CLILC

 

"Rhaid cael ymdrech ar y cyd i ddatrys heriau iechyd a gofal cymdeithasol"

  • RSS
Dydd Mercher, 28 Medi 2022 Categorïau: Gwasanaethau cymdeithasol Newyddion
Dydd Mercher, 28 Medi 2022

Ymatebodd llefarwyr CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol heddiw i adroddiad Conffederasiwn GIG Cymru sy’n amlygu’r heriau o fewn gofal cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi (Ynys Môn):

“Mae llywodraeth leol wedi bod yn glir erstalwm bod angen cefnogaeth hir-dymor gynaliadwy ar fyrder i’r sector gofal cymdeithasol. Croeswyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru y llynedd. Ond mae’n hanfodol fod cyllidebau yn cadw i fyny â galw cynyddol ac i gwrdd ag anghenion sy’n fwyfwy cymhleth.”

“O ran recriwtio a chadw staff, mae cynghorau wedi gweithio’n rhagweithiol. Fodd bynnag, mae heriau gweithlu sylweddol yn dal i fod ar draws y sector gyhoeddus, yn nodedig felly yn y GIG ble mae prinder meddygon teulu, staff ambiwlans a doctoriaid yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau. Bydd rhaid teithio cryn bellter eto cyn y bydd staff gofal cymdeithasol yn derbyn yr un telerau ac amodau cyflogaeth a’u cydweithwyr yn y GIG. Dyma anghysondeb sydd ond yn ychwanegu at yr her o recriwtio a chadw staff. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r GIG i ddelio â heriau o ran y gweithlu ac i sicrhau ein bod ni’n defnyddio ein capasiti yn effeithiol.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David OBE, (Pen-y-bont ar Ogwr)

“Mae’r galw cynyddol a phwysau ychwanegol ar Wasanaethau Plant hefyd yn sylweddol. Mae cyllidebau a chapasiti’r gweithlu yn cael eu amharu gan anhawsterau gwirioneddol o ran canfod llefydd addas ar gyfer y rheiny sydd angen bod mewn gofal neu wedi eu diogelu. Dim ond ychwanegu at y galw am gefnogaeth y gwnaiff yr argyfwng costau byw. Gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar yw prif ffocws llywodraeth leol, gan weithio’n agos  gyda gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, i hefyd leihau’r galw am ymyriadau brys ac argyfyngoi.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey (Conwy):

“Rhaid i fynd i’r afael â’r nifer o heriau systemig o fewn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol fel eu gilydd fod yn ymdrech ar y cyd. Mae gofal cymdeithasol yn gweithio’n agos ar lefelau lleol a rhanbarthol gyda’r GIG i helpu i daclo pwyseddau o fewn y system. Mae’n siomedig mai ond arweinwyr o fewn y GIG y cafodd eu harolygu ac na fu ‘dull tîm’ o ran ymgynghori a’r holl system.”

“Ni all yr un rhan o’r system iechyd a gofal cymdeithasol ddatrys y materion yma ar ei phen ei hun. Bydd llywodraeth leol yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, y GIG, a phartneriaid eraill gyda brys ac o ddifrif i ddatrys y materion yma.”

 

-DIWEDD-

http://wlga.cymru/addressing-health-and-social-care-challenges-must-be-a-shared-endeavour