CLILC

 

Tȃn ac Achub

Mae Deddf 'Gwasanaethau Tan ac Achub' 2004 yn gofyn i bob awdurdod tân ac achub gynnal gwasanaeth sy'n gallu ymateb yn effeithiol i geisiadau am gymorth yn achos tân a sawl argyfwng arall. Hanfod awdurdod tân ac achub yw cynghorwyr mae awdurdodau lleol y rhanbarth perthnasol yn eu henwebu i'w cynrychioli ynddo. Mae'r gwasanaeth tân yn un o gyfrifoldebau'r awdurdodau lleol er 1948 ac, er bod cyfrifoldeb cyffredinol ar y Cynulliad am y gwasanaethau tân ac achub, mae'r cyfrifoldeb yn ymwneud â democratiaeth leol ym mhob bro. Mae tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru:

 

Awdurdod y Canolbarth a'r Gorllewin

Prif Swyddog Tân: Roger Thomas

Cadeirydd: Y Cyng. Gwynfor Thomas (Powys)

Is Cadeirydd: Y Cyng. John Davies (Sir Benfro)

 

Awdurdod y Gogledd

Prif Swyddog Tân: Dawn Docx

Cadeirydd: Y Cyng. Peter Lewis MBE (Conwy)

Is Cadeirydd: Y Cyng. Dylan Rees (Ynys Môn)

 

Awdurdod y De

Prif Swyddog Tân Dros Dro: Stuart Millington

Cadeirydd: I'w gadarnhau

Is Cadeirydd: I'w gadarnhau

 

Y gwasanaethau tân ac achub sy'n bennaf cyfrifol am faterion tân ac achub. Er mai dim ond diffodd tanau oedd eu swyddogaeth ynghynt, maen nhw'n gyrff rhagweithredol bellach sy'n ymwneud ag atal tanau, marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i danau, ac argyfyngau megis damweiniau ffyrdd, gollwng cemegion a llifogydd. Hanfod y ddau nod hynny, sef atal ac ymateb, yw canolbwyntio ar addysg am gadw'n ddiogel rhag tân a chydweithio â phartneriaid lleol megis partneriaethau diogelwch y gymuned er mwyn cyfrannu'n sylweddol i faterion cymunedau diogel yng Nghymru.

 

Fframwaith cenedlaethol y gwasanaethau tân ac achub

Mae Fframwaith cenedlaethol y gwasanaethau tân ac achub 2016 yn amlinellu delfryd a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer tri awdurdod tân ac achub y wlad.

 

Cyfarfodydd Panel Materion Tân ac Achub WLGA

Yn sgîl trosglwyddo'r cyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub i'r Cynulliad yn 2004, daeth cyfle i feithrin perthynas waith newydd rhwng tri gwasanaeth tân ac achub Cymru, WLGA a byd llywodraeth leol. Mae Panel Materion Tân ac Achub WLGA yn rhan o'r datblygu hwn. Dyma nodau'r panel:

  • helpu i ddatblygu ymhellach berthynas WLGA â'r tri gwasanaeth tân ac achub
  • hwyluso trafodaethau rhwng y tri gwasanaeth tân ac achub ac WLGA am faterion strategol o bwys
  • helpu i sefydlu trefniadau ar gyfer Cymru i gyd lle bo'n briodol
  • cyflwyno pryderon a/neu sylwadau i Lywodraeth Cymru

Dyma aelodau'r panel: prif swyddog tân, cadeirydd ac is-gadeirydd awdurdod pob gwasanaeth tân ac achub ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd y panel yn cwrdd yng Nghaerdydd ddwywaith y flwyddyn.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Morgan

https://wlga.cymru/fire-and-rescue