CLILC

 

Gwasanaethau Plant yng Nghymru ‘ar fin torri’ ac angen buddsoddiad ar frys

  • RSS
Dydd Llun, 17 Medi 2018 Categorïau: Newyddion
Dydd Llun, 17 Medi 2018

Wrth i Aelodau Cynulliad ddychwelyd o seibiant yr haf yn barod i graffu Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn gyllidol nesaf, mae gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol mewn llywodraeth leol yn rhybuddio am y pwysedd eithriadol sy’n parhau o fewn Gwasanaethau Plant ledled Cymru.

Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru (ADSS Cymru) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cyhoeddi datganiad safbwynt ar y cyd ar gyflwr Gwasanaethau Plant o fewn awdurdodau lleol Cymru, gan ddangos bod y sector ‘ar fin torri’ ac yn ei chael hi’n anodd i ymdopi a’r heriau o gynnydd mewn galw a chymhlethdod yr achosion sy’n cael eu cyflwyno i gynghorau yn ddyddiol.

Noda’r datganiad bod bron 16,000 o blant wedi derbyn gofal a chefnogaeth gan awdurdodau lleol yng Nghymru y llynedd (2017-18), gyda bron i 6,000 o blant yn cael eu gofalu amdanynt gan awdurdodau lleol – ffigwr sydd wedi cynyddu bron i chwarter dros 10 mlynedd. Dywed y datganiad hefyd, dros yr un cyfnod, bod gwariant cynghorau ar wasanaethau plant wedi cynyddu i gwrdd a'r cynnydd yn y galw, gyda chynnydd mewn termau real o 30% ar Wasanaethau Plant sy’n Derbyn Gofal, a chyllid craidd awdurdodau lleol wedi lleihau 22% ar ôl chwyddiant.

Gan fod gan cynghorau ddyletswydd statudol i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant sy’n derbyn gofal, mae’r ymrwymiad ariannol cynyddol yn golygu mai dim ond ychydig o arian sydd ar ôl gan aelodau etholedig, nid yn unig i fuddsoddi mewn gwasanaethau ymyrraeth gynnar, ond hefyd bod yn rhaid iddyn nhw gymryd penderfyniadau anodd mewn meysydd eraill yn enwedig mewn gwasanaethau nad ydynt yn statudol, megis datblygu economaidd, gwasanaethau ieuenctid, hamdden a thwristiaeth – sefyllfa y mae’r ddwy gymdeithas yn gredu sydd, yn syml, yn anghynaladwy.

Mae’r ddwy gymdeithas yn apelio i ACau i gefnogi eu galwad i gau’r bwlch ariannu sydd yn bodoli o fewn cyllidebau gofal cymdeithasol, ac i bwyso ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy o arian mewn Gwasanaethau Plant ar draws Cymru.

 

Meddai Y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’r nifer o blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru wedi cynyddu 15% ers 2010 ac, yn ystod y cyfnod yma, mae cyllid cynghorau wedi lleihau 22% mewn termau real. Tra mae llywodraeth leol wastad wedi bod ac yn parhau i roi cyn gymaint o adnoddau a gwarchodaeth â phosib i ddarparu gwasanaethau hanfodol i ddiogelu a chefnogi plant a’u teuluoedd, yng ngwyneb toriadau sy’n parhau a galw cynyddol, byddwn ni’n ei chael hi’n anodd i wneud hynny yn y dyfodol.”

“Dyw’r heriau yma ddim yn unigryw i Gymru, gyda mwy o blant nag erioed yn derbyn gofal ar draws y DU, ond mae’n dangos yr angen am bwyslais ar ymagwedd ataliol i wella deilliannau plant.”

“Wrth i Lywodraeth Cymru ystyried ei cynlluniau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, mae’n allweddol bod mwy o gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol i gwrdd â’r bwlch cyllidol cynyddol sy’n cael ei weld ar draws cynghorau ac o fewn gofal cymdeithasol; fel arall, bydd ein gwasanaethau hanfodol yn parhau i fod dan fygythiad sylweddol a ni fyddant yn gynaliadwy yn y tymor hir.”

“Mae’r datganiad safbwynt yn amlinellu’r pwysedd eithriadol a heriau enfawr sy’n effeithio ar Wasanaethau Plant, ac yn gosod y prif feysydd hynny lle maw mwy o gyllid yn hanfodol i sicrhau ein bod ni’n gallu gwneud ein gorau posib ar gyfer y plant mwyaf bregus mewn cymdeithas.”

 

 

Mae CLlLC ac ADSS Cymru hefyd yn gofyn ar ACau i ddefnyddio cyllid canlyniadol a fydd yn dod i Gymru i gael ei glustnodi, fel bod Cronfa Gofal Ataliol ar gyfer Cymru yn gallu cael ei sefydlu.

Mae’r ddwy gymdeithas yn credu y byddai cronfa o’r fath yn galluogi buddsoddiad o’r newydd i gymryd lle mewn gwasanaethau ataliol gwerthfawr, a fyddai’n cymryd y baich oddi wrth rhai o’r gwasanaethau dydd-i-ddydd yn y system bresennol, ac i ganiatáu unrhyw arbedion a wireddir i gael eu ail-fuddsoddi yn ôl yn y system.

 

Meddai Sally Jenkins, Cadeirydd Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan ADSS Cymru:

“Mae traddodiad balch gan wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru o ddarparu gofal a chymorth i’r plant mwyaf bregus yn ein cymdeithas, a rydyn ni angen gweld ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru yn y gyllideb nesaf i gynnal y gwasanaethau yma.”

“Mae’r plant hynny sy’n derbyn gofal yn gynnyrch trasig o ystod o ffactorau economaidd, teuluol a chymunedol sydd yn rhy aml yn golygu bod plant yn dod dan fygythiad o niwed.”

“Ni all gwasanaethau cymdeithasol ddelio â hyn ar eu pen eu hunain. Bron 20 mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru, rydw i eisiau iddyn nhw ymrwymo i well adnoddau, i ymrafael â’r achosion gwraidd, i ymyrryd yn gynharach, ac i ddarparu gwell deilliannau ar gyfer y rhai hynny yr ydyn ni angen eu gofalu amdanynt.”

 

DIWEDD
 

http://wlga.cymru/childrens-services-in-wales-at-breaking-point-and-need-urgent-investment