CLILC

 

Paneli dros faterion plismona throseddu

Policing and fire governance: guidance for police and crime panels

  • This guidance has been produced for police (fire) and crime panel chairs, members and support officers and those with whom they work. It is intended to provide information about the statutory roles of panels and to highlight good practice that has been developed over the years since panels were first established.

Protocol Plismona (Saesneg yn unig)

  • Mae Protocol y Plismona’n esbonio sut bydd trefniadau newydd llywodraethu plismona’n gweithio. Mae’n egluro rôl a chyfrifoldebau’r comisiynwyr dros blismona a throseddu, y prif gwnstabliaid a’r paneli dros faterion plismona a throseddu. Mae’n dweud beth mae disgwyl i bawb ei wneud a sut dylen nhw gydweithio i drechu troseddwyr a gwella plismona.

Cysgodol Plismona’n Strategol (Saesneg yn unig)

  • Mae Cysgodol Plismona’n Strategol yn disgrifio bygythiadau i’r deyrnas a gallu pob heddlu i’w lleddfu ym marn yr Ysgrifennydd Cartref. Rhaid i gomisiynwyr dros faterion plismona a throseddu ystyried plismona’n strategol wrth gyhoeddi cynlluniau plismona a throseddu ym mhob ardal. Bydd rhaid i brif gwnstabliaid ystyried y cynlluniau hynny a’r gofyn i blismona’n strategol fel ei gilydd wrth roi gwasanaethau yn yr ardal, a bydd paneli dros faterion plismona a throseddu’n gofalu eu bod yn gwneud hynny. Mae’r Gofyn i Blismona’n Strategol wedi’i gyhoeddi ar ffurf ‘gysgodol’ gan nad yw’n ddogfen statudol eto. Bydd yn cyfeirio’r cynlluniau plismona sydd ar y gweill ar gyfer 2012/13 – cyfnod y pontio rhwng awdurdodau heddlu a chomisiynwyr dros faterion plismona a throseddu. Bydd yn statudol o fis Tachwedd 2012 a bydd yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol lle bo angen.

Home Office: Candidate Briefing - Working with others within your force area (Saesneg yn unig)

  • Mae’r papurau hyn yn disgrifio sut y dylai comisiynwyr heddluoedd a materion troseddu gydweithio â sefydliadau eraill yn ardal pob heddlu.

Deddfwriaeth

Dyma’r ddeddfwriaeth eilaidd hyd yma.

Police and Crime Panels (Modification of Functions) Regulations 2012

  • Mae’r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer addasu, gohirio, trosglwyddo neu ddileu rhai o swyddogaethau awdurdodau lleol neu’r Ysgrifennydd Gwladol ynglyn â sefydlu paneli dros faterion plismona a throseddu.

Police and Crime Panels (Notifications, Nominations and Appointments) Regulations 2012

  • Mae’r rheoliadau hyn yn sôn am hysbysiadau ynglyn â chadw at weithdrefn sefydlu paneli dros faterion plismona a throseddu yn ogystal ag enwebu a phenodi aelodau’r paneli.

Police and Crime Panels (Precepts and Chief Constable Appointments) Regulations 2012

  • Mae’r rheoliadau hyn yn ymwneud â’r modd y bydd paneli dros blismona a throseddu yn ystyried cynigion comisiynwyr ynglyn â phennu’r archebiant a phenodi prif gwnstabl.

Police and Crime Commissioner Election Order 2012

  • Yn ogystal â’r rheoliadau arfaethedig hyd yn hyn, mae’r gorchymyn arfaethedig uchod wedi’i roi gerbron Senedd San Steffan. Mae ynddo reolau’r etholiadau cyntaf ar gyfer comisiynwyr dros faterion plismona a throseddu ar 15fed Tachwedd 2012. Mae’r rheolau’n sôn am fod yn ymgeisydd, faint y dylai ymgeiswyr ei wario yn ystod yr ymgyrch, pa roddion mae modd eu derbyn, pa rai mae rhaid eu cofrestru a sut bydd yr etholiad yn cael ei gynnal.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Morgan

https://wlga.cymru/police-and-crime-panels