CLILC

 

Adnoddau cefnogi plant sy’n ffoaduriaid ar gyfer athrawon ac ysgolion nawr ar gael ar-lein

  • RSS
Dydd Mercher, 20 Mehefin 2018 Categorïau: Cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol Newyddion
Dydd Mercher, 20 Mehefin 2018

Mae pecyn sydd wedi ei gynllunio yn arbennig ar gyfer athrawon ac ysgolion i gefnogi anghenion plant sy’n ffoaduriaid wedi eu ailcartrefu yng Nghymru, nawr ar gael i’w gychu ar-lein.

Wedi’i leoli ar borth addysg ar-lein Hwb, bwriad y pecyn yw i gefnogi athrawon a staff wrth addysgu plant sy’n ffoaduriaid yng Nghymru.

Y gobaith yw y bydd helpu ysgolion i wella dealltwriaeth o anghenion unigryw plant sy’n ffoaduriaid yn gwneud y newid i’w bywydau newydd yng Nghymru ychydig yn haws.

Cafodd y prosiect ei gomisiynu gan Bartneriaeth Mewnfudo Strategol CLlLC, a’r gwaith ei ymgymryd gan Wasanaethau Lleiafrifoedd Ethnig Gwent (GEMS).

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Llefarydd CLlLC dros Gydraddoldebau:

“Mae’n anodd dychmygu’r poen a’r ansicrwydd a brofir yn enwedig gan blant wrth iddyn nhw adael eu mamwlad i gael eu ailgartrefu miloedd o filltiroedd i ffwrdd a chychwyn o’r newydd. Ond wrth ehangu ein dealltwriaeth o’u amgylchiadau a’u anghenion, gallwn ni helpu i wneud y newid hynny ychydig yn haws i’r plant yma.”

“Bydd y pecyn yma yn adnodd gwerthfawr i athrawon a staff ysgol i droi ato er mwyn sicrhau bod y plant yma’n cael yr un cyfle i ffynnu â phob plentyn arall yng Nghymru.”

Gall athrawon a staff ysgol gael mynediad at y pecyn adnoddau yma ar: https://hwb.gov.wales

-DIWEDD-


Nodyn i Olygyddion:

Mae Pecyn Ymgyfarwyddo Diwyllianol hefyd ar gael ar wefan CLlLC: http://wlga.cymru/resources-to-support-syrian-refugees-in-wales

Cysylltiad ar gyfer ymholiadau:

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Phartneriaeth Strategol Mewnfudo WLGA ar: 02920 468658

http://wlga.cymru/refugees-support-packs-for-teachers-and-schools-now-available-online