Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a byd llywodraeth leol yn gryf o blaid sefydlu’r Cynulliad a datganoli rhagor o bwerau i Gymru.

Mae WLGA yn hyrwyddo’r egwyddor y dylai grym fod mor agos at y bobl ag y bo modd. Er y dylai’r hawl i benderfynu ar wasanaethau lleol gael ei datganoli i’r awdurdodau lleol, dylai fod pwerau gan Lywodraeth Cymru – trwy’r Cynulliad – i bennu fframwaith deddfwriaethol a strategol y wlad.

Mae’r rhan fwyaf o faterion sy’n effeithio ar bobl Cymru, ynghyd â’r rhan fwyaf o swyddogaethau a gwasanaethau llywodraeth leol, wedi’u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae rhai’n perthyn i Lywodraeth San Steffan o hyd, fodd bynnag, gan gynnwys yr heddluoedd a threfn y budd-daliadau. Felly, mae’n bwysig i WLGA – yn rhinwedd ei rôl yn gynrychiolydd byd llywodraeth leol Cymru – geisio ymgysylltu mewn modd adeiladol a rhagweithredol â Swyddfa Cymru a’r Swyddfa Gartref yn ogystal â Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad.

Trwy WLGA mae byd llywodraeth leol yn ymwneud â’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru fel y bydd modd cyfleu safbwynt unfrydol. Mae maniffesto 2016-21 WLGA yn ategu ei gwaith o ran hybu buddiannau’r awdurdodau lleol a hyrwyddo egwyddorion megis rhoi grym fod mor agos at y bobl ag y bo modd, ariannu cynghorau mewn modd teg a hyblyg ac ymrwymo i weithio ar y cyd.

Mae partneriaeth a pherthynas y cynghorau lleol â Llywodraeth Cymru wedi’u ffurfioli’n statudol trwy Gynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol a Chynllun Partneriaeth Cymru yn ogystal â phwyllgorau’r cyrff hynny megis yr Is-gylch Ariannol.

Bydd arweinyddion a llefarwyr gwleidyddol WLGA yn cwrdd yn aml ag ysgrifenyddion a gweinidogion Llywodraeth Cymru a bydd y rheiny, yn eu tro, yn cwrdd ag arweinyddion y 22 awdurdod lleol yn aml trwy Bwyllgor Cydlynu neu Gyngor WLGA. Ar ben hynny, bydd swyddogion WLGA yn cwrdd yn aml â gweision sifil, yn cymryd rhan mewn gweithgorau ac yn cynrychioli byd llywodraeth leol yn yr amryw bwyllgorau mae gweinidogion wedi’u sefydlu.

Mae WLGA yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ofalu y bydd Dyraniad Ariannol Llywodraeth Leol yn gweddu i anghenion gwasanaethau cyhoeddus. Mae WLGA yn helpu Is-gylch y Dosbarthu i ofalu bod anghenion ein cymunedau amryfal wedi’u cymryd i ystyriaeth. Hoffai WLGA ddylanwadu ar bolisïau a deddfau sy’n effeithio ar gymunedau neu wasanaethau lleol. Lle mae blaenoriaethau maes llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd, llunnir polisïau a deddfau ar y cyd pan fo’n bosibl. Bydd WLGA yn ymateb ar ran byd llywodraeth leol i bob ymgynghori o bwys gan Lywodraeth Cymru.

Bydd WLGA yn cyflwyno tystiolaeth yn rheolaidd i ymchwiliadau pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ran byd llywodraeth leol wrth archwilio deddfau newydd ac mae’n cydweithio ag aelodau’r Cynulliad mewn materion sy’n gyffredin. Ar ben hynny, bydd WLGA yn cwrdd â phrif lefarwyr cylchoedd gwleidyddol y Cynulliad i drin a thrafod blaenoriaethau llywodraeth leol neu hyrwyddo blaenoriaethau craidd maniffesto WLGA. Bydd arweinyddion ac uwch swyddogion WLGA yn cwrdd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru a nifer o weinidogion eraill Llywodraeth San Steffan ynglŷn â materion sy’n effeithio ar gymunedau Cymru neu wasanaethau cyhoeddus Cymru.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30