CLILC

 

Arferion Asesu Effeithiau ar Gydraddoldeb yng Nghymru

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chanolfan y GIG dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd wedi datblygu Canolfan Arferion yr Asesu Effeithiau ar Gydraddoldeb i helpu’r GIG a’r cynghorau lleol i feithrin gallu strategol ynghylch asesu effeithiau ar gydraddoldeb a gwella lefel ac ansawdd eu tystiolaeth, eu hymchwil a’u harferion yn y maes hwn.

 

Mae’r wefan yn cynnwys:

 

  • Cyflwyno’r asesu: Esbonio natur asesu effeithiau ar gydraddoldeb, y cyd-destun cyfreithiol (gan gynnwys achosion yn y llys) a rôl yr asesu o ran craffu a newid
  • Wyth cam yr asesu: Sut mae asesu effeithiau’n llwyddiannus
  • Adnoddau: Linciau ag amryw adnoddau yn ogystal â deunydd am benderfyniadau llysoedd ym maes cydraddoldeb

Mae rhagor o wybodaeth gan: Joseph Lewis

https://wlga.cymru/equality-impact-assessment-in-wales-practice-hub