Ymateb CLlLC i sylwadau yr Ysgrifennydd Cabinet

Dydd Mercher, 24 Hydref 2018

Wrth ymateb i sylwadau yr Ysgrifennydd Cabinet Alun Davies AC, dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Dirprwy Arweinydd CLlLC:

“Mae’r sylwadau gan yr Ysgrifennnydd Cabinet yn hynod o anffodus ac amhriodol, yn enwedig wrth gofio taw ef yw ‘llais’ llywodraeth leol o amgylch bwrdd Cabinet Llywodraeth Cymru. Wythnos diwethaf, siaradodd gyda BBC Cymru yn cydnabod, o ganlyniad i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru: “Mae pobl yn mynd i weld gwasanaethau lleol yn crebachu o ganlyniad i’r cynni ariannol….. ac mae hyn yn mynd i gael goblygiadau mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.’ Yr wythnos yma, mae’n bychannu y rheiny sydd yn dadlau dros lefelau teg o gyllid i gefnogi gwasanaethau hynny sy’n cael eu trysori, megis addysg, gofal cymdeithasol, tai a thrafnidiaeth ar gyfer y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau ar draws Cymru.

“Rydyn ni’n galw ar y Prif Weinidog i bellhau ei hun oddi wrth sylwadau yr Ysgrifennydd Cabinet ac i ystyried os ydi hi’n briodol iddo aros yn y Cabinet yn ei rôl bresennol. Mae cyfeiriad yr Ysgrifennydd Cabinet i Oliver Twist yn adlewyrchu ddiffyg dealltwriaeth o lenyddiaeth Saesneg a llywodraeth leol fel eu gilydd. Ydi ef o ddifrif yn cymeriadu ei hun fel y ‘Mr Bumble’ yng Ngwleidyddiaeth Cymru, goruchwilydd creulon y wyrcws? Dydyn ni ddim yn ymddiheuro am ofyn am fwy o adnoddau gan Lywodraeth Cymru i arbed y gwasanaethau hynny sy’n cael eu darparu gan athrawon, gweithwyr ieuenctid, llyfrgellwyr a gweithwyr cymdeithasol, sy’n gweithio’n galed i amddiffyn cymunedau Cymru.”

 

-DIWEDD-

 

 

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30