CLILC

 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fe roes y Frenhines sêl ei bendith ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru ar 1af Mai 2014. Bydd ar waith o fis Ebrill 2016 ymlaen. Mae’r ddeddf yn rhoi fframwaith statudol er lles pobl mae angen gofal a chymorth arnyn nhw, a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw, yn ogystal â hwyluso trefniadau trawsffurfio’r gwasanaethau cymdeithasol yn ôl Papur Gwyn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Bydd y ddeddf yn trawsffurfio’r modd rydyn ni’n cynnig ein gwasanaethau cymdeithasol, a hynny trwy ddull sy’n ymwneud â’r chyflawni’r hyn a fydd yn hybu lles rhywun – yn unigolyn, yn rhan o’i deulu ac yn rhan o’i gymuned.

Mae’r ddeddf wedi’i seilio ar bedair prif thema, sy’n cydblethu:

  1. Pobl – rhoi rhywun a’i anghenion wrth wraidd y gofal ar ei gyfer a’i alluogi i ddweud ei ddweud am yr hyn fydd o les iddo a modd rheoli’r broses
  2. Llesiant – helpu pobl i fyw’n fodlon a mesur llwyddiant y cymorth i’r perwyl hwnnw
  3. Camu i mewn ynghynt – hybu’r defnydd o ddulliau ataliol yn y gymuned i ddiwallu anghenion pobl cyn y byddan nhw’n troi’n ddifrifol
  4. Cydweithio – galluogi sefydliadau perthnasol i gydweithio’n well er lles y bobl maen nhw’n eu cynorthwyo

Adnoddau

  1. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru - Linc â’r ddeddf
  2. Mae’r hyn sy’n bwysig i chi yn bwysig i ni, hefyd - Ffilm am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru a’r newidiadau a ddaw yn ei sgîl
  3. Mae’r hyn sy’n bwysig i chi yn bwysig i ni, hefyd - Fersiwn byr
  4. Gwefan Gwybodaeth a Dysgu am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru - Gwefan sy’n cynnig gwybodaeth ac adnoddau hyfforddi i helpu proffesiynolion i weithredu yn ôl y ddeddf. Cyngor Gofal Cymru a’i bartneriaid sydd wedi llunio’r wefan yn rhan o fenter paratoi cynllun dysgu a datblygu gwladol a fydd yn helpu i roi’r ddeddf ar waith. Mae’r wefan yn ‘siop unstop’ lle mae adnoddau ar gael ar amryw ffurfia

Dolen: Taflen Ffeithiau - Y berthynas rhwng Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015


Mae rhagor o wybodaeth gan: Stewart Blythe

https://wlga.cymru/social-services-and-well-being-wales-act-2014