CLILC

 

Pecyn Cymorth Comisiynu Gofal yn y Cartref yn Seiliedig ar Ganlyniadau

Cefnogi datblygiad comisiynu Gwasanaethau Gofal Cartref yng Nghymru mewn modd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau

“Pobl yng Nghymru yn cydweithio i hybu llesiant trwy ofal a chymorth yn y cartref.”

Croeso i Becyn Cymorth Gofal yn y Cartref. Cafodd y gwaith o ddatblygu Pecyn Cymorth Gofal yn y Cartref ei gomisiynu gan Fwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r Fforwm Darparwyr Cenedlaethol. Pwrpas hyn yw hwyluso datblygiad dull o gomisiynu gwasanaethau gofal cartref sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Y Pecyn Gwaith yw cyfraniad NCB at weithredu'r 'Strategaeth Gofal yn y Cartref' dan arweiniad Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cynnwys y pecyn gwaith

Offer sy’n cael eu datblygu:

  • Cyfraniad Gwasanaethau Monitro Galwadau Electronig
  • Costau Gofal Cartref

Mae'r pecyn gwaith yn cynnwys ystod eang o offer a ychwanegir wrth i’r angen am offer ychwanegol gael ei nodi. Y rheswm dros gael ystod mor eang o offer yw bod symud o wasanaeth tasg ac amser i wasanaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn cynnwys newid sylweddol o ran ymarfer a diwylliant. Gellir defnyddio rhai o’r offer, megis rheoli newid ac ymgysylltu, mewn gwasanaethau eraill hefyd.

Comisiynwyd “Canllaw cyfreithiol ymarferol ar sut i wneud caffaeliad cydweithredol modern sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn llwyddiannus i gomisiynwyr a swyddogion caffael” i gefnogi’r pecyn gwaith gofal cartref ond gellir ei ddarllen yn annibynnol i ddeall sut i gaffael ystod ehangach o wasanaethau cymunedol. Mae’n darparu cyngor cyfreithiol pwysig ar gaffael gwasanaethau gofal cartref. Gweler yr adran Caffael Gwasanaethau - Agorwch y ddolen yma

Mae cynnydd yn cael ei wneud yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau gofal cartref sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ond nid oes unrhyw enghraifft o dicio pob blwch o ran ymgorffori cynnal asesiadau a chynllunio gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a danategir gan ddull caffael sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Gall rhai comisiynwyr a’u darparwyr dicio rhai o’r blychau cynharaf ond nid pob un. Rydym wedi cynnwys enghreifftiau o ddatblygiadau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Nid yw’r rhain yn cael eu cynnal fel enghreifftiau perffaith o arferion da ond maent yn rhoi darlun o gynnydd y siwrnai. Gweler enghreifftiau o ddogfennau caffael isod.

Hoffai’r NCB annog comisiynwyr a darparwyr i anfon enghreifftiau o arferion da ymlaen i’r wefan hon. Gallai hyn fod yn enghraifft o brofi cyn gwerthu neu ddull sicrhau ansawdd neu gallai ddangos sut mae gweithwyr cymdeithasol/nyrsys yn gweithio gyda darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau i roi datrysiadau / gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau mewn lle.

Byddem hefyd yn croesawu papurau pynciau byr sydd wedi'u llunio i ysgogi trafodaeth. Cynhwysir rhai enghreifftiau.

Mae’r holl offer ar gael isod. Mae rhai ohonynt wedi cael eu cyfieithu i’r Gymraeg tra bod eraill yn y broses o gael eu cyfieithu. Oherwydd bod modd darllen pob offeryn yn annibynnol, sylwch bod y cyflwyniad wedi’i ddyblygu. Efallai yr hoffech ddechrau gyda phwrpas pob offeryn. Mae’r cyflwyniad yn rhoi darlun gweledol o'r ffordd y mae'r offer yn perthyn i'w gilydd ac yn cynnwys rhestr o gynnwys pob offeryn i'ch helpu i lywio trwyddynt.

Dogfennaeth gofal cartref (Saesneg yn unig)


Dolenni (Adnoddau): Top Tips for Sustaining Homecare (ADASS, LGA & UKHCA) / Messages on the future of domiciliary care services (IPC / Oxford Brookes University (Saesneg yn unig)


Mae rhagor o wybodaeth gan: Maria Bell

https://wlga.cymru/introduction-to-the-home-care-toolkit