CLILC

 

CLlLC yn ymateb i’r streic gan undebau athrawon.

  • RSS
Dydd Mercher, 01 Chwefror 2023 Categorïau: Newyddion
Dydd Mercher, 01 Chwefror 2023

Mae CLlLC yn cefnogi egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn llawn ac mae’n barod i weithio gyda phartneriaid yn yr undebau llafur i ddatrys unrhyw anghytundeb. Yn yr achos hwn, mae CLlLC wedi bod yn gweithio’n agos gyda chynghorau, undebau llafur a Llywodraeth Cymru i geisio cael setliad cadarnhaol. Mae cynghorau mewn cysylltiad cyson â'u hysgolion o ran rhoi arweiniad a chyngor priodol iddyn nhw ynghylch y gweithredu diwydiannol a gynlluniwyd. Mae sawl cyfarfod adeiladol wedi’u cynnal yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae CLlLC wedi ymrwymo i barhau â’r drafodaeth hon hyd nes y ceir datrysiad.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Llefarydd Addysg CLlLC: “Mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i weithio’n agos mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru a’r undebau i ddatrys yr anghydfod hwn, ac i geisio tarfu cyn lleied â phosibl ar yr addysg sy’n cael ei darparu, rydym ni wedi cael cyngor cyfreithiol annibynnol i sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio â’r holl ofynion.”

 

-Diwedd

http://wlga.cymru/wlga-responds-to-teaching-unions’-strike-action