CLILC

 

Ein Nod

Cymunedau lleol diogel a hyderus

Diogelwch cymunedau a thân ac achub

"Mae rôl enfawr i wasanaethau cyhoeddus lleol sydd wedi’u hariannu’n deg o ran creu cymunedau hyderus a diogel yng Nghymru"

Mae diogelwch cymunedau yn flaenoriaeth i lawer o bobl yng Nghymru, a bydd gwasanaethau cyhoeddus y cynghorau lleol yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ba mor ddiogel mae pawb yn teimlo yn ei fro.

 

Er y bydd gwasanaethau craidd megis addysg, iechyd amgylcheddol a thai yn helpu i gryfhau diogelwch pob cymuned, mae gofyn statudol i bob cyngor lleol sefydlu partneriaeth diogelwch cymunedau, hefyd.  Yn ogystal â’r cyngor, mae’r heddlu, y gwasanaeth tân ac achub, y bwrdd iechyd lleol a’r gwasanaeth prawf yn rhan o’r bartneriaeth sy’n ymwneud â phob asiantaeth briodol.

 

Ar y cyd, maen nhw’n mynd i’r afael â blaenoriaethau diogelu cymunedau megis camddefnyddio cyffuriau, trais yn y cartref ac ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy drefniadau lleol, rhanbarthol a gwladol.

 

Mae Cymru yn un o rannau cyntaf y Deyrnas Gyfunol lle mae pob cyngor lleol wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac rydyn ni’n cydweithio’n agos â chymuned y lluoedd arfog gan gynnwys rhaglen gymorth wladol ar gyfer plant milwyr yn yr ysgol.

 

Yn wyneb pryderon cyfnewidiol ym maes diogelwch cymunedau, rydyn ni’n cydweithio â chynghorau a’u cymunedau i lunio ymatebion lleol i faterion byd-eang megis gwrthderfysgaeth, hefyd.

 

Rydyn ni o’r farn y bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar eu gorau pan fo blaenoriaethau a threfniadau lleol yn eu cyfeirio.

 

Rydyn ni’n cydweithio â phartneriaethau diogelwch cymunedau Cymru ac amrywiaeth helaeth o bartneriaid gwladol i ofalu bod byd llywodraeth leol yn ymwneud â’r materion sy’n bwysicaf i bobl.


Dolen:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Morgan

https://wlga.cymru/community-safety