Cyfle i gynghorwyr newydd glywed gan wleidyddion a llunwyr polisïau gwladol, rhannu arferion a phrofiadau cynnar, ystyried heriau personol, a thrafod cynlluniau gyda chynghorwyr ar draws y rhanbarth.
Mynychodd tua 200 o aelodau o bob awdurdod y pum achlysur ymsefydlu i aelodau newydd a gynhaliwyd ledled Cymru.
- 6ed Hydref - Caerffili
- 13ed Hydref - Caerfyrddin
- 3ydd Tachwedd - Conwy
- 10fed Tachwedd - Abertawe
- 17eg Tachwedd - Caerdydd
Roedd yr aelodau yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd i drafod eu rolau a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu gyda’r sawl sydd ynghlwm wrth yr heriau yn uniongyrchol yn ogystal ag i glywed am yr arferion da a’r dulliau sy’n gweithio. Roedd yr adborth gan yr aelodau a fynychodd yn hynod o gadarnhaol ac ystyriwyd negeseuon y siaradwyr a’r cyfleoedd i gwrdd â chynghorwyr o awdurdodau a phleidiau gwahanol yn rhai defnyddiol iawn. Gallwch edrych ar ddeunyddiau’r cyflwyniadau a gafwyd yn ystod y diwrnodau yma - agor dolen
- Cyflwyniad: Y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Cynghorwyr (Mel Doel)
- Cyflwyniad: Anatomeg Cynghorydd Effeithiol (Ian Bottrill)
- Cyfwyniad: Llywodreth Leol yng Nghymru – Edrych tua’r Dyfodol (Steve Thomas CBE)
- Rhaglen