CLILC

 

Deddfwriaeth

Mae hawl gan y Senedd i sefydlu deddfau o’r enw ‘Deddfau’r Cynulliad’ a allai ddeillio o Fesur Cyhoeddus wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru (ar ôl ymgynghori am Bapur Gwyn fel arfer), un o bwyllgorau’r Cynulliad, un o aelodau’r Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad. Senedd San Steffan sy’n gyfrifol am ddeddfu mewn meysydd heb eu datganoli.

Mae modd gweld hynt y deddfu, yn ogystal â chanllawiau am y broses, ar wefan y Senedd a gwefan Senedd San Steffan.

Dyma fanylion rhai mesurau mae WLGA wedi cyflwyno tystiolaeth yn eu cylch – naill ai yn ystod cyfnod eu llunio (Papur Gwyn) neu’r craffu cyn sefydlu deddf:


Bil Llywodraeth Leol (Cymru)

Cyflwynwyd 26 Ionawr 2015

Daeth Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 yn gyfraith yng Nghymru ar 25 Tachwedd 2015.


Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Cyflwynwyd 12 Medi 2016

Daeth Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn gyfraith yng Nghymru ar 24 Mai 2017.


Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Cyflwynwyd 7 Tachwedd 2016

Daeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn gyfraith yng Nghymru ar 3 Gorffennaf 2017.


Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 

Cyflwynwyd 28 Tachwedd 2016

Daeth Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yn gyfraith yng Nghymru ar 7 Medi 2017.


Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Cyflwynwyd 12 Rhagfyr 2016

Daeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn gyfraith yng Nghymru ar 24 Ionawr 2018.


Bil yr Undebau Llafur (Cymru) 

Cyflwynwyd 16 Ionawr 2017

Daeth Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn gyfraith yng Nghymru ar 7 Medi 2017.


Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 

Cyflwynwyd 13 Mawrth 2017

Daeth Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 yn gyfraith yng Nghymru ar 24 Ionawr 2018.


Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Cyflwynwyd 02 Hydref 2017

​Daeth Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn gyfraith yng Nghymru ar 22 Mai 2019.


Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018

Cyflwynwyd 16 Hydref 2017

Daeth Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 yn gyfraith yng Nghymru ar 13 Mehefin 2018.


Bil Awtistiaeth (Cymru) 

Cyflwynwyd 13 Gorffennaf 2018

Gwrthodwyd y Bil Awtistiaeth (Cymru) gan y Cynulliad.


Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) 

Cyflwynwyd 12 Chwefror 2019

Daeth Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2019 yn gyfraith yng Nghymru ar 15 Ionawr 2020.


Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Cyflwynwyd 25 Mawrth 2019

Daeth Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 ar 20 Mawrth 2020.


Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

Cyflwynwyd 01 Mehefin 2019

Daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 ar 1 Mehefin 2020.


Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Cyflwynwyd 18 Tachwedd 2019

Rheoliadau drafft i sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau)

Y Pwyllgor Cyllid

(Goblygiadau ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

  • Tystiolaeth Ysgrifenedig WLGA Ionawr 2020 (Cymraeg i ddilyn)
  • Tystiolaeth Lafar WLGA Trawsgrifiad 29 Ionawr 2020
  • Tystiolaeth Lafar WLGA Gweld y cyfarfod 29 Ionawr 2020

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

(Ystyried Cyfnod 1 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Daeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ar 20 Ionawr 2021.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford

https://wlga.cymru/legislation