CLILC

 

Dathlu digwyddiad gofal a chanlyniadau cartref 2021

Crefft Comisiymu (NDTI / CLS)

  • Cyflwyniad i gymorth dan arweiniad y gymuned, yn edrych ar brosiectau o amgylch y DU sydd wedi treialu’r gwaith hwn a’r egwyddorion y tu ôl iddo, amcanion y prosiect, adnoddau a ddefnyddir a sut gall comisiynu a chomisiynwyr gefnogi ac annog hyn.

Catalyddion Cymunedol

  • Cyflwyniad ar fanteision defnyddio catalyddion cymunedol yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae catalyddion cymunedol yn cefnogi cydweithio gydag asiantaethau llai a PAs gyda dull cymunedol o gefnogi pobl. 

Gofal & Chefnogaeth yn y cartref

  • Golwg ar yr adnodd mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi’i ddatblygu o ran ymarfer sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau o fewn gofal cartref. Hefyd yn cynnwys y rhaglenni lles a gynhelir gan Gofal Cymdeithasol Cymru a manteision y rhain i’r sawl sy’n gweithio o fewn y sector.

Ymagwedd newydd tuag at ofal cartref

  • Cyflwyniad ar sut mae Timau Lles y gweithio i helpu pobl i fyw’n dda gartref a bod yn rhan o’u cymuned. Mae timau lles yn cael eu hunan-reoli, yn arwain yn ôl gwerth ac wedi eu lleoli yn y gymuned / gymdogaeth.

Modelau Amgen ar gyfer Gofal Cartref

  • Golwg ar fodelau amgen o ofal, gydag enghreifftiau o wahanol rannau o’r DU a’r byd. 

Gweinyddu Meddyginiaeth

  • Cyflwyniad yn amlinellu’r weledigaeth a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan y gweithgor ar gyfer polisi a gweithdrefn Meddyginiaeth Cymru gyfan.  

Cost gofal cartref

  • Cyfle i ddysgu am fatrics cost newydd ar gyfer gofal cartref, sydd wedi ei greu a’i lansio gan weithgor ac mae’n cynnwys cymryd golwg fyw arno. 

Tystiolaeth datblygu ymarfer gofal cartref ar draws Cymru

  • Cyflwyniad ar yr astudiaethau achos, gyda chipolwg ar sut mae pob un wedi gweithio hyd yma a beth a ddysgwyd. 
https://wlga.cymru/celebration-of-care-and-home-outcomes-event-2021