CLILC

 

Cyfnod ymgynghoriad wedi’i ymestyn ar gyfer adolygiad i wasanaeth synhwyraidd a chyfathrebu De Ddwyrain Cymru

  • RSS
Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf 2019 Categorïau: Democratiaeth leol a llywodraethu Gwella a chyflawni Newyddion
Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf 2019

Bydd rhagor o amser yn cael ei roi i adolygiad annibynnol i ddarpariaeth Gwasanaeth synhwyraidd a chyfathrebu rhanbarthol De Ddwyrain Cymru i gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid perthnasol.

Yn cael ei adnabod fel SENCOM, darperir y gwasanaeth yn rhanbarthol ar hyn o bryd ar draws Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen. Mae’n cefnogi anghenion dysgu ychwanegol mewn meysydd arbenigol megis anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a namau ar y clyw, ar y golwg, ac aml-synhwyraidd.

Ym mis Mai 2019, fe wnaeth yr awdurdodau sy’n ymwneud â SENCOM ofyn i CLlLC i gomisiynu arbenigwr annibynnol i adolygu ac adrodd ar y gwasanaeth i archwilio ffyrdd mwy cynaliadwy i ddarparu’r model rhanbarthol. Mae ymgynghorydd annibynnol, Mr Mark Geraghty, ers hynny wedi cychwyn ac ymgymryd â nifer o ymarferion ymgynghori ac ymgysylltu fel rhan o’r adolygiad.

Gan gydnabod y diddordeb yn yr adolygiad gan blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr a phartner sefydliadau, mae Mr Geraghty bellach wedi penderfynu ymestyn y cyfnod ymgynghori.

 

Dywedodd Mr Geraghty:

“Mae’r gwasanaeth SENCOM yn gweithredu yn Ne Ddwyrain Cymru i gynnig gwasanaethau cefnogol arbenigol i blant a phobl ifanc, eu teuluoedd ac ysgolion. Mae’r rhain yn cynnwys plant gyda namau ar y clyw ac ar y golwg, anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a phlant gyda anghenion cymhleth a niferus.

“Yn yr holl gyfarfodydd i mi eu mynychu, ar draws pob lefel, mae’r angerdd a’r awch i sicrhau bod plant a phobl ifanc gydag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a namau ar y clyw ac ar y golwg yn derbyn cefnogaeth o safon ac adnoddau addas, wedi bod yn gwbl amlwg,

“I sicrhau bod canfyddiadau’r adolygiad yn gadarn ac i ganiatáu digon o amser ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu ystyrlon, mae’r adolygiad nawr wedi cael ei ymestyn gyda disgwyl cyhoeddi’r adroddiad terfynol yn hwyrach. Mae’r holl randdeiliaid perthnasol yn cydnabod pwysigrwydd yr adolygiad i sicrhau penderfyniadau wedi’i seilio ar dystiolaeth.”

 

-DIWEDD-

 

 

http://wlga.cymru/consultation-period-extended-for-south-east-wales-sensory-and-communication-support-service-review