CLILC

 

Ein Nod

Mae WLGA ar flaen y gad ynglŷn â hybu cydraddoldeb ym maes llywodraeth leol ers dros ddegawd

Cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol

"Wrth arwain cymunedau, mae rôl bwysig i’r cynghorau o ran hybu cymathu a chydlynu ym mhob cymuned"

Mae cymunedau Cymru yn fwyfwy amryfal ac yn wynebu heriau o achos mewnfudwyr economaidd, amddifadedd, tlodi, gwahaniaethau rhwng amryw genedlaethau, rhagor o droseddau sy’n ymwneud â chasineb a pherygl eithafiaeth. Mae cynghorwyr a chynghorau Cymru yn cyflawni rôl allweddol o ran hybu cymathu a chydlynu ym mhob cymuned.

 

Mae amryw ddyletswyddau statudol ar gynghorau ym maes cydraddoldeb, yn bennaf y rhai sydd yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Felly, byddan nhw’n ceisio cael gwared ar anffafrio, aflonyddu ac erlid ynglŷn â phobl a chanddynt nodweddion sydd i’w diogelu. At hynny, rhaid hybu cyfleoedd cyfartal a meithrin cydberthynas dda rhwng rhai a chanddynt nodweddion i’w diogelu a rhai sydd heb nodwedd o’r fath. Mae cynghorau Cymru yn bartneriaid o bwys o ran cyflawni nodau strategaethau gwladol trwy ymgysylltu â chymunedau, llunio a chynnig gwasanaethau a chydweithio â Llywodraeth Cymru i hybu cynllun cydlyniant cymunedol a fframwaith 'Teithio at ddyfodol gwell‘ ar gyfer sipsiwn a phobl grwydrol.

 

Roedd Uned Cydraddoldeb WLGA yn gweithredu rhwng 2002 a 2015 gan helpu awdurdodau i hybu cydraddoldeb yng nghymunedau Cymru a chynnig gwasanaethau cyhoeddus i bawb. Lluniodd Uned y Cydraddoldeb amrywiaeth helaeth o adnoddau ac mae llawer yn berthnasol o hyd.

 

Er nad yw Uned Cydraddoldeb WLGA ar waith mwyach o ganlyniad i Lywodraeth Cymru roi’r gorau i’w hariannu yn 2015, mae WLGA yn parhau i geisio hyrwyddo cydraddoldeb trwy gynlluniau megis Amrywiaeth mewn Democratiaeth a chydweithio â chyrff gwladol ym maes cydraddoldeb gan gynnwys cyrff cynrychioli a Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

 

Mae WLGA yn cynrychioli maes llywodraeth leol yn amryw weithgorau Llywodraeth Cymru yn ogystal â chylchoedd cynghori gweinidogion megis Fforwm Trasau Cymru, Bwrdd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Cylch Ymgynghorol Annibynnol dros Droseddau Atgasedd. Mae WLGA yn cydweithio â phartneriaid i lunio canllawiau ac adnoddau, gan gynnwys helpu Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG i gynnal Canolfan Arferion yr Asesu Effeithiau ar Gydraddoldeb.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Joseph Lewis

https://wlga.cymru/equality-and-community-cohesion