CLILC

 

Datganoli asedau Ystâd y Goron yng Nghymru yw'r dull cywir i Gymru o hyd, meddai cynghorau Cymru

  • RSS
Dydd Mercher, 25 Mawrth 2026 Categorïau: Cyllid ac adnoddau Newyddion
Dydd Mercher, 25 Mawrth 2026

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud bod yr achos dros ddatganoli rheolaeth o asedau Ystâd y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru yn parhau’n gryf, yn dilyn cyhoeddi adroddiad interim Llywodraeth Cymru ar ddyfodol Ystâd y Goron yng Nghymru.

Mae’r adroddiad gan weithgor a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn galw am lawer mwy o dryloywder dros gyllid Ystâd y Goron a dull partneriaeth cryfach i sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn elwa o fuddsoddiad yn y dyfodol, yn enwedig mewn gwynt ar y môr a seilwaith ategol.

Mae cynghorau ledled Cymru wedi cefnogi datganoli asedau Ystâd y Goron yn gyson er mwyn sicrhau bod penderfyniadau am adnoddau naturiol Cymru yn cael eu gwneud yng Nghymru ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau economaidd lleol. Dywedodd CLlLC fod yr adroddiad yn darparu tystiolaeth newydd ddefnyddiol a llwybr clir ar gyfer cryfhau atebolrwydd tra bod yr achos dros ddatganoli yn cael ei ddatblygu ymhellach.

Dywedodd CLlLC y byddai’n ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn llawn, ond bod y pedwar argymhelliad, gan gynnwys gwell adrodd ariannol, trefniadau craffu cryfach a datblygu achos busnes clir, yn gam cadarnhaol ymlaen o ran cryfhau llais Cymru ynghylch sut mae asedau Ystâd y Goron yng Nghymru yn gweithredu yma.

Ychwanegodd y gymdeithas y bydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Ystâd y Goron i sicrhau bod Cymru’n cael y budd mwyaf posibl o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy yn y dyfodol a buddsoddiadau eraill sy’n gysylltiedig â’i hadnoddau naturiol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

“Mae pobl yng Nghymru yn haeddu gweld budd llawn ein hadnoddau naturiol. Mae’r adroddiad hwn yn atgyfnerthu’r hyn y mae cynghorau wedi bod yn ei ddweud ers peth amser – rhaid bod llawer mwy o dryloywder ynghylch sut mae Ystâd y Goron yn gweithredu yng Nghymru a sut mae’r manteision yn cael eu rhannu gyda’n cymunedau.

“Mae awdurdodau lleol yn croesawu’r swyddi, y buddsoddiad a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwynt ar y môr a datblygiadau eraill sy’n cael eu teimlo ym mhob rhan o Gymru. Er ein bod yn croesawu’n gynnes y ffocws cryfach ar bartneriaeth ac atebolrwydd, mae ein safbwynt hirsefydlog yn parhau i fod y dylid datganoli asedau Ystâd y Goron yng Nghymru fel y gellir gwneud penderfyniadau yn agosach at y cymunedau y maent yn effeithio arnynt.”

http://wlga.cymru/datganoli-asedau-ystâd-y-goron-yng-nghymru-ywr-dull-cywir-i-gymru-o-hyd-meddai-cynghorau-cymru