CLILC

 

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud ag amryw weithgareddau a allai amharu ar fywydau unigolion a chymunedau. Yn ogystal ag aflonyddu ar bobl, gall ymddygiad o'r fath rwystro ardaloedd rhag cael eu hadfywio a chreu amgylchiadau lle gallai troseddau mwy difrifol ddigwydd. Dyma enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol:

  • cadw sŵn ac achosi niwsans
  • pobl ifainc yn ymgasglu'n fygythiol mewn mannau cyhoeddus
  • difrodi, murysgrifen a gosod posteri heb ganiatâd
  • gwerthu a phrynu cyffuriau yn y stryd;
  • gadael sbwriel a cherbydau heb ganiatâd
  • yfed gwrthgymdeithasol
  • camddefnyddio tân gwyllt

Mae awdurdodau lleol a phartneriaethau dros ddiogelwch yn y gymuned ledled Cymru yn gwneud llawer i fynd i'r afael ag ymddygiad o'r fath yn eu cymunedau.

Yn sgîl Deddf ‘Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona’ 2014, mae gan asiantaethau bwerau a dulliau newydd ar gyfer mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys gorchmynion sifil, sy’n disodli’r ASBO.

Mae sbardun y gymuned a chywiriad y gymuned yn grymuso dioddefwyr a chymunedau hefyd, fel y gallan nhw ddweud eu dweud ynglŷn â’r modd mae asiantaethau’n ymateb i gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn cosbi troseddwyr.


Dolenni: Llywodraeth Cymru / Y Swyddfa Gartref


Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Morgan

 

https://wlga.cymru/anti-social-behaviour