Y cynllun atgyfeirio cenedlaethol ar gyfer ymarfer corfforol atal rhag cwympo

Mae rhaglen gymunedol ar gyfer helpu pobl i osgoi cwympo yn cael ei phrofi mewn saith ardal o dan nawdd y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol. Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i gleifion gymryd rhan mewn rhaglen ymarfer gymeradwy o dan ofal hyfforddwyr cymwysedig ym maes sefydlogrwydd ystumiol. Mae’r cynllun yn defnyddio arferion gorau’r DG ac yn gweithredu yn ôl safonau gwladol.

Mae Llywodraeth Cymru, Later Life training, yr awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol a’r byrddau iechyd lleol yn ymwneud â’r cynllun.

Prif Nodau’r Cynllun

  • Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio pobl fel y gallan nhw gymryd rhan mewn rhaglen am osgoi cwympo. 
  • Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio pobl fel y gallan nhw ymarfer yn annibynnol wedyn. 
  • Cynnig rhaglen ddiogel ac effeithiol am osgoi cwympo, yn ôl safonau gwladol. 
  • Gwella’r cleifion o ran cryfder a’r gallu i sefyll a symud. 
  • Gwella gallu’r cleifion o ran gweithredu yn y byd. 
  • Cryfhau esgyrn a chyhyrau’r cleifion. 
  • Cynyddu hyder y cleifion. 
  • Gwella pob claf o ran iechyd ei feddwl a’i les. 
  • Lleddfu’r ynysu cymdeithasol ymhlith cleifion. 
  • Cryfhau tuedd cleifion i gydio mewn gweithgareddau corfforol dros y tymor hir.

Safonau Ansawdd

Mae pob protocol yn y cynllun yn defnyddio’r arferion gorau ac yn cyd-fynd â’r canllawiau gwladol presennol. Mae gan bob hyfforddwr sy’n ymwneud â’r cynllun Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (Lefel 3) yn ogystal â chymhwyster sy’n cyd-fynd â safon alwedigaethol D449 (gweithio gyda chleifion sydd wedi’u hatgyfeirio) a chymhwyster Later Life i hyfforddwyr sefydlogrwydd ystumiol. Mae pob hyfforddwr wedi’i yswirio’n briodol a’i gofrestru’n arbenigwr ymarfer.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30