Blwyddyn gynhyrchiol arall i'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol

Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2019

Mae Adroddiad Blynyddol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol 2018/19 wedi cael ei gyhoeddi heddiw, gan ddangos ystod y gwaith sydd wedi’i gwblhau ar draws Cymru.

Gynt y Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol, mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi cyflawni ystod o raglenni gwaith i helpu codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth a chefnogi pobl awtistig a’u teuluoedd/gofalwyr. Ariennir y tîm gan Lywodraeth Cymru, a’i gynnal gan CLlLC ac mae’n gweithio mewn partneriaeth agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Ymysg prif bwyntiau’r adroddiad mae:

  • Cynnydd o 62% mewn ymweliadau i’r wefan ASDinfoWales, sy’n cael ei reoli gan y Tîm.
  • Mae’r saith Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi cael eu sefydlu ar draws Cymru, sy’n cael eu datblygu i helpu bodloni anghenion unigolion a grwpiau awtistig yn lleol.
  • Mae rhaglenni ymwybyddiaeth Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer plant yn parhau i fod yn llwyddiant; mae cyfanswm o 45 o leoliadau Blynyddoedd Cynnar wedi derbyn eu gwobrau, ac mae cyfanswm o fwy na 40,000 o blant ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd wedi cwblhau'r rhaglen yng Nghymru.
  • Ysgrifennu Canllawiau ar Awtistiaeth ar gyfer ymarferwyr o fewn gwasanaethau tai a digartrefedd, sydd wedi’i gyd-gynhyrchu gydag ymgynghorwyr awtistig, gweithwyr proffesiynol tai, a chydweithwyr sy’n gweithio gyda phobl awtistig ar draws Cymru. Disgwylir i’r canllawiau gael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.

Hefyd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad mae llwyddiant y ffilm ‘Parti Pen-blwydd’ – a gynhyrchwyd ar y cyd gyda’r Ganolfan Ymchwil i Awtistiaeth Cymru, i godi ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol y rheng flaen am yr arwyddion o awtistiaeth. Derbyniodd wobr yn ddiweddar yng Ngwobrau Arloesi ac Effaith Prifysgol Caerdydd.

 

Wrth adlewyrchu ar flwyddyn brysur a llwyddiannus arall, dywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-y-Bont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

 “Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am yr arian craidd i gefnogi gweithrediad llwyddiannus Cynllun Gweithredu Strategol Newydd yr ASA Cenedlaethol a’r Cynllun Cyflawni cysylltiedig, sy’n cynnwys cynhyrchiad yr Adroddiad Blynyddol.

 “Rwy’n hynod o falch o weld yr ystod o astudiaethau achos sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad blynyddol, sy’n darparu cipolwg real ac ymarferol i waith Arweinwyr ASA ar draws yr awdurdodau lleol, ac effaith y Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig, wrth iddynt ddod yn fwy sefydledig.“

 “Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn darparu cyfle i’r tîm adlewyrchu, gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, ar y gwaith a gyflawnir ar draws Cymru i wella bywydau pobl awtistig.”

 

Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn nodi cymaint o waith partneriaeth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a phwyslais cryf ar ymgysylltu â phobl awtistig a'u rhieni neu ofalwyr.

“Mae’r tîm yn parhau i weithio mewn partneriaeth i gynhyrchu adnoddau o safon uchel mewn dulliau digidol a mwy traddodiadol, yn ogystal â chynhyrchu deunyddiau hyfforddi gwerthfawr sy’n cael eu hamlygu ymhellach.  Mae defnydd o’r wefan www.ASDinfoWales.co.uk wedi cynyddu’n sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf ac mae twf cyson mewn ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn gam cadarnhaol arall tuag at gynyddu dealltwriaeth.”

“Rwy'n hynod o falch i amlygu'r ymrwymiad a wnaed gan sefydliadau cynnal y tîm - Iechyd Cyhoeddus Cymru a CLlLC drwy Femorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol i danlinellu ein bwriad o weithio yn fwy effeithiol gyda’n gilydd er lles pobl awtistig a’u rhieni a gofalwyr.”

 

-DIWEDD-

  • ·Mae Adroddiad Blynyddol y Tîm Awtistig Cenedlaethol 2018/19 ar gael yma.
  • ·Mae Anhwylder y sbectrwm awtistiaeth: adroddiad blynyddol 2018-19 Llywodraeth Cymru ar gael yma.

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30