CLILC

 

Cymoeth ym maes tai

Mae cymorth ym maes tai yn cynnig gwasanaethau hyblyg sy'n galluogi pobl fregus eu sefyllfa i fyw'n annibynnol.  Mae rôl hanfodol i wasanaethau o'r fath ynglŷn ag atal digartrefedd hefyd, yn ogystal â lleddfu'r pwysau ar lawer o wasanaethau cyhoeddus eraill megis iechyd a chyfiawnder troseddol.  Mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am asesu a oes angen cymorth ym maes tai, cynllunio'n strategol a chomisiynu gwasanaethau.

Un o argymhellion adroddiad adolygiad annibynnol gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2010 oedd cyfuno Grant Rhaglen ‘Cefnogi Pobl’ a Grant Cyllid Rhaglen ‘Cefnogi Pobl’.  Mae hynny wedi digwydd bellach, a’r awdurdodau lleol sy’n gweinyddu Grant Rhaglen ‘Cefnogi Pobl’ ar ei newydd wedd. Dyma ragor am y grant hwnnw a Rhaglen ‘Cefnogi Pobl’.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle

https://wlga.cymru/housing-related-support