CLILC

 

Ein nod

Cyfuno a buddsoddi yn y gwasanaethau ataliol

Gwasanaethau cymdeithasol

"I wella llesiant, bydd angen buddsoddi’n sylweddol yng ngwasanaethau’r cynghorau"

Rhaid i Gymru gyfuno gofal iechyd a chymdeithasol yn llwyr, a rhaid i’r cynghorau lleol fod wrth wraidd y broses honno.

 

Mae gan ein cynghorau sawl ffordd o wella llesiant cymunedau. I’w defnyddio’n effeithiol, rhaid inni chwalu ffiniau a buddsoddi arian newydd yng ngwasanaethau ataliol y cynghorau lleol.

 

Dyma’r adeg i’w fuddsoddi am fod digon o bwysau ar wasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol yn sgîl newid sydyn yn natur y boblogaeth, rhagor o alw am y gwasanaethau ond llai o arian ar eu cyfer.

 

Mae peth cynnydd. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru am inni gamu i mewn yn gynnar, buddsoddi yn y gwasanaethau ataliol a chyfuno gofal iechyd a chymdeithasol. Prif fyrdwn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru yw rhoi safon gwasanaethau wrth wraidd trefn y rheoleiddio a diogelu pobl sy’n agored i niwed yn gryfach.

 

Wrth gyhoeddi ‘Cymru Iachach’ mae Llywodraeth Cymru’n gosod ei gynllun cenedlaethol hirdymor (deng mlynedd) ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n seiliedig ar weledigaeth ar gyfer ‘system gyfan iechyd a gofal cymdeithasol’ gan ganolbwyntio ar iechyd a llesiant ar atal salwch.

 

Mae’r cynghorau lleol yn hanfodol i hynny. Does neb arall mewn sefyllfa well i gynnal gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus.

 

Rydyn ni wedi dweud y dylai pob cyngor lleol gael llunio ei wasanaethau gofal yn ôl anghenion trigolion ei fro ac ehangu ffiniau eu cyfrifoldebau. Elfen greiddiol o hynny yw’r angen i ddod o hyd i ddull cynaliadwy, hirdymor o ariannu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Hoffen ni gronfa ofal cyfun fydd yn ychwanegu at adnoddau Cronfa’r Gofal Cyfamserol fel y gallwn ni gyfuno gwasanaethau’n gyflymach. Bydd y bobl yn elwa ar ffordd fwy cydlynol o gynnig gofal iechyd a chymdeithasol.

 

Rhaid inni fod yn fentrus. Boed ofal cymunedol neu ganolfannau hamdden, bydd gwasanaethau’r cynghorau lleol yn gwella llesiant ac yn lleddfu’r pwysau sydd ar feysydd eraill megis y GIG.  Mae gwir angen buddsoddi ynddyn nhw.


Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Stewart Blythe

https://wlga.cymru/social-services