, sydd ddim yn mynd i gael eu gwireddu o bosib oherwydd Brexit, yn ddim cysur i llywodraeth leol.

Caiff barn y 22 awdurdod lleol eu crynhoi gan gynrychiolwyr o grwpiau gwleidyddol CLlLC:

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen) o’r Grŵp Llafur CLlLC, a Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau:

“Siom i ni yw derbyn y setliad dros dro heddiw. Rwy’n gwybod fod cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd o ganlyniad i gynni. Ond rwy’n ofni mai’r penderfyniadau anghywir sydd wedi cael eu gwneud yn y gyllideb hon.”

“Mae cynghorau Cymru yn darparu gwasanaethau lleol gwerthfawr. Rydyn ni yn arwain ar yr agenda ataliaeth ac ymyraethau cynnar sydd yn ffurfio rhan bwysig o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gyflwynwyd gan y llywodraeth. Ond, o edrych ar y gyllideb, mae’n ymddangos nad ydi’r gwasanaethau yma yn flaenoriaeth.”

“Rydym fel cynghorau wedi cadw rheolaeth dynn ar ein cyllideb trwy gydol y cynni ariannol, gan wneud arbedion effeithlonrwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond wedi wyth mlynedd o doriadau llym, mae dyfodol gwasanaethau lleol allweddol yn y fantol.”

“Yn ogystal a gorfod delio gyda toriadau di-bendraw, mae’r cynnydd mewn pwyseddau mewn meysydd megis plant mewn gofal a gwasanaethau i bobl hŷn neu fregus yn lawer mwy na’r adnoddau presennol sydd gennym ni. Dyw gwneud rhagor o doriadau i’r gwasanaethau yma yn gwneud dim synnwyr; bydd gwneud hynny ond yn rhoi rhagor o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus eraill – gan gynnwys y GIG.”

“Fel arweinyddion Llafur yng Nghymru, rydyn ni wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod i ddeialog yn syth gyda cynghorau i weld sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i osgoi yr hyn a fydd, fel arall, yn argyfwng a fydd yn dyfnhau o ran cyllid ar gyfer ysgolion ein plant, gofal cymdeithasol i bobl fregus â’r gwasanaethau eraill o bwys y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw. Rydyn ni i gyd fel cynghorau wedi rheoli ein cyllideb yn dynn trwy gydol y cynni ariannol, gan wneud arbedion effeithlonrwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond, ar ôl wyth mlynedd o doriadau dwfn, rydyn ni’n brysur gyrraedd pwynt di-droi’n ôl i wasanaethau lleol.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox OBE (Sir Fynwy), Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr CLlLC:

“Wedi wyth mlynedd o weld ein cyllidebau ni’n llai dros chwarter, roedd gan Lywodraeth Cymru gyfle euraid i ddod â chynni ariannol i ben yng Nghymru. Gyda £370m o arian ychwanegol yn cyrraedd o San Steffan, roedd angen ymagwedd greadigol i gyllido gwasanaethau ataliol i gadw pobl draw o’n hysbytai. Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu cyllid i’r GIG 7% gan dorri cyllidebau cynghorau am yr wythfed flwyddyn yn olynol.”

“Mewn strategaethau slic fel ‘Ffyniant i Bawb’ a ‘Cymru Iachach’, mae Llywodraeth Cymru yn honni bod gofal cymdeithasol yn un o’u prif flaenoriaethau; does dim tystiolaeth i gefnogi hyn. Yn wir, o’r £370m sydd ar gael, bydd gofal cymdeithasol ond yn derbyn £30m – yn brin mewn ceiniogau, ond yn drwm mewn biwrocratiaeth.”

“Yn gryno, digon o eiriau mwyn ond heb ddim ymroddiad cyfatebol yn ariannol. Mae’r gyllideb yma’n llawn o feddyliau sych a blinedig. Yn eironig, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o arian i ni dalu am darmac pan mae gwasanaethau lleol wedi ‘cyrraedd diwedd y lôn’.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole (Sir Gaerfyrddin), Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC:

“I gynghorau ledled Cymru, mae’n anodd heddiw i orbwysleisio ar y synnwyr o anghrediniaeth ynghylch y setliad dros dro. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo mwy o bwerau a hyblygrwydd i gynghorau dros y ddwy flynedd diwethaf, ond mae nhw unwaith eto wedi dargyfeirio arian ar gyfer gwasanaethau craidd i amryw o grantiau penodol i’w wario ar eu mân brosiectau eu hunain.”

“Hefyd, mae’n ymddangos bod llywodraeth leol wedi bod yn defnyddio’r tactegau anghywir yn y blynyddoedd diweddar: yn lle cymryd gofal i ffurfio cyllidebau cytbwys a thorri gwasanaethau, efallai y byddai wedi bod yn well i ni i redeg diffygion cyllidebol dychrynllyd, fel y GIG, sydd o hyd yn cael eu tynnu allan o drafferthion ariannol ac yn cael eu gwobrwyo.”

“Gyda’r cyllid sydd ar gael i ni, allwn ni ddim amddiffyn gwasanaethau craidd – ac yn drist iawn, mae hynny’n golygu toriadau i ysgolion ac i ofal cymdeithasol. Rydyn ni’n pryderu y bydd swyddi athrawon yn diflannu ac y bydd gwasanaethau rheng-flaen yn cael eu torri. Efallai fod y gyllideb yma yn cyflawni nôd Llywodraeth Cymru o roi mwy o arian i ysbytai, ond mae’n colli’r pwynt yn llwyr mai buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol yw’r ffordd ymlaen.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE (Sir Ddinbych), Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC:

“Wedi gweld y setliad dros dro heddiw, dwi eisiau rhoi rhybudd clir. Does prin wythnos yn mynd heibio lle mae ACau, ASau ac eraill yn galw ar fy awdurdod i am ‘fuddsoddiad’ ychwanegol mewn un gwasanaeth neu’r llall. Mae ganddon ni fwlch cyllidebol o £11.5m heb unrhyw godiad yn y dreth gyngor. Does dim un o’r ceisiadau teilwng yma byth yn adnabod o ble y byddai’n rhaid i’r arian yma ddod, neu beth ddylai gael ei dorri i dalu amdanyn nhw. Rwyf yn dweud yn gyhoeddus iddyn nhw heddiw, os ydych chi’n pleidleisio dros y gyllideb yma yn ein Cynulliad Cenedlaethol, bydd yn rhaid i chi hefyd dderbyn cyfrifoldeb llawn am y toriadau dwfn sydd am fod i wasanaethau sydd yn cael eu trysori gan ein cymunedau.”

“Nid gofal cymdeithasol yn unig fydd yn cael ei effeithio; mae’n golygu llai o arolygu hylendid bwyd, toriadau i grantiau cyfleusterau anabl, canolfannau teulu yn cau, llai o dorri gwair, diwedd ar wasanaethau ieuenctid, a llawer mwy.”

“Mae cynghorau wedi cyrraedd pwynt di-droi’n ôl gyda’r gyllideb yma a rydyn ni rŵan yn wynebu gorfod gwneud dewisiadau ar wasanaethau craidd na fyddwn i, fel arweinydd etholedig Sir Ddinbych, fyth wedi gallu dychmygu y byddai’n rhai i ni eu gwneud.”

“Hyd yn oed mor hwyr yn y dydd â hyn, dylai Llywodraeth Cymru ailystyried y penderfyniadau yma ac i ddod ymlaen â chyllideb o’r newydd sydd yn decach ac yn lawer llai niweidiol i’n cymunedau. Byddaf yn gofyn i’n holl aelodau Cynulliad etholedig i weithio’n galetach ar ein rhan ac i herio Bae Caerdydd i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru gyfan.”

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30