Rhieni a gofalwyr plant awtistig yn cael eu cydnabod

Dydd Gwener, 14 Mehefin 2019

Fel rhan o Wythnos Gofalwyr eleni, mae’r Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cydnabod rôl nodedig rhieni a gofalwyr plant awtistig.

 

Dywedodd y Cynghorydd David:

“Mae bod yn riant neu’n ofalwr yn rôi ysbrydoledig sydd angen empathi, ymroddiad a charedigrwydd – a dyw hynny’n fwy gwir am neb nac am y rheiny sydd yn gofalu am blentyn awtistig. Rydyn ni’n clywed gan deuluoedd y gall gweld plentyn yn derbyn diagnosis o awtistiaeth fod yn brofiad dryslyd oherwydd prinder dealltwriaeth cyffredinol am awtistiaeth fel cyflwr. Dyna pam mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi datblygu ystod o adnoddau i gefnogi rhieni a gofalwyr o’r pwynt o ddiagnosis eu plentyn, ac wrth iddyn nhw barhau a datblygu trwy eu plentyndod.”

“Rwy’n gobeithio y bydd yr adnoddau yma yn helpu i gynnig cefnogaeth i rieni a gofalwyr ymroddedig, ac i ddangos bod gwybodaeth ar gael sy’n gallu eu helpu i ddeall beth mae’r diagnosis yn ei olygu a chynnig cymorth ymarferol am fywyd o ddydd-i-ddydd.”

 

Mae’r holl adnoddau gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar gael ar www.asdinfowales.co.uk

 

 

 

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30