CLILC

 

Datganiadau o sefyllfa'r farchnad a siapio'r farchnad

Ystyrir Datganiad Sefyllfa’r Farchnad (DSF) yn un o’r adnoddau a ddefnyddir i hwyluso perthynas barhaus rhwng comisiynwyr a darparwyr. Y ddau gwestiwn y mae angen i gomisiynwyr eu hystyried yw:

 

  • Ydyn ni’n deall ein marchnad leol a busnesau ein darparwyr lleol? Oes gennym ni ymdeimlad o sefydlogrwydd y farchnad (darpariaeth gwasanaethau lleol)?
  • Pa weithgareddau allwn ni eu cynnal i ddylanwadu ar yr amrediad o ofal a chymorth sydd ar gael wedi’i addasu i ymateb i faterion lleol penodol, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol? 

 

Bydd datblygu DSF yn cael ei ategu a’i hysbysu gan ddadansoddiad manwl o’r farchnad.

 

Mae datganiad sefyllfa’r farchnad yn ddogfen sy’n rhoi crynodeb o’r cyflenwad a’r galw mewn ardal / rhanbarth lleol, a dylai hysbysu darparwyr am gynlluniau’r comisiynwyr. Y bwriad yw i ddarparwyr ei ddefnyddio i ddylanwadu ar ddewisiadau a chynlluniau busnes megis buddsoddiad a chyfalaf neu bersonél. Bydd y wybodaeth yn galluogi darparwyr i gydweithio â chomisiynwyr a chynllunio’u datblygiad busnes, gan ddeall i ba gyfeiriad y mae’r comisiynwyr (awdurdodau lleol a byrddau iechyd) yn mynd, a hefyd pam eu bod yn mynd i’r cyfeiriad hwnnw ac ar sail pa dystiolaeth.

 

Enghreiftiau o arfer da:

 

Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru

Datganiad Siapio'r Farchnad 2018: Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn

 

Prifysgol Oxford Brookes - Institute of Public Care

Astudiaeth Achos - Cyngor Sir Powys - Cynllunio ar gyfer dyfodol llety pobl hŷn ym Mhowys

Saesneg yn unig

 

Cyngor Sir Powys

Datganiad o Sefyllfa'r Farchnad 2017: Llety ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio

Saesneg yn unig


Mae rhagor o wybodaeth gan: Maria Bell

https://wlga.cymru/market-position-statements-and-market-shaping