Cynghorau a Chyfoeth Naturiol Cymru yn diogelu perthynas newydd flaengar

Dydd Iau, 07 Chwefror 2019

Mae awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymrwymo i arddel trefniant partneriaeth newydd a fydd yn cefnogi gwell cydweithredu a chydlynu mewn materion amgylcheddol.

Eisoes, mae cynghorau a CNC yn gweithio ar y cyd mewn meysydd sy’n gyffredin gan gynnwys cynllunio, rheoli dŵr a llifogydd, rheolaeth cefn gwlad a’r tir, a gweithredu deddfwriaethol. Wedi’i grisialu mewn Memorandwm o Ddealltwriaeth a arwyddwyd gan CNC a CLlLC, ar ran 22 awdurdod lleol Cymru, bydd set o egwyddorion yn tywys y berthynas newydd, gan gynnwys anelu i:

  • Drafod, ymgysylltu a gweithio ar y cyd ar amcanion cyffredin mewn materion perthnasol
  • Rhannu esiamplau o waith neu ddatblygiadau a fyddai’n gallu bod o gymorth i waith y nail neu’r llall
  • Barhau i archwilio a thrafod cyfleon pellach i gydweithio

Ceir hefyd ystod o feysydd posibl i gydweithio yn y dyfodol wedi’i clustnodi, a fydd yn cael eu harchwilio mewn cyfarfodydd cyson rhwng CNC a chynrychiolwyr llywodraeth leol.

Bydd ailosod y berthynas hefyd yn helpu CNC a llywodraeth leol i fedru ddiwallu yn well gofynion y Deddf Amgylchedd a’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd CLlLC:

“Ers amser maith, mae llywodraeth leol wedi bod yn cefnogi cydweithio â phartneriaid allweddol i wella darpariaeth gwasanaethau lleol, a rwy’n falch bod cynghorau a CNC wedi llwyddo i sicrhau’r cytundeb blaengar yma fydd yn cefnogi ffordd newydd o weithio ar lefelau gweithredol a strategol.

“Bydd cyfuno ein arbenigedd ac adnoddau, a chydlynu ein ymdrechion yn enwedig â’r sector gyhoeddus dan straen eithriadol yn y cyfnod yma, yn helpu i wella gwasanaethau ar gyfer trigolion lleol. Fel rhan o’r Memorandwm, rydym hefyd wedi adnabod ardaloedd posib cyffrous i gydweithio i’w harchwilio ymhellach, gan gynnwys rhaglenni prentisiaethau ar y cyd, cyfleon hyfforddi ar y cyd, a rhannu asedau.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Llefarydd CLlLC dros yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd:

“Mae CNC yn bartner allweddol i lywodraeth leol a bydd y berthynas newydd yma yn gwella ar y nifer o esiamplau o gydweithio yr ydym ni’n parhau i ymgymryd â nhw. Mae ein perthynas yn parhau i fod yn hanfodol i’n galluogi ni i gydlynu yr ymateb mewn sefyllfaoedd o argyfwng, yn arbennig mewn perthynas â rheoli risg llifogydd a gorfodaeth amgylcheddol. Bydd y ddealltwriaeth newydd yma yn cyfrannu i wella gweithrediadau o ddydd-i-ddydd o fewn materion perthnasol, yn ogystal â gwella trosolwg strategol o bolisi.”

 

Dywedodd Claire Pillman, Prif Weithredwr CNC:

“Rydyn ni eisoes yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i wella yr amgylchedd, a mae’r cytundeb hwn yn gadarnhad pellach o’r berthynas honno.

“Ond gallwn ni wneud llawer iawn mwy. Rydyn ni’n ail-drefnu i ganolbwyntio’n fwy ar weithio’n lleol, a bydd y cytundeb hwn yn ein helpu ni â’n partneriaid mewn cynghorau i ganfod ffyrdd newydd gwell o wella’r amgylchedd, economi a chymdeithas yng Nghymru.”

 

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30