Mae prosiect ymchwil gyntaf o’i fath yn y DU wedi ei gomisiynu gan dîm Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg Cymru, sy’n rhan o’r WLGA, i ddod a mewnwelediad ffres i brofiadau ac anghenion unigryw i blant staff y Lluoedd Arfog sydd gydag Anghenion Addysg Ychwanegol.
Wedi ei gyllido gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, bydd Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru mewn partneriaeth ag Ymchwil Arad yn cynnal yr astudiaeth a fydd yn archwilio yr heriau o adnabod, asesu a gweithredu cefnogaeth ar gyfer plant milwyr sydd gydag Anghenion Addysg Ychwanegol yng Nghymru, ac i ganfod effeithiau posib côd ymarfer AAY arfaethedig Llywodraeth Cymru ar blant milwyr sydd yn byw yn ac yn symud i Gymru.
Dywedodd Chris Llewelyn, Dirprwy Brif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
“Trwy waith prosiect CPMA Cymru, rydym yn gwybod bod plant milwyr sydd yn symud yn aml oherwydd gwaith eu rhieni yn gallu profi heriau addysgol ac emosiynol o ganlyniad. Ychydig iawn a wyddir am y plant hynny gyda AAY, yn enwedig o gwmpas yr heriau o asesu a darparu cefnogaeth addas.”
Ychwanegodd: “Gyda deddfwriaeth newydd arfaethedig ym maes AAY, dyma gyfle amserol i archwilio profiadau teuluoedd milwrol gyda phlant ag AAY yng Nghymru. Rydym yn falch iawn bod y Weinyddiaeth Amddiffyn a Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am ymchwil o’r math yma a bod Cymru yn arwain y ffordd yn y maes yma yn y DU.”
Bydd yr astudiaeth, sydd yn cychwyn yr haf hwn, yn cymharu codau ymarfer eraill yn y DU ac yn cynnal cyfweliadau i archwilio persbectifau pobl allweddol ym mywydau plant milwyr, gan gynnwys aelodau o’r teulu a staff ysgol.
Lansiwyd yr ymchwil fel rhan o’r gynhadledd gyntaf Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru, a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 16 Mai. Cadeiriwyd gan y Cyrnol Lance Patterson, Is Gadlywydd Brigâd 160 Cymru, a mynychwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Kirsty Williams AC, ynghyd â chynrychiolwyr ledled Cymru sy’n gweithio yn y sectorau addysg a chefnogi teulu.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru, ewch i www.sscecymru.co.uk neu cysylltwch â Laura.Bryon@wlga.gov.uk
Am fwy o wybodaeth ar yr ymchwil AAY, e-bostiwch Dr Mark Llewellyn mark.llewellyn@southwales.ac.uk neu Brett Duggan brett@arad.wales
DIWEDD
Mae rhagor o wybodaeth gan: Dilwyn Jones