Mae pob un o dri pharc cenedlaethol a thri gwasanaeth tân ac achub Cymru wedi cyhoeddi cynllun strategol ar gyfer cydraddoldeb. Mae gofyn iddyn nhw wneud hynny yn ôl Rheoliadau ‘Dyletswyddau Statudol’ Cymru 2011 yn sgîl Deddf ‘Cydraddoldeb’ 2010. Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru fydd yn rheoleiddio’r modd y dylai pob cynllun weithredu. Mae’r cynlluniau’n gofyn i’w sefydliadau bennu nifer o amcanion i gael gwared ar anffafrio a hybu cyfleoedd cyfartal.