Rhaid cofio gwasanaethau lleol wrth geisio mantoli'r cyfrifon

Dydd Iau, 26 Medi 2013

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gofyn am ddyraniad blynyddol diamod fel mae sector cyhoeddus Cymru yn paratoi ar gyfer o leiaf bedair blynedd ychwanegol o lymder. 

Daw’r cais yn sgîl dau adroddiad mae Wales Public Services 2025 newydd eu cyhoeddi. Mae’r naill, gan Sefydliad yr Astudiaethau Ariannol, yn edrych ar obeithion hirdymor i wariant gwladol Cymru ac mae’r llall yn ystyried y galw am wasanaethau, gan ddod i’r casgliad y gallai Cymru wynebu diffyg rhwng £2.5 a £4.6 biliwn erbyn 2025 pe na bai sector cyhoeddus Cymru yn ei gyfanrwydd yn dechrau gweithio’n wahanol. 

Er na all y ddau adroddiad ddarogan beth fydd yn digwydd gyda sicrwydd gan y bydd penderfyniadau Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar bob sefyllfa, maen nhw’n rhoi digon o dystiolaeth bod angen i sector cyhoeddus Cymru gydweithio i gynllunio ar gyfer galw’r dyfodol. 

Ar ben hynny, mae’r adroddiadau’n dweud yn eglur mai dim ond un rhan o’r darlun yw gwariant ar wasanaethau cyhoeddus. Er y bydd gwariant gwladol yn gostwng, maen nhw’n darogan y bydd y galw am wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu o achos twf yn y boblogaeth a rhagor o hen bobl. O ganlyniad, bydd yr effaith ar Gymru yn parhau hyd yn oed ar ôl i’r llymder presennol ddod i ben. 

Meddai’r Cynghorydd Aaron Shotton (Sir y Fflint), Dirprwy Arweinydd WLGA a’r Llefarydd dros Faterion Ariannol: 

“Mae’r adroddiadau hyn yn cadarnhau bod dros ddau draean o’r toriadau heb ddod i effaith yng Nghymru eto ac y bydd rhaid i Lywodraeth Cymru gadw’r ddysgl yn wastad wrth ddyrannu’r adnoddau ariannol mwyfwy prin. Mae gwasanaethau cyhoeddus lleol yn hanfodol i’n cymunedau ni a rhaid i Weinidogion Cymru roi pob ystyriaeth iddyn nhw wrth benderfynu sut y byddan nhw’n gwario’r cyllidebau llai yn y dyfodol.” 

“Er bod arweinyddion y cynghorau’n derbyn bod angen arbedion, mae gwasanaethau lleol megis llyfrgelloedd, ysgolion, canolfannau hamdden a chyfleusterau cymunedol yn cyflawni rôl hanfodol ynglŷn â hybu lles economaidd a chymdeithasol yng Nghymru yn ogystal â lleddfu pwysau ar rannau eraill o’r sector cyhoeddus megis y GIG. Mae perygl y bydd unrhyw ymdrech i arbed adnoddau dros y tymor byr yn arwain at anawsterau sylweddol i Gymru yn y pen draw.” 

“Mae sector cyhoeddus Cymru yn wynebu llymder na welon ni ei debyg erioed ac er ei bod yn hawdd gweld y sefyllfa’n un lle mae rhaid diogelu un maes ar draul maes arall, y gwir yw nad yw’r dewis mor syml â hynny am fod gwasanaethau cyhoeddus wedi’u cysylltu â’i gilydd mewn sawl ffordd. Mae toriadau yng nghyllidebau cynghorau lleol Lloegr wedi amharu’n fawr ar amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael y tu hwnt i Glawdd Offa, a rhaid inni osgoi efelychu hynny yma trwy lunio gwasanaethau mewn modd fydd yn osgoi niweidio pobl Cymru.” 

“Mae Gweinidogion Cymru wedi sôn eisoes am ‘ffordd Gymru’ o ymateb i’r argyfwng ariannol presennol. Mae byd llywodraeth leol yn fodlon arwain hynny er lles pobl y wlad, ond bydd angen llawer mwy o sefydlogrwydd a hyblygrwydd yn yr ariannu yn y dyfodol fel y gall cynghorau lleol ateb heriau’r dyfodol.” 

DIWEDD

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30