CLILC

 

Awdurdodau Lleol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae’r Ddeddf yn sefydlu bwrdd statudol, a elwir yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ymhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol yn un o bedwar aelod statudol y bwrdd – y tri arall yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, yr Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer yr ardal a Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir gwahodd amrywiaeth o bartneriaid eraill i gymryd rhan yng ngweithgarwch y Bwrdd.

 

Rhaid i’r Bwrdd baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal ac yna, ymhen blwyddyn, gyhoeddi Cynllun Llesiant. Rhaid i’r Cynllun hwn nodi amcanion lleol, unwaith eto wedi’u cydweddu â nodau’r Ddeddf, a’r camau a fydd yn cael eu cymryd i'w cyflawni. Rhaid cyhoeddi’r Cynllun Llesiant cyn pen 12 mis ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol (fel y diffinnir dan adran 26 Deddf Llywodraeth Leol 2021). Cyn cyhoeddi’r Cynllun, rhaid i’r Bwrdd gynnal ymgynghoriad am o leiaf 12 wythnos. Rhaid cynhyrchu adroddiad ar y cynnydd cyn pen 14 mis ar ôl cyhoeddi’r cynllun, ac yna’n flynyddol.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Neville Rookes

https://wlga.cymru/local-authorities-and-public-service-boards-1