Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r Tîm yn darparu cymorth ac arweiniad i helpu i wella bywydau pobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr ar draws Cymru.

 

Gellir crynhoi gwaith y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol o dan bum pennawd:

  1. Mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth
  2. Adnoddau
  3. Hyfforddiant
  4. Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
  5. Hwyluso rhwydweithiau, gweithio mewn partneriaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru

 

Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, arweinwyr Awtistiaeth lleol o fewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd, budd-ddeiliaid allweddol a grwpiau ymgynghorol.

 

Mae'r tîm ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Frances Rees, Swyddog Datblygu Cenedlaethol dros Awtistiaeth (De Cymru)
  • Bethan Gilson, Swyddog Cyfathrebu, Ymchwil a Gwella Awtistiaeth Cenedlaethol
  • Ieuan Rees, Cymhorthydd Gweinyddol y Prosiect
  • Linda Pilgrim, Swyddog Cymorth Gweinyddol
  • Sioned Thomas, Swyddog Datblygu Cenedlaethol dros Awtistiaeth (Gogledd Cymru a Chanolbarth Cymru)
  • Wendy Thomas, Arweinydd Proffesiynol Cenedlaethol dros Awtistiaeth
  • Kirsty Jones, Swyddog Datblygu Cenedlaethol dros Awtistiaeth

 

Gwefan AwtistiaethCymru.org

Nod Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo, diogelu a gwella iechyd a lles pawb yng Nghymru.

 

ASDinfoWales yw'r wefan genedlaethol ar gyfer Anhwylderau ar y sbectrwm Awtistig (ASA) sydd wedi'i datblygu ac sy'n cael ei chynnal gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol gyda'n partneriaid. Yma, fe gewch chi wybodaeth am awtistiaeth, manylion am y gwasanaeth, adnoddau hyfforddi a'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno Cynllun Gweithredu strategol Anhwylderau ar y sbectrwm Awtistig ar gyfer Cymru.

 

Mae ystod o adnoddau am ddim, hwylus ar gael i’w rhannu pobl awtistig, eu teulu/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ag oedolion awtistig.

 

Mae’r adnoddau wedi eu targedu i ddatblygu sgiliau ymarferwyr yn ogystal â rhieni a gofalwyr. Mae'r rhain yn cynnwys cynlluniau ardystio Ymwybyddiaeth Awtistiaeth amrywiol, llyfrau canllaw yn dilyn diagnosis, ffilmiau ac adnoddau.

 

Mae’r adnoddau a’r wefan wedi cael eu datblygu ar y cyd gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys pobl awtistig, rhieni a gofalwyr, Arweinwyr Awtistiaeth awdurdodau lleol a phartneriaid o’r maes iechyd, addysg, a’r trydydd sector.


Dolenni:


Mae rhagor o fanylion ar: www.ASDinfoWales.co.uk

Datganiadau i'r Wasg

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30