CLILC

 

Gofal cymdeithasol yn "hanfodol" wrth fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG

  • RSS
Dydd Llun, 07 Ebrill 2025 Categorïau: Newyddion
Dydd Llun, 07 Ebrill 2025

Bydd cynlluniau i leihau rhestrau aros y GIG yng Nghymru yn methu oni bai eu bod yn cael eu cefnogi gan fuddsoddiad mewn gofal cymdeithasol, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi rhybuddio.

Heddiw, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi mesurau newydd i wella mynediad at ofal wedi'i gynllunio, gan gynnwys cymorth iechyd cyn llawdriniaeth a mynd i'r afael ag apwyntiadau ysbyty a gollwyd.

Mae cynghorau wedi croesawu'r uchelgais ond yn tynnu sylw at y ffaith bod gofal cymdeithasol yn chwarae rhan ganolog wrth wella'r opsiynau gofal a chymorth sydd ar gael i gleifion sy'n helpu i leihau amseroedd aros. Mae gan wasanaethau cymorth cymunedol, fel cynlluniau atgyfeirio ymarfer corff a gofal ataliol, rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu pobl i gadw'n iach, gwella'n gyflymach, neu hyd yn oed osgoi llawdriniaeth yn gyfan gwbl.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, llefarydd CLlLC ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol:


"Rydym yn cefnogi'r ymgyrch i dorri rhestrau aros a gwella canlyniadau i gleifion - ond dim ond un rhan o'r pos yw'r GIG. Dim ond os caiff gofal cymdeithasol ei drin fel rhan hanfodol a chyfartal o'r atebiad y gellir cyflawni gwelliant ystyrlon. Mae cynghorau a'u partneriaid yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i gadw'n iach ac yn annibynnol, yn aml yn atal yr angen am driniaeth ysbyty yn y lle cyntaf.

"Byddai buddsoddi mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol yn galluogi mwy o bobl i adael yr ysbyty yn gynt, gwella gartref, cael eu cefnogi yn y gymuned a lleihau'r pwysau ar draws y GIG. Nid cefnogi pobl i fyw'n annibynnol yw'r peth iawn i'w wneud yn unig - mae'n hanfodol i'r gwasanaeth iechyd wella."

http://wlga.cymru/social-care-“vital”-in-tackling-nhs-waiting-lists