CLILC

 

Croesawu darpariaethau Bil Lles Plant ac Ysgolion cyn dadl yn y Senedd

  • RSS
Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2026 Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion
Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2026

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi ailddatgan ei chefnogaeth i ddarpariaethau Bil Lles Plant ac Ysgolion Llywodraeth y DU sy’n berthnasol i Gymru, cyn dadl ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) yn y Senedd.

Mae’r Bil, a estynnwyd i gwmpasu Cymru ym mis Mawrth 2025, yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â Phlant nad ydynt yn yr Ysgol, cyflogaeth plant, ac agweddau ar ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol.

Mae’r mesurau ar Blant nad ydynt yn yr Ysgol yn cyflwyno darpariaethau diogelu ychwanegol i gefnogi awdurdodau lleol i sicrhau bod plant sy’n cael eu haddysgu gartref yn derbyn addysg addas, ochr yn ochr â gwiriadau manylach lle mae plant yn destun mesurau amddiffyn plant, neu wedi bod o fewn y pum mlynedd diwethaf.

Mae cynghorau Cymru wedi codi pryderon yn gyson ynglŷn â’r ffordd orau o gefnogi plant nad ydynt yn yr ysgol, yn enwedig lle mae problemau diogelu yn codi.

Mae CLlLC wedi croesawu’r darpariaethau hyn yn flaenorol fel cam tuag at ddarparu mwy o eglurder a chysondeb i awdurdodau lleol wrth gyflawni eu cyfrifoldebau statudol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Mae cynghorau wedi bod yn glir ers peth amser ynghylch yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth gefnogi plant nad ydynt yn yr ysgol, yn enwedig lle mae pryderon diogelu. Mae’r darpariaethau hyn yn rhoi mwy o eglurder i awdurdodau lleol wrth gyflawni’r gwaith hwn ac yn helpu i gryfhau’r trefniadau diogelu presennol.

“Mae’n bwysig bod y mesurau hyn yn cael eu gweithredu mewn ffordd sy’n gymesur ac yn ymarferol ar lefel leol, a bod gan gynghorau y gallu a’r gefnogaeth sydd eu hangen i’w cyflawni’n effeithiol.

“Bydd CLlLC yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a phartneriaid wrth i’r Bil gael ei ystyried gan y Senedd ac, yn amodol ar gymeradwyaeth, wrth i’r darpariaethau gael eu rhoi ar waith.”

http://wlga.cymru/children’s-wellbeing-and-schools-bill-provisions-welcomed-ahead-of-senedd-debate