Llywodraeth leol wedi ymrwymo i ddiwygio, meddai WLGA

Dydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2017

Gwnaeth WLGA heddiw ailddatgan ei ymrwymiad i ddiwygio wrth i’r Ysgrifennydd Cabinet Mark Drakeford amlinellu ei gynlluniau ar gyfer llywodraeth leol.

Wrth ymateb i’r datganiad, dywedodd y Cyng Debbie Wilcox (Casnewydd): “Mae Arweinwyr wedi bod mewn trafodaeth gyson â Mark Drakeford dros yr agenda diwygio rhanbarthol. Cwrddais ag ef yn ddiweddar, ac mae wedi cyfarfod gyda Cyngor WLGA ym Mehefin a rydym wedi croesawu y ffordd y mae wedi ymgysylltu â ni. Mae ein trafodaethau cychwynnol wedi cael eu seilio ar barch tuag at ein gilydd ac agenda sydd yn cwmpasu cryfhau democratiaeth leol a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn cyfarfod â’r Ysgrifennydd Cabinet yn hwyrach yr wythnos hon i drafod ymhellach ei gynigion ac i ffurfioli ein ymagwedd tuag at lywodraethu mewn  partneriaeth.”

“Hyd yma, rydym wedi cydweld ar faterion o gydweithio a diwygio; mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cynnydd sydd eisoes wedi ei wneud gan awdurdodau lleol eu hunain, ond mae’n dymuno gweld mwy o gysondeb a chyflymder. Dyw arwain a chyflawni ar gydweithio rhanbarthol ddim yn rhywbeth newydd i gynghorau Cymru: mae’r Bargeinion Dinesig, rhai o’r rhaglenni adfywio mwyaf uchelgeisiol ers degawdau, wedi dod i ffrwyth oherwydd bod cynghorau Cymru wedi dangos dewrder ac arweinyddiaeth i gydweithio er lles pawb.”

“Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau ei fwriad i barhau gyda’r diwygio rhanbarthol yn y Papur Gwyn gan adael peth disgresiwn lleol a hyblygrwydd ar gyfer cynigion ar gyfer rhai gwasanaethau. Bu cynghorau yn lled-gefnogol o gynigion y Papur Gwyn, er ein bod yn dymuno archwilio’r cysyniad o ‘orfodaeth’ mewn fwy o fanylder. Rydym eisoes yn symud tuag at wasanaethau mwy ar y cyd a rhanbarthol, ond mae WLGA wedi dadlau y bydd yn rhaid i unrhyw gynigion i ddiwygio fod wedi eu seilio ar atebolrwydd lleol clir ac y dylai dyletswyddau statudol a chyllid barhau i gael eu gweinyddu gan awdurdodau lleol.”

Wrth ymateb i’r papur ymgynghori ar Ddiwygio Etholiadol, a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw,  ychwanegodd y Cyng Wilcox:

“Ychwanegodd Llywodraeth Cymru rai cynigion am ddiwygio etholiadol yn y Papur Gwyn yn gynharach eleni. Wrth gwrs, mae cynghorau yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i wella mynediad a hybu pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol ac mae WLGA yn flaenorol wedi cefnogi galwadau i roi pleidlais i’r rhai sydd yn 16 ac 17 oed. Roeddwn yn athro am 30 mlynedd a rwyf yn gwbl argyhoeddedig fod pobl 16-17 oed yn fwy na digon deallus ac aeddfed i fwrw pleidlais mewn etholiadau.”

“Fodd bynnag, mae cynigion eraill na wnaeth WLGA eu cefnogi mewn ymgynghoriad blaenorol; safbwynt WLGA oedd y dylai bod system etholiadol gyson ar draws awdurdodau lleol i osgoi cymhlethdod a dryswch a ni wnaeth WLGA gefnogi cyflwyno system pleidlais sengl drosglwyddadwy mewn awdurdodau lleol. Mae rhai cynigion diwygio etholiadol yn newydd, rhai yn effeithio ar adnoddau a rhai yn fwy dadleuol nac eraill, ac fe fydd yn rhaid i ni ystyried y manylder a’u trafod gydag arweinwyr yn y man.”

“Edrychwn ymlaen i barhau ein deialog adeiladol ac i weithio gyda’r Ysgrifennydd Cabinet a’i gydweithwyr i ddarparu ymrwymiad gyda’n gilydd i gryfhau democratiaeth leol ac i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cwrdd ag anghenion cymunedau Cymru.”

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30