CLILC

 

Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru

Sefydlwyd Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru (WSMP) yn 2001, mae’n cael ei ariannu gan y Swyddfa Gartref ac mae’n gweithio gyda rhanddeiliaid yn y sectorau statudol, gwirfoddol, preifat a chymunedol i ddarparu arweinyddiaeth strategol, cynghorol a chydlynol ar ymfudo yng Nghymru. Mae yna hefyd Bartneriaethau Mewnfudo ar draws y DU, yn ffurfio seilwaith cenedlaethol.

 

Mae Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru yn cael ei chynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i adlewyrchu rôl Cymru o’r Bartneriaeth ar ymfudo a helpu i feithrin gweithio’n agosach gyda’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gan gysylltu â strwythurau gwleidyddol llywodraeth leol a blaenoriaethau lleol. 


Wcráin - Gwybodaeth a Chymorth


GWEFAN NEWYDD

PARTNERIAETH MEWNFUDO STRATEGOL CYMRU

EWCH I - https://www.wsmp.cymru/home


Mae’r tîm yn cynnwys:

 

Anne Hubbard - Rheolwr

anne.hubbard@wlga.gov.uk

07950 954925

Emma Maher - Cydlynydd Ailgartrefu Ffoaduriaid

emma.maher@wlga.gov.uk

07787 558244

Sabina Hussain - Cydlynydd Plant ar eu Pen eu Hunain sy’n Ceisio Lloches

sabina.hussain@wlga.gov.uk

07787 578873

Erica Williams - Cydlynydd ESOL

erica.williams@wlga.gov.uk

07436 034913

Michael Smith - Cydlynydd Prosiect Cynllun BN(O) Hong Kong

michael.smith@wlga.gov.uk 

07502 276946

 

E-bost: WSMPCentralAdmin@wlga.gov.uk


Rôl y Bartneriaeth yw:

  • Hwyluso cydweithrediad a thrafodaeth ymhlith y DU, llywodraeth leol a datganoledig a gwasanaethau cyhoeddus, sector gwirfoddol a phreifat a holl bartneriaid â diddordeb mewn ymfudiad, i gefnogi camau strategol.
  • Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu polisi ymfudo cenedlaethol, datganoledig a lleol, datrys materion a rhannu arfer orau 
  • Cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mewnfudwyr ar draws Cymru
  • Gweithredu fel cwndid ar gyfer llif gwybodaeth dwy ffordd rhwng y Swyddfa Gartref ac adrannau eraill o’r llywodraeth a phartneriaid cenedlaethol (DU a Chymru)

 

Mae Bwrdd Gweithredol Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn i sicrhau trosolwg strategol o raglenni mudo yng Nghymru a dull cydlynol, yn seiliedig ar leoedd.

 

Mae cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol yn cael eu cadeirio gan y Cyng Susan Elsmore a mynychir gan aelodau etholedig ac uwch gynrychiolwyr awdurdodau lleol, y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru, Clearsprings/Ready Homes, y Groes Goch Prydeinig, Cymorth Mewnfudwyr, Cyngor Ceiswyr Lloches Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Alltudion ar Waith (DPIA), Heddluoedd Cymru, Cymunedau Ffydd. Arsylwyr: Comisiynydd Plant Cymru a Sefydliad y Cyfarwyddwyr


Dolenni:


https://wlga.cymru/wales-strategic-migration-partnership