Datganiad i'r Wasg WLGA am achos Forge Care Homes Ltd ac eraill (Ceiswyr) yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (Atebwyr) [2017] UKSC 56 – Apêl ar ôl EWCA Civ 26[2016]

Dydd Iau, 03 Awst 2017

Ynglŷn â phenderfyniad y Goruchaf Lys ar ariannu gofal ymgeledd heddiw, mae WLGA yn hyderus y bydd pawb yn gallu symud ymlaen. Roedd yn yr achos hwn faterion cymhleth ac ymestynnol sydd wedi profi egwyddorion cyfreithiol. Er y gallai ymddangos ar yr olwg gyntaf yn ddadl dechnegol eithaf syml rhwng dau gorff, mae’n ymwneud â meini prawf cyfreithiol a allai effeithio ar drigolion cartrefi gofal yng Nghymru a ledled y Deyrnas Gyfunol.

Aeth Forge Care Homes i’r gyfraith yn 2014 i bennu egwyddorion cyfreithiol sylfaenol ynglŷn ag ariannu’r rhan o ofal cymdeithasol sy’n ymwneud â nyrsio yn ôl Adran 49 Deddf Gofal Iechyd a Chymdeithasol 2001. Mae’r Goruchaf Lys wedi cydnabod bod ystyr yr adran honno yn bwysig iawn i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol Cymru ac i filoedd o bobl sy’n talu’n llawn neu’n rhannol am ofal mewn cartrefi, yn ogystal â’r rhai yn Lloegr lle mae’r ddeddf yn debyg. Mae’n bwysig bod y Goruchaf Lys wedi dweud nad yw’r dadleuon cyfreithiol hynny wedi’u trafod eto mewn unrhyw achos arall y penderfynwyd arno.

Didolir trigolion cartrefi gofal yn ôl tri dosbarth: (1) y rhai mae angen ‘gofal iechyd parhaus arnyn nhw’ – gofal mae rhaid i’r GIG ei ariannu’n llawn; (2) y rhai mae angen rhywfaint o ofal nyrsio arnyn nhw er nad eu prif angen yw gofal o’r fath – ‘gofal nyrsio wedi’i ariannu’; (3) y rhai ac arnyn nhw’r anghenion lleiaf – naill ai’r awdurdod lleol neu’r trigolion eu hunain fydd yn talu am y gofal hwnnw. Mae byrddau iechyd lleol Cymru wedi pennu faint o arian y byddan nhw’n ei roi ar gyfer ‘gofal nyrsio wedi’i ariannu’ trwy ddiffinio faint o amser y bydd nyrs yn ymwneud ag ymgeledd a faint o amser y bydd yn ymwneud â gofal cymdeithasol. Fe gododd nifer o gartrefi gofal amheuon ar hynny (gyda chefnogaeth yr awdurdodau lleol), er mwyn pennu a ddylai’r GIG dalu am holl amser nyrs mewn sefyllfa o’r fath. Dyna’r mater a oedd gerbron y Goruchaf Lys.

Meddai’r Cynghorydd Susan Elsmore (Caerdydd), Dirprwy Lefarydd WLGA dros Ofal Iechyd a Chymdeithasol (Gwasanaethau i Oedolion):

“Rhaid i’r awdurdodau lleol, y GIG a Llywodraeth Cymru bwyso a mesur y penderfyniad ac ystyried y goblygiadau ymarferol. Bydd yr awdurdodau lleol yn ceisio cydweithio ag amryw bartneriaid yn y sector i gynnig gwasanaethau pwysig i drigolion cartrefi. Rydyn ni’n gwybod bod y GIG a Llywodraeth Cymru am wneud hynny, hefyd. Yn sgîl y penderfyniad hwn, mae’n hanfodol inni fwrw ymlaen a cheisio llunio trefn ariannu fydd yn cynnal y gwasanaeth craidd hwn am flynyddoedd i ddod. Mae pobl y wlad yn haeddu hynny.

Rydyn ni’n cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru i gydlynu’r camau nesaf.  Hoffai WLGA weld ymateb pwyllog ac aeddfed sy’n cydnabod y bydd angen i bob awdurdod lleol ystyried y penderfyniad yn ofalus cyn cysylltu â’r awdurdodau eraill – yn ogystal â’r byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru a pherchnogion y cartrefi gofal – i bennu’r goblygiadau ymarferol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Huw David, Llefarydd WLGA dros Ofal Iechyd a Chymdeithasol:

“Mae’r penderfyniad yn ymwneud â phennu ffiniau ariannu yn fanwl gywir yn ôl y gyfraith. Gan nad oedd diffiniad cyfreithiol eglur, roedd amwysedd a arweiniodd at ddau ddehongliad gwahanol gan ddwy gyfundrefn wahanol. Mae’r penderfyniad heddiw yn arwyddocaol iawn yn hyn o beth ledled Cymru a’r Deyrnas Gyfunol.”

Amheuon sector y gofal cymdeithasol sbardunodd yr achos yn 2013. Pan aeth cartrefi gofal i’r gyfraith, enwyd yr awdurdodau lleol yn ‘bleidiau a chanddynt fuddiannau’.

Trwy barhau i gydweithio’n agos ac yn adeiladol ledled y sector cyhoeddus â phartneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Llywodraeth Cymru, mae’r awdurdodau lleol yn ymrwymo i gynnig gofal cymdeithasol yn ôl anghenion trigolion cartrefi gofal – nod sy’n gyffredin i bawb.

DIWEDD


Mae rhagor o wybodaeth gan: Stewart Blythe

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30