Bu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn llongyfarch disgyblion ar draws Cymru heddiw ar eu llwyddiant yn eu arholiadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru.
Mae’r nifer o ddisgyblion a lwyddodd i gyrraedd graddau A* wedi codi i 8.7% o ymgeiswyr – y canlyniad gorau ers cyflwyno’r gradd yma, gyda’r nifer o ddisgyblion yn cyrraedd A*-A hefyd wedi cynyddu unwaith eto eleni yn dilyn y patrwm sydd wedi ei sefydlu yn y blynyddoedd diweddar. Mae cynnydd o 1 pwynt canran yn nifer y disgyblion yn cyrraedd graddau A*-C.
Enillodd 97.7% y Dystysgrif Her Sgiliau fel rhan o Fagloriaeth Cymru, sydd yn gynnydd o 3.7 pwynt canran ers 2017. Llwyddodd 80.9% o ymgeiswyr yng Nghymhwyster Uwch Bagloriaeth Cymru – cynnydd o 2.2 pwynt canran.
Dywedodd Llefarydd WLGA dros Addysg, y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):
“Fel cyn athrawes, rwy’n gwybod o brofiad am y straen sy’n cael ei brofi gan bawb sy’n gysylltiedig a diwrnod canlyniadau. Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion heddiw am eu hymdrechion diwyd a’u gwaith caled, ac i ddymuno’r gorau oll iddyn nhw ym mha bynnag lwybr y bydden nhw’n dewis ei ddilyn.
“Ac wrth gwrs, fedrwn ni ddim anghofio rôl allweddol rhieni, athrawon a staff ysgol wrth hybu a chefnogi pob disgybl i gyrraedd eu llawn botensial. Mae pawb sy’n rhan o’r gyfundrefn addysg yng Nghymru ar bob lefel wedi ymrwymo i roi’r cyfleon gorau i ddisgyblion, ac i ddarparu awyrgylch sy’n cyfoethogi ac yn gefnogol er mwyn eu galluogi i gyflawni eu potensial ac i ddatblygu fel unigolion.”
-DIWEDD-