CLILC

 

Ein Nod

Diogelu llesiant personol, amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol trwy bolisïau, rheoleiddio ac addysg

Gwasanaethau diogelu’r cyhoedd

"Diogelu llesiant personol, amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol trwy bolisïau, rheoleiddio ac addysg yn ogystal â defnyddio’r dulliau hynny i greu amgylchiadau teg a diogel ar gyfer byw a gweithio ym mhob bro"

Mae gwasanaeth diogelu’r cyhoedd ym mhob cyngor yn cynnwys iechyd amgylcheddol, safonau masnach, rheoli difwyno, difa plâu, pwysau a mesurau, rheoli adeiladu, cynghori cwsmeriaid, trwyddedu, diogelu bwyd, iechyd a diogelwch ac iechyd anifeiliaid.

 

Mae pob gwasanaeth o’r fath wedi cytuno i weithredu yn ôl blaenoriaethau Cymru sef diogelu unigolion rhag niwed a hybu gwell iechyd gan ofalu bod cadwyn ein bwyd yn ddiogel ac yn rhagorol i leddfu’r peryglon i iechyd pobl ac anifeiliaid, hybu masnach deg a chyfiawn i ddinasyddion a chwmnïau a gwella’r amgylchedd lleol er ansawdd bywydau a chynaladwyedd.

 

Mae gwasanaethau diogelu’r cyhoedd ar flaen y gad o ran diogelu pobl rhag sawl clefyd (megis atal Legionela ac e-coli neu ymateb i achosion). Er y bydd heintio ar adegau, mae llawer o waith atal llwyddiannus yn mynd rhagddo bob dydd heb dynnu sylw.

 

Pan fo achosion o afiechyd ymhlith anifeiliaid – megis clyw’r traed a’r genau’r, ffliw’r adar neu’r gynddaredd hyd yn oed – bydd staff y gwasanaethau rheoleiddio’n cydlynu cynlluniau rheoli argyfwng gan orfodi pawb i gydymffurfio â nhw er diogelwch anifeiliaid a chwmnïau cyfreithlon.

 

Mae trwyddedau alcohol, diogelwch tacsis a cherbydau llogi preifat (ynghyd â’u gyrwyr), cywirdeb pwysau a mesurau, mannau hapchwarae, ansawdd yr awyr a thir difwynedig yn rhan o gyfrifoldebau lu gwasanaethau diogelu’r cyhoedd, hefyd.

 

Maen nhw’n addysgu pobl trwy wasanaeth cynghori dinasyddion Cymru bellach, hefyd.

 

Pan fo angen ymchwilio i achosion o droseddu, staff safonau masnach yr awdurdodau lleol fydd yn gwneud hynny.

 

Mae benthycwyr arian anghyfreithlon (sy’n codi llog rhwng 500% ac 11,000,000 % ar fenthyciadau) yn achosi pryder, hefyd.  Mae uned wedi’i sefydlu i fynd i’r afael â hynny ledled Cymru er mwyn helpu pobl a chymunedau mae’r troseddau wedi effeithio arnyn nhw trwy weithio ar y cyd ag asiantaethau eraill i gynnig cynghorion a chymorth ariannol.


Diogelu’r Cyhoedd a Chefnogi Busnesau – O Adferiad ar ôl y Pandemig i’r Argyfwng Costau Byw

Effeithiau a chanlyniadau’r Gwasanaethau Safonau Masnach lleol 2021/22 yng Nghymru 


Iechyd yr Amgylchedd: Anweledig, Hanfodol a Chost Effeithiol

Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Simon Wilkinson

https://wlga.cymru/public-protection-services