CLILC

 

Lleddfu poen yn rhan is y cefn NERS

Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol yn rhoi cyfle i gleifion gymryd rhan mewn rhaglen ymarfer gymeradwy fydd yn eu helpu i symud yn haws a lleddfu poen yn rhan is eu cefn dan ofal hyfforddwyr arbenigol ym maes gofalu am y cefn.

 

Mae’r cynllun:

  • yn defnyddio arferion gorau’r DG ac yn gweithredu yn ôl safonau gwladol
  • ar gyfer cleifion mae meddyg teulu wedi’u trin am boen cymedrol yng nghanol y cefn a/neu gleifion mae'u cyflyrau’n fwy cymhleth sydd wedi’u hatgyfeirio ar ôl ffisiotherapi

 

Mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Ffitrwydd Cymru, Cymdeithas Freiniol y Ffisiotherapyddion, yr awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol yn ymwneud â’r cynllun.

 

Prif nodau’r cynllun:

  1. Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion fel y gallan nhw gymryd rhan mewn rhaglen ymarfer i leddfu poen yn rhan is y cefn
  2. Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion fel y gallan nhw ymarfer yn annibynnol wedyn
  3. Cynnig rhaglen ymarfer ddiogel ac effeithiol sy’n addas i anghenion y cleifion
  4. Gwella’r cleifion o ran cryfder a’r gallu i sefyll a symud yn dda
  5. Gwella gallu’r cleifion o ran gweithredu yn y byd
  6. Cynyddu hyder y cleifion
  7. Gwella pob claf o ran iechyd ei feddwl a’i les
  8. Lleddfu’r ynysu cymdeithasol ymhlith cleifion
  9. Cryfhau tuedd cleifion i gydio mewn gweithgareddau corfforol dros y tymor hir

Mae rhagor o wybodaeth gan: ners.wales@wales.nhs.uk

https://wlga.cymru/ners-low-back-pain-intervention