CLILC

 

Cynghorau Cymru wedi ymrwymo i Gymru Wrth Hiliol

  • RSS
Dydd Mercher, 24 Mawrth 2021 Categorïau: Cydraddoldeb a chydlyniant cymunedol Newyddion
Dydd Mercher, 24 Mawrth 2021

Mae CLlLC a phob un o gynghorau Cymru wedi arwyddo addewid #DimHiliaethCymru cyn cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru gan Lywodraeth Cymru ac i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Gwahaniaethu ar Sail Hil.

 

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Cyd Lefarydd CLlLC dros Gydraddoldebau, Diwygio Budd-daliadau a Gwrth-Dlodi:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n cymunedau i wneud Cymru yn wlad wrth-hiliol. Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i’w groesawu ac yn herio ein cyrff cyhoeddus a’r gymdeithas ehangach i wneud mwy. Bydd yn mynnu arweiniad, yn mynnu gweithredu ac yn mynnu newid. Rydyn ni wedi ymrwymo i ymateb yn bositif i’r ymgynghoriad hwn i sicrhau ein bod ni’n mynd i’r afael â hiliaeth ac anghydraddoldeb yng Nghymru.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Mary Sherwood (Abertawe), Cyd Lefarydd CLlLC dros Gydraddoldebau, Diwygio Budd-daliadau a Gwrth-Dlodi:

“Rwy’n falch fod cynghorau Cymru wedi arwyddo addewid Dim Hiliaeth Cymru, yn sefyll yn erbyn hiliaeth ac yn ymrwymo i hyrwyddo gweithleoedd a chymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal. Fe wnaeth Cyngor CLlLC hefyd yn ddiweddar ymrwymo i gynllun gweithredu “Amrywiaeth mewn Democratiaeth” uchelgeisiol sydd â’r nôd i hybu’r amrywiaeth o ymgeiswyr a chynghorwyr yn yr etholiadau lleol fis Mai nesaf. Mae cynghorau hefyd wedi gweithio tuag at leihau anghydraddoldebau ond mae’r Cynllun Gweithredu yn dangos ein bod angen gweithredu ar y cyd gyda’n gilydd gan fod hiliaeth yn parhau i fod yn ein cymdeithas ac anghydraddoldeb yn parhau i effeithio’n wael ar fywydau pobl Dduon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.”

 

-DIWEDD-

 

Am fwy o wybodaeth:

Mae’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei siapio gan bobl sydd â phrofiad bob dydd o hiliaeth ac wedi ei lunio trwy ymgysylltu gyda chymunedau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a rhanddeiliaid allweddol eraill.

 

Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael yma: https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cydraddoldeb-hiliol-cymru-wrth-hiliol        

http://wlga.cymru/wales-councils-committed-to-an-anti-racist-wales