Cymryd camau ymlaen wrth wella a chodi ymwybyddiaeth am wasanaethau awtistiaeth

Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2018

Mae rhaglen sydd â’r nôd o godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o awtistiaeth nawr wedi cael ei gyflwyno mewn 80 ysgol gynradd yng Nghymru, yn ôl adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd heddiw.

Mae ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’, a ddatblygwyd gan y Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol – a ariennir gan Lywodraeth Cymru a sy’n cael ei gynnal gan CLlLC mewn partneriaeth a Iechyd Cyhoeddus Cymru – yn raglen sydd â’r bwriad o greu mannau ysgol mwy ymwybodol o awtistiaeth er mwyn gwella’r gefnogaeth i blant ag awtistiaeth.

Yn cael ei gyhoeddi heddiw, dengys Adroddiad Blynyddol y Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol y cafodd y rhaglen ei chyflwyno mewn 54 o ysgolion cynradd yng Nghymru yn 2017-18, gan ddod a’r cyfanswm cyfredol o ysgolion cynradd sydd wedi eu achredu yn ymwybodol am awtistiaeth i fyny i 80.

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae gan blant ag awtistiaeth gymaint o hawl i fwynhau a ffynnu yn eu hysgolion a’u ffrindiau, a mae gwella dealltwriaeth pawb o awtistiaeth yn hanfodol i gyflawni hyn. Rwy’n falch iawn bod cyn gymaint o ysgolion cynradd wedi ymgymryd â’r rhaglen ‘Dysgu ag Awtistiaeth’, gyda llawer mwy o ysgolion yn cyflwyno’r rhaglen ar hyn o bryd.”

Mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn nodi y rôl allweddol sy’n cael ei chwarae gan y Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol wrth sefydlu a datblygu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, a fydd yn cynnig cefnogaeth gyson i bobl awtistig ar draws Cymru. Mae gwasanaethau yn gweithredu yn barod yng Nghaerdydd a’r Fro, Cwm Taf, Gwent a Phowys, a bydd yn cael ei lansio yng ngogledd Cymru wythnos nesaf ac yn weithredol ym Mae’r Gorllewin a Gorllewin Cymru yn hwyrach eleni.

Dywedodd Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant:

"Rwy'n falch o'r cynnydd go iawn rydyn ni wedi'i wneud eleni i wella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth. Rydyn ni'n codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar draws gwasanaethau, gan wella mynediad at wasanaethau asesu a diagnosis a darparu cymorth arbenigol ychwanegol ym mhob rhanbarth.

"Er ein bod yn gwneud cynnydd da, rydyn ni'n gwybod bod angen gwneud llawer mwy. Rydyn ni'n parhau i edrych yn ofalus ar y materion mae pobl awtistig yn dweud sydd bwysicaf iddyn nhw er mwyn dylanwadu ar gamau gweithredu'r dyfodol."

Dywedodd Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r cydweithrediad yma rhwng iechyd a llywodraeth leol yn esiampl glir o ble gall gweithio ar y cyd yn llwyddiannus wneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau. Mae’r Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol yn fenter bwysig i ni o fewn Iechyd Cyhoeddus a rydyn ni’n edrych ymlaen i barhau â’r gwaith gyda CLlLC a Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn nesaf i gefnogi cyflwyniad llawn y Gwasanaeth Integredig ymhob ardal yng Nghymru.”

Ychwanegodd y Cynghorydd David:

“Rydyn ni’n falch o’r gwaith y mae’r Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol yn ei wneud yn cydweithio a swyddogion proffesiynol a phartneriaid ar draws Cymru i gefnogi pobl ag awtistiaeth. Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cael ei gyflwyno ymhob ardal yng Nghymru i ddarparu model iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd ar gyfer pobl awtistig a theuluoedd a gofalwyr plant awtistig, sydd hyd yn hyn wedi bod ar goll.”

I ganfod mwy am waith y Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol, neu i ddysgu mwy am sut i gofrestru eich ysgol ar gyfer y rhaglen ‘Dysgu ag Awtistiaeth’, ewch i’r wefan: www.asdinfowales.co.uk.

-DIWEDD-


Nodiadau i Olygyddion:

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Awtistiaeth 2017-18:

https://gov.wales/docs/dhss/publications/cynllun-gweithredu-strategol-ar-gyfer-anhwylderaur-sbectrwm-awtistig.pdf

Adroddiad Blynyddol Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol ar Awtistiaeth 2017-18:

https://www.asdinfowales.co.uk/resource/resource/ASD-Team-Annual-Report-2017-18-final_180615_cym.pdf

Cysylltiadau ar gyfer ymholiadau:

Sara Harvey, Arweinydd Strategol ar gyfer Awtistiaeth, CLlLC

sara.harvey@wlga.gov.uk  

Wendy Thomas Arweinydd Proffesiynol ar gyfer Awtistiaeth, CLlLC

wendy.thomas@wlga.gov.uk

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30