CLILC

 

Grwp Prif Swyddogion Ieuenctid (Cymru)

Mae Cylch Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru yn gymuned ddysgu broffesiynol ac ynddi brif swyddogion ieuenctid 22 awdurdod lleol y wlad. Ystyr ‘prif swyddog ieuenctid’ yw’r sawl mae pob awdurdod lleol wedi’i benodi i arwain ei wasanaeth ieuenctid yn strategol.

 

Rôl hirsefydlog y cylch yw: 

 

  • cynghori am ddatblygu a chynnal gwasanaethau ieuenctid a mentrau cysylltiedig eraill yn strategol, ar ran awdurdodau lleol Cymru
  • cyfrannu mewn modd pwyllog, cydlynol a phroffesiynol at ddatblygiad gwasanaethau ieuenctid a mentrau cysylltiedig yng Nghymru

 

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion

Mae Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion yn gosod yr egwyddorion allweddol sy'n tanategu gwaith ieuenctid ac yn rhoi trosolwg o'i natur, dibenion a chyflenwi. Mae’r ddogfen hon wedi’i llunio ar gyfer rheolwyr ac ymddiriedolwyr sefydliadau ieuenctid, gwleidyddion, aelodau etholedig a swyddogion awdurdodau lleol, ymarferwyr, hyfforddwyr a phobl sy’n hyfforddi i fod yn weithwyr ieuenctid.


Holl cyhoeddiadau gan Cylch Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru


Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Opie

https://wlga.cymru/principal-youth-officers-group-wales