'Bwyd a Hwyl' i fwy o blant ar draws Cymru yr Haf hwn

Dydd Mawrth, 15 Awst 2017

Mae rhaglen sydd â’r bwriad o helpu plant yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn cael ei ehangu yr Haf yma, wrth i blant mewn mwy o ardaloedd allu cymryd mantais o gyfleoedd i fod yn fwy actif, bwyta’n iachach a ffurfio cyfeillgarwch gyda llu o wynebau eraill.

Rhaglen sydd wedi ei seilio mewn ysgol yw ‘Bwyd a Hwyl’, sydd yn darparu prydau o safon uchel, sesiynau bwyd a maeth a gweithgareddau corfforol i blant mewn ardaloedd difreintiedig yn ystod gwyliau’r haf.

Wedi cynllun peilot llwyddiannus gan WLGA mewn pum ardal awdurdod lleol yn 2016, mae’r rhaglen ‘Bwyd a Hwyl’ eleni yn ehangu i 12 o ardaloedd o ganlyniad i gyllid o £500,000 gan Llywodraeth Cymru. Mae cyfanswm o 39 o ysgolion yn yr awdurdodau lleol hynny yn cymryd rhan, gan ddisgwyl y bydd y rhaglen yn cyrraedd 1,500 o blant eleni.

Yn ystod gwyliau’r haf, pan na fydd brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd a chinio am ddim ar gael, mae rhai teuluoedd yn cael trafferth i fforddio neu gael mynediad i fwyd sy’n darparu deiet iach. Gall rhai plant hefyd brofi unigedd cymdeithasol a diffyg ysgogiad deallusol sydd fel arfer yn cael ei ddarparu gan yr ysgol neu weithgareddau cyfoethogi teuluol sydd yn gallu cyfrannu tuag at ehangu’r bwlch cyrhaeddiad. Mae’r rhaglen ‘Bwyd a Hwyl’ wedi ei chynllunio i ymateb i’r angen yma yn ystod misoedd yr Haf.

 

Meddai Llefarydd WLGA dros Addysg, y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):

“Mae ysgolion yn darparu amgylchedd cyfarwydd a diogel ar gyfer plant i fynychu clybiau ‘Bwyd a Hwyl’, sydd wedi eu sefydlu ac yn cael eu rhedeg gan staff ysgol a phartneriaid yn ystod gwyliau’r haf.

“Mae’r cynllun wedi bod mewn cyswllt â nifer o asiantaethau i ddarparu gweithgareddau cyfoethogi sydd nid yn unig yn lleihau’r tebygolrwydd o fethu dysgu, ond hefyd i sbarduno diddordeb mewn chwaraeon a diddordebau newydd, ac i wneud ffrindiau newydd.

“Ar hyd a lled Cymru, rydym yn gweld plant yn cael hwyl wrth fwynhau gweithgareddau diddorol a chyffrous, gyda rhieni yn nodi bod eu plant yn fwy hapus ac yn fwy bodlon, a sydd yn edrych ymlaen i’w diwrnod clwb Bwyd a Hwyl nesaf, gan hefyd leihau’r pwysau ariannol sy’n cael ei deimlo yn ystod gwyliau’r haf.”

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Kirsty Williams AC:

“Bydd y clybiau yma yn cynnig awyrgylch gadarnhaol i’n holl blant dros wyliau’r haf, gan gynnwys darparu prydau am ddim, yn ogystal ag ystod o weithgareddau a hwyl trwy gyfnod sydd yn gallu teimlo yn faith i rai.

“Y gwirionedd ar gyfer rhai o’n pobl ifanc yw bod gwyliau’r haf yn gallu bod yn gyfnod anodd. Mae plant sydd yn buddio o ginio a brecwast ysgol am ddim yn aml yn methu prydau ac yn mynd yn llwglyd wedi i’w hysgol gau am y gwyliau, tra bod y diffyg rhaglenni chwarae a gweithgareddau chwaraeon yn gallu cael effaith ar y rhai hynny o gefndiroedd mwy difreintiedig.

“Fy uchelgais i yw i wneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru, dim ots beth yw eu cefndir, yn cael y cyfle i ffynnu ac i gyflawni eu gorau. Rwy’n parhau i fod wedi ymrwymo i gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng y disgyblion hynny yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig â’r rheiny mewn ardaloedd mwy ffyniannus.”

 

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen ‘Bwyd a Hwyl’, ewch i http://wlga.cymru/food-and-fun.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30