Llwyddiant Safon Uwch i ddysgwyr Cymru

Dydd Iau, 15 Awst 2019

Mae dysgwyr ar draws Cymru yn dathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau heddiw, wrth i fwy o bobl nag erioed gyrraedd y graddau uchaf.

Bu cynnydd yn y nifer o ddysgwyr a gyflawnodd raddau A - A*, o 26.3% yn 2018 i 27% eleni, ac arhosodd y nifer a gyrhaeddodd raddau A - C yn sefydlog ar gyfradd o 76.3%.

97.8% o’r ymgeiswyr a lwyddodd i gyflawni Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru.

Bu cynnydd bach o 0.2 pwynt canran yn y nifer o ymgeiswyr a gyflawnodd y cymhwyster eleni (97.8%) â’r rhai a gyflawnodd raddau A*- A (21.7%) eleni. Cyflawnodd 4.6% radd A*, cynnydd o 0.7% o gymharu â 2018.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i ddysgwyr ar hyd a lled Cymru sydd wedi gweithio’n galed i gyrraedd eu graddau. Hoffwn eu llongyfarch nhw i gyd ar eu llwyddiannau a dymuno’r gorau iddyn nhw ym mha bynnag lwybr y byddan nhw’n dewis ei ddilyn.

“Ar ddiwrnod canlyniadau, mae hefyd yn bwysig cofio am gyfraniad hollbwysig teuluoedd, athrawon a staff ysgolion yn cefnogi ac yn hybu pob dysgwr i gyrraedd eu llawn botensial. Mae pawb sydd ynghlwm â’r system addysg yng Nghymru wedi ymrwymo’n llwyr i roi’r cyfleon gorau posib i ddysgwyr ac i ddarparu awyrgylch gefnogol iddyn nhw ffynnu a datblygu fel unigolion.”

 

-DIWEDD-

 

Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30